Profiadau An(weladwy) yn Niwylliant Blogwyr Fideo “Bywyd Prifysgolion”
6 Hydref 2022
![YouTube app on a smartphone](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0011/2671670/Youtube.png?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Fel rhan o Interniaeth Ymchwil Prifysgol Caerdydd, bu Dr Francesca Sobande a myfyriwr israddedig o'r drydedd flwyddyn Jeevan Kaur, yn ystyried sut a pham mae prifysgolion a'u myfyrwyr yn ymgysylltu â diwylliant vlogio YouTube.
Ers degawdau, mae i ddiwylliant digidol ran bwysig ym mhrofiadau myfyrwyr o brifysgol. Ond yn ystod y 13 blynedd ers i Francesca fod yn fyfyriwr israddedig a hithau wedi dod o hyd i fflat i’w rhannu trwy safle hysbysebion Gumtree, mae byd diwylliant digidol bywyd myfyrwyr wedi symud.
Er bod llawer o fyfyrwyr yn dal i droi at y we fel rhan o’r ffordd y maen nhw’n cychwyn ar eu cyfnod yn y brifysgol, erbyn hyn mae safleoedd fel Gumtree wedi hel peth llwch.
Er nad ffenomen "newydd" yw’r cyfryngau cymdeithasol bellach, mae'r berthynas rhwng diwylliant blogwyr fideo ac addysg uwch yn y DU yn un gymharol ddiweddar o hyd. Mae'r cynnydd mewn platfformau rhannu cynnwys ar-lein sy'n cynnig cyfle i bobl greu a phostio fideos wedi cyflwyno ffyrdd newydd i fyfyrwyr ddod o hyd i wybodaeth a’i rhannu, yn ogystal â chyflwyno ffyrdd newydd i brifysgolion farchnata eu hunain.
Prifysgolion yn ymgymryd â diwylliant vlogio
Yn ystod y 2010au, roedd symudiadau cymdeithasol tuag at ddefnyddio platfformau negeseua gwib, wrth i boblogrwydd rhai fforymau anghydamserol fynd yn llai poblogaidd. Erbyn y 2020au, roedd agweddau ar ddiwylliant dylanwadwyr – gan gynnwys arferion blogio fideo (blogio fideo) – yn rhan o fywydau bob dydd llawer o bobl. O greu cynnwys, er mwyn ceisio ymgysylltu â thueddiadau firaol presennol – dechreuodd prifysgolion ymgorffori blogio fideo yn eu strategaethau marchnata a chyfathrebu.
Yn aml cyn i’r prifysgolion ymwneud â diwylliant blogio fideo, mae myfyrwyr wedi gwneud defnydd o brosesau creu cynnwys mewn modd dyfeisgar i roi gwybodaeth i’w gilydd a rhyngweithio gyda’i gilydd. Gan ganolbwyntio ar brofiadau a gweithgareddau ar-lein o'r fath, gwnaethom ddadansoddi rhai o'r ystyron a'r negeseuon sy'n gysylltiedig â chynnwys blog fideo YouTube am fywyd prifysgol. Wrth wneud hynny, fe wnaethom gydnabod bod pandemig y Coronafeirws (COVID-19) wedi cataleiddio cynnydd yn y defnydd a wna prifysgolion o gynnwys fideo a blogiau fideo ar-lein i ymgysylltu â myfyrwyr.
Ymchwilio sut a pham
Yn benodol, fel rhan o gynllun Lleoliadau Cyfleoedd Ymchwil Caerdydd (CUROP), ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2022, buom ar y cyd yn ystyried sut a pham y mae prifysgolion a'u myfyrwyr yn ymgysylltu â diwylliant blogwyr fideo YouTube.
Arweiniwyd ein gwaith gan fwriad i gyfrannu at ddealltwriaeth fwy cymhleth o’r defnydd a wna myfyrwyr a phrifysgolion o ddiwylliant blogwyr fideo YouTube, yn enwedig i gefnogi addysgwyr, gwasanaethau proffesiynol, a sefydliadau sy'n ymdrechu i wella profiadau myfyrwyr.
