Ewch i’r prif gynnwys

Plant Ysgol yng Nghymru yn helpu NASA i achub y blaned o drawiadau asteroidau

26 Medi 2022

Gif of an asteroid moving through a series telescope observations

Yn ffilmiau Hollywood fel ‘Armageddon’, ‘Deep Impact’, neu yn fwy diweddar ‘ Don’t Look Up’, yr Americanwyr sy’n achub y Ddaear o drawiad asteroid neu gomed. Ond nawr, mae disgyblion ysgolion yng Nghymru yn cymryd rhan, arsylwi asteroid ar gyfer cefnogi cenhadaeth NASA gyffroes.

Mae NASA a phartneriaid ledled y byd yn edrych ar opsiynau go-iawn ar gyfer “Amddiffyniad Planedol”, ac maent am arbrofi un ffordd mewn ffasiwn ddramatig – cnocio asteroid oddi ar ei gwrs drwy daro lloeren i mewn iddi.

Mae cenhadaeth DART – Double Asteroid Redirection Test – yn targedu system asteroid dwbl sy’n cynnwys Didymos (780m/hanner milltir ar draws), a'i leuad fach Dimorphos (160m/530 troedfedd ar draws).

Ar ôl hanner nos heno (26ain o Fedi, 2022), bydd y lloeren maint car yn gwrthdaro i mewn i Dimorphos yn symud tua 6 km yr eiliad (4 milltir yr eiliad), yn anelu newid ei orbit o gwmpas Didymos. Bydd ‘CubeSat’ bach o’r enw LICIACube, wedi cael ei hadeiladu gan yr Asiantaeth Gofod Yr Eidal, a wahanodd o DART cwpl o wythnosau yn nol, a bydd yn arsylwi'r gwrthdrawiad yn agos.

Ar hyn o bryd, mae Dimorphos yn cymryd tua 12 awr i wneud orbit llawn o amgylch Didymos. Bydd y trawiad yn newid hyn ac mae gwyddonwyr eisiau gwybod gan faint. Dyma le mae arsylwyr ar y Ddaear, yn cynnwys ysgolion yng Nghymru, yn helpu.

Mae disgyblion yng Nghymru yn arsylwi gyda thelesgopau mawr (1-metr a 2-metr) yn rhwydwaith Arsyllfeydd Las Cumbres (LCO) o’i dosbarthau i gynorthwyo gwyddonwyr mesur yr orbit yn fanwl.

Mae mynediad i’r offer radd-ymchwill, mawr yma ar draws y byd (e.e.. yn Hawaii, Awstralia a De Affrica) yn bosib trwy’r Prosiect Addysg Telesgop Faulkes. Bydd data gan yr ysgolion yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio gyda data LCO ar gyfer dadansoddiad manwl o effaith mae’r gwrthdrawiad gydag ar y system asteroid dwbl.

“Mae’n gyfle ffantastig ar gyfer ysgolion i gymryd rhan gyda gwyddoniaeth go-iawn, a bydd y data gan ein partneriaid ysgol ar draws Cymru yn rhan fawr o’r data bydd NASA yn defnyddio i ddarganfod os oedd eu cenhadaeth yn llwyddiant. Mae’n anhygoel i feddwl bydd arsylwadau'r ysgolion yn helpu’r planiau dyfodol i amddiffyn y Ddaear o asteroidau.” Medd Yr Athro Paul Roche o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae’r rhaglen arsylwi yn rhan o brosiect addysg arloesol o’r enw Cipwyr Comedau, yn dod ac arsylwi gwyddoniaeth go-iawn i’r dosbarth.  Mae’r prosiect yn cael ei rhedeg gan ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a’r Brifysgol Agored, yn gweithio gydag addysgwyr a seryddwyr amatur. Mae’r prosiect wedi gallu disgyblion ysgolion Cymru i weithio gydag ymchwilwyr byd eang ar nifer o brosiectau yn astudio comedau ac asteroidau. Mae’r ysgolion wedi creu arsylwadau, casglu a dadansoddi data. Pan fydd ymchwilwyr yn cyhoeddi eu darganfyddiadau, bydd yr ysgolion yn cael eu credydu - mae’r ysgolion yn gyffroes i weld eu henwau ar bapurau ar lein.

Mae Helen Usher, myfyriwr PhD o’r Brifysgol Agored o Hengoed, De Cymru, yn arwain y rhaglen arsylwi DART ar gyfer Cipwyr Comedau. Meddylia hi bydd data'r ysgolion yn hynod o ddefnyddiol i NASA. “Rydan yn gweithio yn agos gyda phartneriaid NASA i sicrhau bydd ein harsylwadau yn cael eu defnyddio fel rhan o set data mwy i gynorthwyo’r dadansoddiad o ganlyniad y gwrthdrawiad – mae cael mwy o bwyntiau data o hyd yn dda!”.

Mae adborth gan rhai disgyblion sy’n cymryd rhan yn y cyfnod cynnar o arsylwadau genhadaeth DART wedi dangos eu bod yn gweld y gwaith yn gyffroes ac yn mwynhau’r syniad bod eu data yn helpu NASA i ddatblygu planiau i amddiffyn y Ddaear. Medd ddisgybl blwyddyn 6 o Ysgol Gynradd Gatholig Santes Mair, Pen-y-bont: “Mae’r pwysau ymlaen. Mae’r arsylwad yma ar gyfer NASA! Dwi’n gweithio i NASA!”.

Rhannu’r stori hon