Myfyrwyr MA Dylunio Pensaernïol yn cymryd rhan yn arddangosfa a thrafodaeth banel gŵyl gelfyddydol Deptford X
28 Medi 2022
Gwnaeth Aishwarya Rajesh Pillai,
Mae Deptford X yn elusen ym maes y celfyddydau gweledol yn Deptford, de-ddwyrain Llundain. Cafodd ei sefydlu ym 1998. Mae'n meithrin talent artistig ac yn datblygu cymuned ym mwrdeistref Lewisham a thu hwnt. Mae’n gwneud hyn drwy gynnal gŵyl flynyddol am ddim yn Deptford a gweithgareddau sy’n cefnogi artistiaid a chymunedau lleol drwy gydol y flwyddyn. Dathlodd yr ŵyl yn 2022 y sylfeini a roddodd fod i’r ŵyl drwy ganolbwyntio ar y prosiectau a gynhaliwyd ers tro gan artistiaid lleol i Deptford, a chafodd y rhan fwyaf o’r gweithgareddau eu cynnal o amgylch Stryd Fawr Deptford.
Cydweithiodd MōSaF ac Empathy & Risk i greu rhaglen comisiynu’r celfyddydau wedi’i harwain gan ymchwil er mwyn ymchwilio i allu gweithgarwch diwylliannol i roi gwybodaeth newydd, codi cwestiynau perthnasol ac ysgogi trafodaeth ehangach ynghylch hanes ac etifeddiaeth y fasnach gaethweision yn ardal Deptford de-ddwyrain Llundain.
Cafodd gwaith ôl-raddedigion ar y cwrs MA Dylunio Pensaernïol yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru ei arddangos yn yr ŵyl. Roedd yr wŷl hefyd yn cynnwys trafodaeth banel a chyd-drafodaeth dan yr enw ‘TRACED: Artists, Architects and Researchers responding to London’s legacy’ a ymchwiliodd i allu’r celfyddydau i ymgysylltu â hanes cymhleth Deptford a’r heriau a allai eu hwynebu wrth geisio gwneud hynny. Gofynnwyd i'r rhai a oedd yn bresennol gymryd rhan yn sgyrsiau Empathy & Risk – sgyrsiau rhwng llunwyr polisïau, artistiaid ac ymgyrchwyr – sy’n dadansoddi, mewn ffordd gymharol, y ffactorau sy’n arwain yn raddol at fethiant a gwrthdaro empathig. Roedd y sgyrsiau wedi’u strwythuro o amgylch y ddau gysyniad, sef Empathi a Risg, a gofynnwyd i’r rhai a oedd yn bresennol ystyried y canlynol:
- Empathi – A yw’n bosibl i ni ystyried pryder cyffredin o safbwynt gwahanol iawn? Mae sgyrsiau Empathy & Risk yn cael eu cynnal yn bwrpasol i ddod â phobl ar draws hierarchaethau a sectorau ynghyd – pobl a fyddai wedi rhannu pryderon, ond cylchoedd a chyd-destunau unigryw o bosibl – i rannu gwybodaeth gyda’i gilydd.
- Risg – Bydd y sgyrsiau’n canolbwyntio ar yr hyn nad yw wedi’i ddatrys, yn hytrach na’r hyn a gyflawnwyd. Yn hytrach na thrafod cyflawniadau yn y gorffennol a gwybodaeth amlwg, bydd y rhai o amgylch y bwrdd yn cael eu hannog i fynd i'r afael â chwestiynau, amheuaeth a methiant.
Ymhlith y panelwyr roedd yr artist gosod Davis Cotterell, Dr Federico Wulff (Ysgol Pensaernïaeth Cymru), Dr Helen Paul (Prifysgol Southampton) a Richard Dyer, Prif Olygydd Third Text a Golygydd Celf Wasafiri.
Meddai'r myfyriwr MA Dylunio Pensaernïol, Aishwarya Rajesh Pillai:
“Braint oedd cael y cyfle i gyflwyno fy ngwaith yng ngŵyl gelfyddydol Deptford X, gŵyl ac elusen hynaf Llundain ym maes y celfyddydau gweledol. Roedd yr arddangosfa o gymorth o ran fy helpu i ystyried a deall sut mae fy nhraethawd ymchwil ar gyfer fy ngradd meistr – ‘Invisible borders’ – yn mynd i’r afael â phryderon o safbwynt pensaernïaeth ffeministaidd, a hynny drwy edrych arnynt mewn ffordd ryngddiwylliannol. Mae’r traethawd ymchwil hwn yn rhoi sylw i’r stigmâu cymdeithasol pensaernïol ym maes cynhwysiant a’r cyfranogiad cymdeithasol gwell ymhlith pobl o wahanol gefndiroedd cymdeithasol. A minnau’n bensaer ifanc, roedd hefyd yn blatfform da i mi ymgysylltu ag artistiaid, penseiri ac ymchwilwyr eraill a oedd yn canolbwyntio ar greu gwaith i fynd i'r afael â materion tebyg yng nghyd-destun amlddiwylliannol Deptford. Roedd arddangos yr ymchwil a arweiniwyd gan waith dylunio hefyd wedi arwain at gael sgyrsiau adeiladol gyda rhanddeiliaid lleol, a oedd yn gallu esbonio sut y gwnaeth gyflawni eu dyheadau.”