Cysylltiad annibynnol yn erbyn sefydliadol
I wneud hyn, gwnaethom gynnal dadansoddiad disgwrs digidol beirniadol o gynnwys blogiau am 5 o'r "10 uchaf" o brifysgolion y DU yn ôl eu safleoedd blaenorol yn y Times Higher Education. Archwiliodd ein prosiect ymchwil i blogiau fideo a gafodd eu creu gan ddylanwadwyr yn annibynnol ar brifysgolion, a blogiau fideo a gafodd eu creu yn unswydd dros brifysgolion neu mewn partneriaeth â nhw.
Ac eto, fel y dangosodd ein dadansoddiad, gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng y mathau hyn o gynnwys ar blogiau fideo (e.e., annibynnol yn erbyn cysylltiedig â sefydliad) gan fod y ffyrdd y gall sefydliadau addysg uwch fynd ati yn strategol i greu cysylltiad rhyngddyn nhw eu hunain a dylanwadwyr annibynnol trwy ymateb yn gyhoeddus i’w postiadau.
Roedd ein dadansoddiad yn cyfrif am wahanol elfennau cynnwys blogiau o'r fath er mwyn helpu i ddeall ystyriaethau, cyfleoedd, a heriau sy'n ymwneud â’r ffordd y mae myfyrwyr a phrifysgolion yn defnyddio blogiau i godi ymwybyddiaeth o agweddau ar fywyd mewn prifysgol a’r adnoddau sydd ar gael.
Gwnaethom ddadansoddi 20 blog fideo i gyd, fel rhan o’r dadansoddiad roeddem yn ystyried cwestiynau fel: 1) sut mae bywyd prifysgol yn cael ei fframio yn y cynnwys? 2) pwy yw’r bobl a pha brofiadau y canolbwyntir arnynt , a pham? 3) pa genre/is-genre y mae'n ymddangos bod pob blog fideo yn perthyn iddo (e.e., blogiau fideo "symud i mewn", blogiau fideo "sgiliau astudio", blogiau fideo "bywyd yn ninas y brifysgol", blogiau fideo “hiraethu am eich cartref", a "blogiau fideo “profiad myfyrwyr rhyngwladol")?
Fframio rheolaidd o safbwyntiau penodol
Mae themâu allweddol a nodwyd gennym yn canolbwyntio ar sut mae cynnwys blogiau fideo am fywyd prifysgol yn gwasanaethu swyddogaethau amrywiol a rhyng-gysylltiedig sy'n ymwneud â marchnata, ac ag addysg, ac ag adloniant.
Mae themâu o'r fath yn deillio o fframio a hyrwyddo dro ar ôl tro safbwyntiau ac elfennau penodol o fywyd prifysgol (e.e., arferion astudio delfrydedig a haciau cynhyrchiant, syniadau rhamantaidd o deimlo "gartref yn y brifysgol ac mewn neuaddau myfyrwyr", a delweddau ysbrydoledig ar sail rhywedd o'r hwyl a'r cyfeillgarwch a all fod yn rhan o brofiadau myfyrwyr mewn addysg uwch).
![Patrwm yn cynnwys geiriau o wahanol liwiau yn cynnwys y themâu a nodwyd yn yr ymchwil](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/2671610/Picture1.png?w=575&ar=16:9)
Yn ogystal â nodi patrymau thematig o fewn y blogiau fideo a ddadansoddwyd gennym ac ar eu traws, gwelsom absenoldebau sy'n pwyntio'n bwerus at sut mae gorthrymau trawstoriadol fel hiliaeth, rhywiaeth, dosbarthiaeth ac abliaeth yn cael effaith ar ddiwylliant blogwyr fideo prifysgolion.
![Casgliad o eiriau o wahanol liwiau, yn dwyn y teitl anweledigrwydd profiad.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0010/2671678/Picture2.png?w=575&ar=16:9)
Roedd ein prosiect ymchwil yn gymharol fyr ac ar raddfa fach, ond esgorodd ar fewnwelediadau gwerthfawr fel y canlynol a fyddai'n elwa ar fod yn ganolbwynt ymchwil yn y dyfodol:
- Roedd "dilysrwydd" a’r "gallu i uniaethu" canfyddedig yn parhau i fod yn ganolog i gynnal cyfnewidiadau defnyddiol rhwng myfyrwyr (gan gynnwys fel crëwyr cynnwys) a sefydliadau.
