Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn penodi Pennaeth newydd
28 Medi 2022
Yr Athro Warren Barr yw Pennaeth newydd Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.
Mae’r Athro Barr yn dod o Belfast, Gogledd Iwerddon yn wreiddiol, ac mae’n ymuno â Phrifysgol Caerdydd ar ôl treulio 25 mlynedd yn academydd ym Mhrifysgol Lerpwl. Ac yntau’n arbenigo ym meysydd cyfraith elusennau, tai cymdeithasol a chyfraith eiddo, dechreuodd yr Athro Barr ei gyfnod o bum mlynedd yn swydd Pennaeth yr Ysgol ar 1 Medi 2022. Ar hyn o bryd, mae’n treulio amser yn cwrdd â’i gydweithwyr ar draws yr holl ddisgyblaethau ac yn ymgyfarwyddo â’i gartref academaidd a dinas newydd.
Wrth sôn am ei benodiad, dywedodd yr Athro Barr: “Fy mhrif flaenoriaeth yw dod i adnabod y bobl arbennig yma yn yr Ysgol a'u helpu i gytuno ar weledigaeth a fydd yn ein galluogi i symud ymlaen at bethau mwy gwych fyth. Hoffwn ychwanegu at ganlyniadau rhyfeddol ymchwil o’r byd go iawn, rhoi profiad gwych i bob gweithiwr a myfyriwr a rhoi gwybod i’r byd cyfan pa mor bwysig yw’r gwaith sy’n cael ei wneud yma. Rwy'n credu'n gryf bod pethau gwych yn digwydd pan fydd pobl wych yn teimlo eu bod yn cael eu grymuso i symud pethau yn eu blaenau.”
Yn dilyn y pandemig, ac wrth ystyried y materion rhyngwladol sy’n cael effaith ar bob un ohonom, mae’r Athro Barr yn credu y dylai cymuned a charedigrwydd fod wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud.
Dywedodd: “Mae'n well gennyf ystyried heriau’n gyfleoedd, ac mae cymaint o gyfleoedd ar gael yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol i’r Ysgol hon ychwanegu at y gwaith gwych sy’n cael ei wneud. Efallai mai’r prawf mwyaf i ni yw rheoli newid yn effeithiol. Mae sefydliadau addysg uwch yn y DU mewn sefyllfa sy’n cyson newid o ran polisi, rheoleiddio a chystadleuaeth. Rwy'n edrych ymlaen at helpu i fynd i’r afael â hyn a chael fy ngrymuso gan y ffaith bod prifysgolion fel Prifysgol Caerdydd yn cymryd camau i sicrhau newid cadarnhaol yn y byd.”
Ac yntau’n edrych ymlaen at groesawu’r garfan ddiweddaraf o fyfyrwyr i’r Ysgol y tymor hwn, rhoddodd yr Athro Barr y cyngor hwn: “I unrhyw un sydd wedi neu sy’n ystyried ymuno â’n cymuned, mae gennyf y cyngor canlynol – cymerwch ddiddordeb ym mhopeth, a manteisiwch ar bob cyfle sy’n cael ei roi i chi. Mae llawer mwy i fywyd yn y brifysgol na’r dosbarthiadau – er eu bod yn wych – a bywyd nos ardderchog. Yn bennaf oll, mwynhewch y profiad – bydd yn arwain at newid y byd.”
Tra oedd ym Mhrifysgol Lerpwl, cafodd yr Athro Barr ei benodi i amrywiaeth o swyddi, gan gynnwys swydd Pennaeth yr Adran, swydd y Deon Dros Dro a swydd yr Arweinydd Academaidd ar gyfer Profiad y Myfyrwyr yng Nghyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd ei gyfraniad at arweinyddiaeth ym maes dysgu ac addysgu ei gydnabod drwy ei wneud yn un o Brif Gymrodorion Academi Addysg Uwch y DU. Yr Athro Barr yw Is-Gadeirydd CHULS (Pwyllgor Penaethiaid Ysgolion y Gyfraith yn y DU). Mae’n aelod academaidd o Gymdeithas y Bar Eiddo, ac ef yw Cadeirydd y Bwrdd Astudiaethau Modern ym Maes Cyfraith Eiddo. Ef hefyd yw cyd-awdur gwerslyfr Ecwiti ac Ymddiriedolaethau blaenllaw, Pearce & Stevens’ Trusts and Equitable Obligations (a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen).
Mae diddordebau addysgu'r Athro Barr yn cynnwys ecwiti ac ymddiriedolaethau, cyfraith tir, cyfraith landlord a thenant a chyfraith elusennau.