Dewch i gwrdd â Phennaeth newydd yr Ysgol
20 Medi 2022
Ym mis Awst 2022, penodwyd Dr Jennifer Pike i swydd Pennaeth Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd.
Mae Jenny Pike wedi bod yn rhan o gymuned Prifysgol Caerdydd ers 25 mlynedd. Ymunodd â ni fel Darlithydd ym 1997 ar ôl gadael Prifysgol Southampton, lle dyfarnwyd PhD iddi.
Darllenydd Hanes Cefnforoedd a’r Hinsawdd yw Jenny. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys defnyddio ffosiliau diatom morol i ddeall sut mae iâ môr, cefnforoedd a’r hinsawdd wedi rhyngweithio yn y gorffennol o amgylch Antarctica a Chefnfor y De, a hynny dros y 20,000 mlynedd diwethaf. Mae hefyd yn addysgu dosbarthiadau gwaith maes i israddedigion, cyrsiau ar hanes y Ddaear, sgiliau maes a sgiliau proffesiynol.
Wrth sôn am ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol, dywedodd Jenny: “Anrhydedd mawr yw cael y cyfle hwn i arwain yr Ysgol. Mae’r Ysgol eisoes yn chwarae rôl flaenllaw yn y gwaith o wneud ymchwil sylfaenol, creu cymuned amrywiol a byd-eang ac addysgu gwyddorau’r Ddaear a’r amgylchedd i’r genhedlaeth nesaf.”
“Rydym yng nghanol chwyldro gwyrdd, ac mae cryn dipyn o ansicrwydd a newid o’n blaenau. Er hynny, mae cyfleoedd gwych ar gael, hefyd. Rwy’n bwriadu gweithio’n agos gyda’n myfyrwyr, ein staff, ein cynfyfyrwyr a rhanddeiliaid eraill i ychwanegu at y cryfderau hyn a pharhau i symud tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.”
Ar ran holl aelodau’r Ysgol, hoffai Jenny ddiolch i Bennaeth blaenorol yr Ysgol, yr Athro Ian Hall, am ei arweiniad rhagorol dros yr wyth mlynedd diwethaf.
Dymunwn bob lwc i Jenny yn ei swydd newydd, ac edrychwn ymlaen at weld newidiadau cyffrous yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd.