Prifysgol Gymreig y Flwyddyn 2023
16 Medi 2022
Mae Prifysgol Caerdydd wedi cadw'r teitl “Prifysgol Gymreig y Flwyddyn” yn TheTimes and The Sunday Times Good University Guide.
Hefyd, cyhoeddwyd heddiw (Dydd Gwener 16 Medi 2022) The Times and The Sunday Times Good University Guide 2023 mai’r Brifysgol sydd â'r safle uchaf yng Nghymru o hyd ac yn neidio deg safle i'r25ain safle ymhlith prifysgolion y DU.
Dyma a ddywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: “Mae hyn yn newyddion gwych, yn enwedig o ystyried yr heriau eithriadol parhaus y mae ein staff a’n myfyrwyr wedi’u hwynebu dros y deuddeg mis diwethaf.
“Mae cadw teitl Prifysgol Gymreig y Flwyddyn yn deyrnged deilwng i ymroddiad aruthrol ein staff academaidd a’n gwasanaethau proffesiynol. Mae’n dyst i’w hymdrechion ymroddedig i ddarparu profiad rhagorol i’n myfyrwyr a gwneud ymchwil rhagorol o dan amgylchiadau anodd.
“Mae hefyd yn braf gweld cynnydd o ddeg lle yn y DU. Nid ydym yn hunanfodlon, fodd bynnag, ac nid ydym yn cael ein gyrru gan safleoedd yn unig. Rydym am wella fel Prifysgol er budd ein staff a’n myfyrwyr, ac er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau i gymdeithas yn ehangach.”
Mae The Times and The Sunday Times Good University Guide 2023 yn amlygu bod Prifysgol Caerdydd yn parhau i fod ymhlith y 20 uchaf o ran rhagolygon graddedigion, yn seiliedig ar arolwg o’r rheini mewn gwaith medrus iawn neu astudiaethau pellach o fewn 15 mis, gyda 90 y cant o’r gwaith a gyflwynodd y Brifysgol i arolwg diweddaraf y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn cyflawni’r ddau sgôr uchaf o ran arweinyddiaeth fyd-eang neu ragoriaeth ryngwladol.
Gyda rhaglenni newydd yn cael eu cyflwyno yn 2021-22, mae’r Canllaw yn nodi bod y galw am leoedd ar i fyny, gan godi 15 y cant yng nghylch derbyn 2021 i uchafbwynt newydd.
Mae The Times a The Sunday Times Good University Guide 2023 yn parhau i fod yn un o’r safleoedd mwyaf diffiniol ar gyfer prifysgolion y DU ac mae’n cynnwys proffiliau o 135 o brifysgolion y DU.
Mae gwefan gwbl chwiliadwy gyda phroffiliau prifysgol a 70 o dablau pwnc ar gael yma.