Llwybr Newydd at radd yn y Gyfraith
26 Medi 2022
Dyma gyfle cyffrous i ddysgwyr sy'n oedolion gael mynediad at astudiaethau israddedig yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd myfyrwyr yn astudio'n rhan-amser mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol mewn Addysg Barhaus a Phroffesiynol (CPE) a bydd y rhan fwyaf o gyrsiau'n cael eu haddysgu gyda'r nos i gyd-fynd ag ymrwymiadau gwaith a theulu. Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sydd efallai wedi bod i ffwrdd o addysg ffurfiol ers blynyddoedd lawer ac nad oes angen cymwysterau blaenorol. Mae cyngor ar gyllid ar gael hefyd.
Wrth astudio ar y Llwybr byddwch yn gallu gwneud cais i astudio'r Gyfraith (M100) yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth sy'n Ysgol dan arweiniad ymchwil gydag enw da am ymchwil o safon ryngwladol ac addysgu o ansawdd uchel.
Astudiodd Lyudmyla Bernyk yn CPE cyn dechrau ei hastudiaethau gradd: “Roeddwn yn benderfynol o ddychwelyd i ddysgu fel myfyriwr aeddfed. Roedd astudio yn CPE nid yn unig yn dyfnhau fy ngwybodaeth a'm dealltwriaeth o'r gyfraith a'i harferion, ond hefyd yn atgyfnerthu fy ymroddiad i ddechrau fy nhaith tuag at gyflawni fy mreuddwyd hir-hoedlog o yrfa yn y gyfraith. Roedd y tiwtoriaid yn hawdd mynd atynt ac yn barod i helpu drwy'r amser. Roedd y modiwlau'n ddwys gyda deunydd gwahanol, ond eto'n cael eu cyflwyno mewn ffordd syml a hygyrch.”
Mae rhagor o wybodaeth am y Llwybr i’w gweld yma
Gallwch hefyd ebostio pathways@caerdydd.ac.uk i gael gwybodaeth a chyngor.