Ewch i’r prif gynnwys

Y myfyriwr PhD ym maes Mathemateg, Timothy Ostler, yn ennill gwobr am ei boster yng Nghynhadledd ECMTB2022

27 Medi 2022

Timothy Ostler
Timothy Ostler

Cipiodd Timothy’r wobr am boster sy’n esbonio’i waith ymchwil ar sicrhau’r cyfraddau gorau posibl am lwyddiant IVF.

Cynhaliwyd y ddeuddegfed Gynhadledd Ewropeaidd ar Fioleg Fathemategol a Damcaniaethol yn Heidelberg, yr Almaen, rhwng 19 – 23 Medi 2022 ac roedd yn ddigwyddiad ar y cyd a drefnwyd gan y Gymdeithas Ewropeaidd ar gyfer Bioleg Fathemategol a Damcaniaethol (ESMTB) a'r Gymdeithas Bioleg Fathemategol (SMB). Daeth y gynhadledd ag ymchwilwyr a myfyrwyr â chanddynt ddiddordeb mewn modelu mathemategol a chymhwyso hyn i’r maes gwyddorau bywyd, ynghyd, a gofynnwyd i gyfranogwyr gyflwyno eu gwaith.

Ariennir PhD Timothy yn rhannol gan Glinig Merched Llundain, sydd â chlinigau ledled y DU sy'n cynnig Ffrwythloni In Vitro (IVF); lle mae wy dynol yn cael ei ffrwythloni yn y labordy a'i drosglwyddo i groth y claf i ddechrau beichiogrwydd. Mae'r triniaethau yn heriol a hynny yn ariannol, yn gorfforol ac yn feddyliol, ond yn anffodus nid ydynt bob amser yn llwyddiannus. Nod gwaith Timothy yw cynyddu cyfraddau o lwyddiant IVF i'r eithaf trwy ddefnyddio fideos a gymerwyd yn y clinig o wyau er mwyn dewis yr wy iachaf i'w ddefnyddio mewn cylch o IVF.

Roedd poster Timothy yn arddangos gwaith ar dechneg o'r enw Microsgopeg Deinamig Gwahaniaethol (DDM), a ddefnyddir i ddeall symudiad yn y cytoplasm a allai fod yn rhagfynegydd o ran hyfywedd wyau. Mae DDM yn wynebu sawl her sy'n ymwneud yn benodol â'r ffordd mae wyau wedi'u strwythuro, ond mae gwaith Timothy wedi dangos bod DDM naill ai'n goresgyn yr heriau hyn, neu'n gallu cael ei addasu i wneud hynny. Mae hyn yn galluogi ymchwilwyr i fod yn sicr bod DDM yn rhoi canlyniadau cywir i ni. Mae hyn wedyn yn caniatáu i’r ymchwilwyr ddechrau archwilio sut y gall y canlyniadau dan sylw fod yn ffordd o ragfynegi iechyd wyau mewn ffordd anymwthiol.

Ar ennill y wobr dywedodd Timothy: “Roedd ansawdd yr ymchwil a’r cyflwyniadau yn ECMTB yn ysbrydoli rhywun, ac rwy’n falch iawn o fod wedi bod yn rhan o’r digwyddiad. Mae’n fraint aruthrol bod yn un o’r cyflwynwyr sydd wedi’u dewis ar gyfer y wobr hon.”

I ddarganfod rhagor am gyfleoedd ymchwil yn yr Ysgol Mathemateg, ewch i'n gwefan.

Rhannu’r stori hon