Academydd yn cyfrannu at y daith yn ôl i Nepal
25 Medi 2022
Dr Diana Contreras, Darlithydd Gwyddorau Geo-ofodol yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd, yn cyfrannu at y daith yn ôl i Nepal yn 2022
Ym mis Ebrill 2015, bu daeargryn dinistriol yn Nepal. Cafodd 8,790 o bobl eu lladd, a chafodd 22,300 o bobl eu hanafu. Dinistriwyd dros 500,000 o dai, a chafodd dros 285,000 o dai eu difrodi'n rhannol. O ganlyniad, cafodd miliynau o bobl eu gwneud yn ddigartref. Cafodd cyfleusterau iechyd cyhoeddus, ysbytai ac ysgolion eu dinistrio neu eu difrodi, a difethwyd adeiladau canrifoedd oed ar safleoedd treftadaeth UNESCO.
Nod mynd yn ôl i Nepal oedd gweld sut mae’r wlad yn adfer ac yn ailadeiladu, a hynny drwy fabwysiadu agwedd ‘ailgodi’n gryfach’. Yn rhan o'r ymdrechion hyn, teithiodd Tîm Ymchwiliadau Maes Peirianneg Daeargrynfeydd (EEFIT) Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol i’r wlad er mwyn ceisio deall effeithiau'r daeargryn a'r gwendidau y mae’n rhaid mynd i’r afael â nhw er mwyn sicrhau na fydd digwyddiadau yn y dyfodol mor ddifrifol.
Rôl Dr Diana Contreras ar y daith yn ôl i Nepal oedd gwerthuso strategaethau adfer drwy gyfrannu at y rhan a oedd yn ymwneud â chanfyddiad a gwydnwch y cyhoedd.
Dilysodd Diana yr asesiad adfer drwy ddefnyddio data o’r cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys 183,361 o drydariadau (174,641 o drydariadau gwreiddiol a 39,406 o ail-drydariadau). I wirio'r wybodaeth a gafwyd o'r cyfryngau cymdeithasol, ymwelodd Dr Contreras â Sgwâr Durbar yn Kathmandu a dinasoedd Bhaktapur a Patan (dinas fetropolitan Lalitpur) er mwyn cadarnhau sut roedd y gwaith o ailadeiladu safleoedd treftadaeth UNESCO yn dod yn ei flaen. Yn ogystal â hynny, ymwelodd â chanolfan iechyd leol ym mwrdeistref wledig Thakre, Palas Gorkha a phedair ysgol. Yn yr ysgolion hynny, yr amcan oedd helpu aelodau eraill o’r tîm i gasglu gwybodaeth am y dulliau a ddefnyddiwyd i ôl-osod strwythur yr ysgol.
Cafodd y drafodaeth ynghylch arferion adfer wedi trychineb drwy weithgareddau ysgafn a chwareus eu natur ei harwain hefyd gan Dr Contreras, a chafwyd cyfraniadau gan swyddogion o'r Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Technoleg Daeargrynfeydd – Nepal (NSET), yr Awdurdod Ail-adeiladu Cenedlaethol (NRA) a Scott Willson Nepal. Seiliwyd y gweithdy hwn ar ei hymchwil drwy ddefnyddio dysgu creadigol i wella’r ymateb i drychinebau.
Ar 13 Medi ym mhencadlys Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol yn Llundain, cyflwynwyd canlyniadau'r asesiad adfer ar y pryd, gan gynnwys canlyniadau’r drafodaeth yn Nepal ynghylch arferion adfer wedi trychineb.
Bydd yr adroddiad terfynol a’i ganfyddiadau’n cael eu cyflwyno ym mis Ionawr 2023.