Llyfr arobryn yn wobr am y marciau uchaf
3 Hydref 2022
Mae Jack Kinder, sydd newydd gwblhau ei astudiaethau Trafnidiaeth a Chynllunio (MSc) yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, wedi cael ei gydnabod am ei berfformiad academaidd rhagorol.
Cadarnhawyd mai Jack gyflawnodd y marc uchaf am yr elfen a addysgir yn y rhaglen meistr, gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen Dr Dimitris Potoglou yn canmol Jack am ei waith caled a'i ymrwymiad i faes cyffrous trafnidiaeth a chynllunio.
Cafodd Jack gopi o lyfr arobryn yr Athro Emeritws Huw Williams, Forecasting Urban Travel Past, Present and Future, yn rhodd. Cyd-awdurwyd y gyfrol gyda'r Athro David Boyce o Brifysgol Illinois yn Chicago, ac enillodd Wobr Goffa William Alonso am Waith Arloesol mewn Gwyddoniaeth Ranbarthol.
Dywedodd Dr Potoglou: "Hoffwn longyfarch Jack am ei gamp a'i waith caled. Rwy'n dymuno pob llwyddiant iddo yn ei ymdrechion yn y dyfodol. “Hoffwn ddiolch hefyd i’r Athro Williams am roi copi o’i lyfr gwych, sy’n gosod yr agenda, i ni ei roi fel gwobr, ac am gefnogi ein myfyrwyr a’u datblygiad.”
Dywedodd Jack: "Mae'n anrhydedd i mi fod wedi derbyn y llyfr 'Forecasting Urban Travel, Past, Present and Future' gan yr Athro Huw Williams.
"Rwyf wedi mwynhau astudio ar y rhaglen Trafnidiaeth a Chynllunio (MSc) yma yng Nghaerdydd yn fawr iawn, ac rwy'n gadael ar ôl dysgu llawer iawn, a theimlo cymhelliant i barhau â fy ngyrfa yn y sector. Mae hefyd wedi bod yn bleser gweithio ochr yn ochr a dod i adnabod myfyrwyr eraill ar fy nghwrs, yn ogystal â'r staff addysgu sydd wastad wedi bod mor gefnogol ac atyniadol.
"Hoffwn ddiolch i'r Athro Huw Williams am gyfraniad caredig ei lyfr.”