Ymateb hirdymor yn hanfodol er mwyn trechu tlodi yng Nghymru, yn ôl casgliad adolygiad
26 Medi 2022
Mae angen gweithredu parhaus wedi’i gydlynu er mwyn mynd i’r afael â thlodi yng Nghymru, yn ôl academyddion o Brifysgol Caerdydd.
Mae adolygiad sylweddol 18-adroddiad o hyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP), a gynhaliwyd mewn partneriaeth â’r Ganolfan Dadansoddi Allgáu Cymdeithasol (CASE) yn Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddol Llundain a’r Sefydliad Polisïau Newydd (NPI), yn gronfa sylweddol o dystiolaeth ar gyfer llunwyr polisïau wrth iddynt ystyried sut i helpu'r rhai sy'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Comisiynwyd y gwaith gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r adolygiad yn amlygu sut mae’r argyfwng costau byw presennol – gyda chynnydd diweddar mewn chwyddiant a chostau ynni – wedi dyfnhau heriau hirsefydlog yng Nghymru, lle mae bron i un o bob pedwar o bobl yn byw mewn tlodi; sefyllfa sydd wedi newid fawr ddim dros y ddau ddegawd diwethaf.
Mae angen ymateb sector cyhoeddus cyfan, medd yr ymchwilwyr, ac mae gan Lywodraeth Cymru ran hanfodol i'w chwarae o ran cefnogi a herio partneriaid i gyflawni.
Trwy ddefnyddio barn arbenigwyr, yn ogystal â phrofiadau bywyd y rhai sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru a hynny drwy gyfrwng grwpiau ffocws, mae’r adolygiad yn awgrymu pedwar maes allweddol y gallai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio arnynt gan roi ymateb Cymru gyfan ar waith:
- Dod o hyd i ffyrdd effeithiol o leihau costau a chynyddu incwm i sicrhau bod anghenion sylfaenol aelwydydd yn cael eu diwallu bob amser.
“Mae'n rhaid i chi ddewis pa un ... ydw i'n talu am y nwy a'r trydan? A ddylwn i fynd i ragor o ddyled er mwyn i ni allu bwyta?”
- Cefnogi 'llwybrau' tymor hwy allan o dlodi trwy fynediad at waith sy'n talu'n well, trwy ofal plant a thrafnidiaeth hyblyg a fforddiadwy a chyfranogiad ehangach yn economaidd-gymdeithasol.
“[Rydych chi] yn cyrraedd canol eich tridegau a dydy pethau ddim yn well arnoch chi na phan oeddech chi'n gwylio'ch rhieni yn yr un sefyllfa.”
- Creu amgylchedd sy’n galluogi drwy fynd i’r afael â rhwystrau megis diffyg tai o safon, seilwaith priodol, a mannau gwyrdd i wella ansawdd bywyd.
“…roedd taith a gymerai hanner awr yn y car yn debycach i ddwy awr ar y bws, gyda’r opsiwn cynharaf yn cyrraedd y ddinas bron i hanner awr yn hwyrach nag y mae llawer o gyflogwyr yn disgwyl ichi fod yn y gwaith.”
- Mynd i’r afael â’r llwyth meddyliol ac effeithiau iechyd meddwl y mae tlodi’n ei achosi drwy fynd i’r afael â’r baich emosiynol a seicolegol sy’n cael ei gario gan y rhai sy’n byw mewn tlodi ac allgáu cymdeithasol, a hynny drwy herio stigma a hyrwyddo parch ac urddas i bawb.
“Mae'n gylch dieflig oherwydd, byddwch chi bob amser yn poeni am un peth neu'r llall. Mae fy mab yn poeni'n fawr – ‘sut ydw i'n mynd i ymdopi, mam? ’”
Dywedodd Dan Bristow, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer WCPP: “Mae sylw wedi’i ganolbwyntio, yn gwbl briodol, ar yr ymateb i’r argyfwng ynni uniongyrchol, ond nawr yw’r amser i ddechrau cynllunio ar gyfer yr ymateb dros y tymor canolig a’r tymor hwy hefyd.
Mae'r sefyllfa sy'n esblygu'n barhaus oherwydd pandemig y Coronafeirws, argyfwng costau byw, rhyfel yn Wcráin a goblygiadau newidiadau i gyllidebau Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â ffactorau eraill, yn tynnu sylw at yr angen am ddull deinamig o fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru.
“Wedi dweud hynny, mae ein gwaith yn dangos nad oes ateb hawdd, dim ond y gwaith caled o arwain ymateb sector cyhoeddus cyfan, a ffocws di-baid ar gyflawni.”
Wrth groesawu'r adolygiad, dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol: “Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn mynd ati yn y tymor hir i fynd i'r afael â thlodi a’r ffactorau sylfaenol sy’n ei achosi. Ni ellir ac ni ddylai gael ei ystyried hyn fel problem ar ei phen ei hun, a dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod pob rhan o’r Llywodraeth yn anelu at yr un nod i fynd i’r afael â thlodi yng Nghymru.
“Eleni yn unig, bydd Llywodraeth Cymru yn gwario £1.6bn ar gynlluniau sy'n targedu’r argyfwng costau byw a rhaglenni sy'n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl.
“Cynlluniau fel y Cynllun Gostyngiadau yn Nhreth y Cyngor, presgripsiynau am ddim, y Lwfans Cynhaliaeth Addysg, teithio am ddim ar fysiau i bobl dros 60 oed, brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd, cyflwyno prydau ysgol am ddim i ddisgyblion oedran cynradd, y cynllun mwyaf hael i roi cymorth i fyfyrwyr yn ogystal â chymorth gofal plant wedi'i ariannu i deuluoedd mewn perthynas â chostau diwrnod ysgol.”
Yn rhan o’r adolygiad mae:
- dadansoddiad o natur a chyflwr tlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru;
- trosolwg o'r hyn sy'n gwneud strategaeth effeithiol o ran trechu tlodi ac;
- adolygiad o dystiolaeth ryngwladol ynghylch ymyriadau effeithiol sy'n mynd i'r afael â 12 agwedd wahanol ar dlodi gan gynnwys ansicrwydd bwyd, tlodi tanwydd a dyled cartrefi.
Darllenwch yr adroddiadau, Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol
Mae WCPP a CASCADE yn aelodau o SPARC - Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae SPARC yn rhan o Gampws Arloesedd Caerdydd ac yn dod â 12 canolfan ymchwil a sefydliad gwyddor gymdeithasol arbenigol ynghyd mewn canolfan bwrpasol, sbarc|spark, a agorodd y flwyddyn hon.