Dadorchuddiwyd plac glas i ddathlu'r ffisiolegydd yr Athro Thomas Graham Brown
3 Hydref 2022
Mae cynllun plac y Gymdeithas Ffisiolegol, sy’n cydnabod ffisiolegwyr rhagorol, yn nodi mwy na 100 mlynedd o ymchwil ffisioleg flaengar yn yr hyn sydd bellach yn Brifysgol Caerdydd.
Mae plac glas sy’n dathlu’r ffisiolegydd enwog yr Athro Thomas Graham Brown wedi’i ddadorchuddio gan y Gymdeithas Ffisiolegol a’r Athro Ole Peterson CBE FRS yn Ysgol y Biowyddorau.
Roedd yr Athro Thomas Graham Brown (1882 – 1965) yn ffisiolegydd a oedd yn enwog am ei ymchwil niwrolegol, ac yn ddringwr Alpaidd Prydeinig. Yn 1920 penodwyd ef yn gadeirydd Ffisioleg ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd, swydd a ddaliodd hyd 1947. Mae'r Athro Brown yn fwyaf adnabyddus am ei astudiaethau ar reolaeth niwral symudiad rhythmig a ddisgrifir mewn cyfres o bapurau a gyhoeddwyd yn y Quarterly Journal of Experimental Physiology o dan y teitl cyffredinol 'Studies in the physiology of the nervous system'.
Tra ym Mhrifysgol Cymru yng Nghaerdydd, roedd yr Athro Brown hefyd yn bennaeth Sefydliad Ffisioleg Caerdydd (CIP), fu’n newydd ar y pryd. Goruchwyliodd dwf sylweddol yn enw da’r hyn a fyddai’n dod yn Goleg Meddygaeth Prifysgol Cymru, a elwir bellach yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.
Yr Athro Brown oedd yr ymchwilydd cyntaf i gynnig model hanner-canolfan o niwronau echddygol lle gall dau grŵp o niwronau asgwrn cefn gynhyrchu symudiad rhythmig sylfaenol. Er iddo gael ei ddiystyru ar y pryd, cydnabuwyd ei fodel hanner can mlynedd yn ddiweddarach pan osododd y sylfaen ar gyfer maes rheoli echddygol. Mae'r ddamcaniaeth yn adlewyrchu'r cysyniad a dderbynnir yn eang heddiw o gynhyrchwyr patrwm canolog mewn niwronau modur.
Dywedodd yr Athro Frank Sengpiel, Pennaeth Niwrowyddoniaeth Ysgol y Biowyddorau: “Mae dadorchuddio’r plac glas hwn sy’n coffáu Thomas Graham Brown yn nodi mwy na 100 mlynedd o ymchwil flaengar mewn ffisioleg yn yr hyn sydd bellach yn Brifysgol Caerdydd.
"Mae’n deyrnged deilwng i waith Brown fod ymchwil i gyflyrau niwroddirywiol, fel clefyd Parkinson, yn cael lle amlwg yng Nghaerdydd heddiw.”
Mae cynllun placiau glas y Gymdeithas Ffisiolegol yn cydnabod ffisiolegwyr rhagorol, gan roi cydnabyddiaeth hirdymor o'r effaith y mae'r gwyddonwyr hyn wedi'i chael, a thrwy hynny, arwydd o ragoriaeth ar gyfer y prifysgolion y maent yn eu haddurno.
Dywedodd yr Athro David Paterson, Llywydd y Gymdeithas Ffisiolegol: “Mae’n anrhydedd bod yng Nghaerdydd i ddadorchuddio’r plac hwn i gofio’r Athro Thomas Graham Brown.
"Dyma'r pedwerydd dadorchuddiad ar ddeg yng nghynllun Placiau Glas y Gymdeithas Ffisiolegol sydd â'r bwriad o godi amlygrwydd ffisioleg a rhoi cipolwg i'r cyhoedd ehangach ar y rôl gadarnhaol y mae 'gwyddor bywyd' yn ei chwarae yn eu bywydau bob dydd. Gobeithiwn y bydd y placiau hyn yn tanio chwilfrydedd ac yn helpu i ysbrydoli cenedlaethau newydd i ymwneud â’r gwyddorau ffisiolegol.”