Cynadleddau Ottawa ac AMEE, Lyon, 26-31 Awst 2022
12 Hydref 2022
Drwy gymryd rhan yn fy nghynhadledd gyntaf wyneb yn wyneb ers y pandemig, ces i fynd i ddinas hardd Lyon. Rhedodd cynadleddau Ottawa ac AMEE (Cymdeithas Addysg Feddygol yn Ewrop) gefn wrth gefn dros y chwe diwrnod.
Cynhaliodd Julie Browne a minnau weithdy yng nghynhadledd Ottawa ar ddulliau consensws ar gyfer gosod canlyniadau mewn addysg gofal iechyd. Ni fu llawer yno, ysywaeth, ond roedd y rhai oedd yno wir i'w gweld wedi eu hysbrydoli i ddefnyddio dull y grŵp enwol yn eu gwaith. Yng nghynhadledd AMEE, rhoddais gyflwyniad llafar ar hyfforddiant eang ei sail. Roedd y rhaglen hon yn cynnig lleoliadau 6 mis i feddygon dan hyfforddiant mewn ymarfer cyffredinol, meddygaeth graidd, pediatreg a seiciatreg. Adroddais ar astudiaeth ddilynol i'n gwaith cynharach (er enghraifft, gweler Bullock et al, 2018, BMJ Open; Muddiman et al, 2016 BMJ Open) ac rwy'n ddiolchgar am gyllid gan Addysg Iechyd Lloegr (HEE) (Gogledd-orllewin) am y cyfle i ailgysylltu â'r cyfranogwyr gwreiddiol. Roedd yr ystafell yn llawn ar gyfer y sesiwn honno, gyda thua 100 o bobl. Rwy'n credu bod y patrymau presenoldeb yn adlewyrchu'r amserlennu a'r niferoedd yn y digwyddiadau perthnasol. Roedd AMEE yn brysur, Ottawa yn llai (ac i mi, yn well o’i herwydd).
Roeddwn i'n meddwl bod ansawdd cyffredinol y sesiynau y cymerais i ran ynddyn nhw’n dda. Er mai digwyddiad rhyngwladol yw e, defnyddiais yr amser i glywed am y newidiadau sy'n digwydd i HEE wrth iddynt symud i Hyfforddiant ac Addysg y Gweithlu o 1 Ebrill 2023. Mae'n gyfnod o newid sylweddol ym maes addysg feddygol, gan gynnwys cyflwyno rhaglen brentisiaeth gradd feddygol.
Rydw i ar Bwyllgor Ymchwil AMEE a bu’n braf cwrdd yn bersonol. Ymunodd y Prif Weithredwr newydd, Dr Anne Lloyd, â'r cyfarfod i ddysgu rhywbeth am waith y pwyllgor. Dilynwyd y cyfarfod gan bryd da o fwyd mewn bwyty bach yn gweini bwyd lleol wedi'i goginio yn ôl ryseitiau traddodiadol.
Teithiais gan Eurostar a fyddai wedi bod yn gwbl bleserus oni bai am yr oedi. Ond eto, mae'n fraint cael cyfle i gymryd rhan a chyflwyno mewn digwyddiadau rhyngwladol.