Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaeth Trafnidiaeth Cymru yn cynnig manteision unigryw i fyfyrwyr MSc

26 Medi 2022

Mae Trafnidiaeth Cymru (TFW) a'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yn cydweithio i gyflwyno modiwl unigryw ym maes modelu trafnidiaeth i fyfyrwyr y rhaglen Trafnidiaeth a Chynllunio (MSc).

Dan arweiniad arbenigwyr academaidd a phroffesiynol yn y maes, mae'r modiwl yn cyflwyno’r sylfeini damcaniaethol o ran modelu trafnidiaeth a hefyd yn rhoi profiad ymarferol gwerthfawr o ddefnyddio meddalwedd sy’n arwain y byd ym maes modelu trafnidiaeth. Mae hyn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu trwytho yn y wybodaeth ddamcaniaethol a’r sgiliau ymarferol, sy’n rhoi dechrau da iddynt o ran anelu am gyflogaeth ôl-raddedig.

Bydd gan fyfyrwyr fynediad at feddalwedd arbenigol, o'r enw VISUM, a ddefnyddir ar hyn o bryd i fodelu rhwydweithiau trafnidiaeth a'r galw am deithio, ac ar gyfer datblygu strategaethau ac atebion i heriau o ran trafnidiaeth. Mae TfW yn defnyddio'r feddalwedd fodelu hon ym mhob un o'r tri model trafnidiaeth rhanbarthol sy’n creu rhwydwaith manwl y seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru.

Bydd defnyddio'r feddalwedd ynghyd â dysgu ynghylch elfennau sylfaenol modelu trafnidiaeth, yn caniatáu i fyfyrwyr ddeall sut mae’n cael ei defnyddio a sut mae'n cefnogi datblygiadau o ran cynlluniau trafnidiaeth yng Nghymru trwy ddefnyddio data ac achosion defnydd o'r byd go iawn.

Dywedodd Dimitris Potoglou, Cyfarwyddwr y Rhaglen Trafnidiaeth a Chynllunio (MSc): “Am yr ail flwyddyn, rydym yn ffodus iawn i gydweithio â chydweithwyr yn Trafnidiaeth Cymru er mwyn sicrhau bod y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i’r agweddau damcaniaethol ac ymarferol sydd ynghlwm â chynllunio a modelu trafnidiaeth. Mantais arall y fenter hon yw ein bod yn defnyddio data a modelau go iawn a ddatblygwyd ar gyfer Cymru, sy'n caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu a phrofi eu strategaethau trafnidiaeth eu hunain gan ddefnyddio data o'r byd go iawn ac asesu effeithiolrwydd eu datrysiadau arfaethedig.”

Dywedodd Rhian Watts, Pennaeth Modelu Trafnidiaeth Cymru: “Rwyf wedi mwynhau'r cyfle i gefnogi Prifysgol Caerdydd a'r myfyrwyr sy'n ymgymryd â'r MSc. Mae'r cwrs yn defnyddio un o Fodelau Trafnidiaeth Rhanbarthol Llywodraeth Cymru/Trafnidiaeth Cymru ac rydym wedi defnyddio sawl senario a phroblem o’r byd go iawn yn ystod y cwrs er mwyn dangos pwysigrwydd modelu ac arfarnu wrth lunio dyfodol trafnidiaeth yng Nghymru. Mae wedi bod yn brofiad buddiol sydd hefyd wedi rhoi mwyniant.”

Rhannu’r stori hon