- Roedd prifysgolion a oedd yn cynnig cyfleoedd cydweithredol yn caniatáu rhywfaint o ymreolaeth a hunanreolaeth, ac roedd hynny’n cynyddu’r posibilrwydd o gysylltiadau ystyrlon rhwng myfyrwyr (gan gynnwys fel crëwyr cynnwys) a phrifysgolion.
- Nid yw byd diwylliant y blogiwr fideo "bywyd prifysgol" – a byd y blogiwr fideo yn fwy cyffredinol - yn gynhwysol o ystod eang o wahanol brofiadau myfyrwyr ac amgylchiadau bywyd (e.e., cynnwys cyfyngedig sy'n ymwneud â phrofiadau myfyrwyr anabl, myfyrwyr sy’n ofalwyr, myfyrwyr LGBTQIA, myfyrwyr aeddfed, a myfyrwyr Du ac Asiaidd). Gellir dadlau bod hyn yn awgrymu sut mae anghydraddoldebau sy'n croestorri yn effeithio ar fywyd myfyrwyr, ar ei bortread mewn blogiau fideo, ac ar y tebygolrwydd y bydd rhai demograffegau o fyfyrwyr yn derbyn cyfleoedd cyflogedig i greu cynnwys mewn addysg uwch.
- Dylid mynd i'r afael â thryloywder, atebolrwydd, a rheoleiddio ynghylch amodau llafur myfyrwyr sy’n grewyr. Mae’n rhaid i grewyr cynnwys myfyrwyr sy'n cynhyrchu deunydd ar gyfer prifysgolion gael eu diogelu rhag effaith negyddol posibl ffiniau aneglur rhwng astudio yn y brifysgol a gweithio iddi.
Pwy sydd ar goll a pham?
Ar y cyfan, cawsom gipolwg unigryw ar y fframio cymhleth a’r ystyron a luniwyd ynghylch bywyd myfyrwyr prifysgol o fewn y byd YouTube datblygiadol sydd ohoni. Nododd y prosiect mannau lle y mae’r byd ar-lein a’r byd all-lein yn gwrthdaro, rhywbeth sy'n gynyddol gyffredin i fyfyrwyr prifysgol, yn enwedig yn ystod y cofnod "ôl-covid" canfyddedig.
Gellir deall y negeseuon digidol hyn y tu hwnt i'r cynnwys hyrwyddo y maent yn eu cyflwyno, ac maent yn adlewyrchu systemau cysylltiedig gorthrymol megis abliaeth, rhywiaeth, hiliaeth, a dosbarthiaeth. Mae mynediad cyfyngedig at adnoddau ac amddiffyniadau rheoliadol ar gyfer crëwyr cynnwys yn dangos anghydraddoldebau ecsploetio ar-lein ac arferion gweithio sy’n allgau.
Drwy ein project ymchwil ar blogiau fideo am "fywyd prifysgol", rydym yn gofyn, ac yn annog prifysgolion i ystyried yn feirniadol: pwy sydd ar goll a pham? Beth sy'n cael ei ddangos a beth sy'n guddiedig o hyd?
Gwella gwelededd
I brifysgolion sy'n awyddus i ddathlu eu cymunedau myfyrwyr amrywiol beth yw rhai camau ar gyfer dod yn fwy cynhwysol a chreu amgylcheddau mwy teg? Trwy wella gwelededd gwahanol grwpiau myfyrwyr, amgylchiadau bywyd, a thrawstoriad, gall sefydliadau cyd-gysoni eu negeseuon yn fwy effeithiol â'r gwahanol wirioneddau a wynebir gan ystod ehangach o fyfyrwyr.
Fodd bynnag, mae’n rhaid i weithredu symud y tu hwnt i ganolbwyntio'n llwyr ar faterion ynghylch gwelededd, ac i warantu nad yw'r gwaith a'r amodau llafur y mae crëwyr cynnwys myfyrwyr yn eu profi yn beryglus iddyn nhw.
Gall natur ehangol diwylliant blogwyr fideo "bywyd prifysgol" fod o gymorth i fyfyrwyr, ymchwilwyr, a sefydliadau sy'n ceisio gwella profiadau myfyrwyr, ond mae gwaith i'w wneud o hyd i sicrhau nad yw diwylliant blogwyr fideo o'r fath dim ond yn atgyfnerthu anghydraddoldebau.
Dr Francesca Sobande
Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Cyfryngau Digidol
Jeevan Kaur
Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg (BA)
Mehefin/Gorffennaf 2022