Mae prawf gwaed pigo bys yn rhoi gwybod a oes imiwnedd rhag COVID-19
22 Medi 2022
Gall prawf gwaed pigo bys adnabod y bobl sydd fwyaf mewn perygl o gael eu heintio o’r newydd gan COVID-19.
Mae'r prawf syml, a ddatblygwyd gan gwmni biotechnegol bach yng Nghaerdydd (ImmunoServ Ltd) mewn cydweithrediad agos ag ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, yn mesur presenoldeb celloedd T imiwnedd a all adnabod SARS-CoV-2.
Cafodd mwy na 300 o wirfoddolwyr eu recriwtio o bob rhan o'r DU yn gynnar yn 2022 i asesu'r prawf newydd. Unigolion sydd â'r ymateb mwyaf i’r feirws gan gelloedd T a oedd wedi'u diogelu orau rhag COVID-19 yn ystod y tri mis dilynol, waeth beth fo lefelau eu gwrthgyrff i'r feirws.
Bydd y profion pigo bys yn helpu i ganfod pa unigolion sydd fwyaf agored i niwed ac y bydd angen ymyriadau mwy penodol arnynt hwyrach megis brechiadau atgyfnerthu niferus.
Mewn erthygl yn Nature Communications, mae’r tîm o Gaerdydd wedi canfod bod y prawf yn pwysleisio’r imiwnedd a gyfryngir gan gelloedd T yn hytrach nag ymatebion gwrthgyrff 'sydd newydd eu mesur'.
Mae ymdrechion blaenorol i adnabod y rheini sydd wedi'u diogelu leiaf rhag cael eu heintio o’r newydd wedi canolbwyntio ar feintioli gwrthgyrff sy'n cydnabod protein sbigyn arwyneb SARS-CoV2.
Er bod mesur gwrthgyrff ar raddfa fwy mewn poblogaeth yn gymharol hawdd, nid yw'r lefelau'n rhoi'r darlun llawn o ran lefel yr amddiffyn rhag cael eich heintio o’r newydd, yn enwedig wrth i amrywiolion o SARS-CoV-2 ddod i'r amlwg.
Dywedodd Dr Martin Scurr, y prif awdur, fod yr astudiaeth yn dangos y potensial ar gyfer asesiadau mwy manwl gywir o imiwnedd pobl rhag COVID-19.
"Mae llawer o bobl yn poeni am y risg o gael eu heintio gan COVID-19, p'un a gawson nhw eu brechu cyn hyn neu beidio. Yn sgîl prawf, gwelwyd mai lefel ymateb y celloedd T a ysgogir gan frechiad neu haint blaenorol sy'n gysylltiedig â'r risg y bydd y person hwnnw'n cael COVID-19 yn ystod y misoedd yn dilyn y prawf gwaed."
Cyn hyn, roedd cynnal profion ar raddfa fawr ar gyfer ymatebion celloedd T i SARS-CoV-2 yn waith heriol.
Gyda chymorth ariannol gan gyngor ymchwil InnovateUK Llywodraeth y DU, datblygwyd prawf celloedd T newydd gan y cwmni biotechnolegol ImmunoServ Ltd o Gymru, ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd.
Defnyddiodd y prawf sampl pigiad gwaed syml a gesglir gartref a'i anfon i labordy drwy'r post. Oherwydd hyn, roedd unrhyw un yn y DU yn gallu cymryd rhan yn yr astudiaeth.
Dywed y tîm o Gaerdydd fod eu gwaith yn amlygu'r angen i asesu pa mor hir mae'r ymatebion imiwnedd yn parhau yn y boblogaeth gan fod ansicrwydd ynghylch a fydd angen brechiadau atgyfnerthu niferus yn y dyfodol, ac ar bwy y bydd angen y rhain.
Ychwanegodd Andrew Godkin, Athro Meddygaeth Ac Imiwnoleg Arbrofol ym Mhrifysgol Caerdydd ac un o gyd-brif awduron y gwaith: "Byddai sgrinio ar gyfer imiwnedd hirdymor gan ddefnyddio prawf o'r fath yn caniatáu inni fonitro hirhoedledd yr ymatebion sy'n atal COVID-19 yn ogystal ag adnabod yr aelodau hynny sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas gan ei bod yn bosibl y bydd angen brechiadau atgyfnerthu cynharach arnyn nhw."