Llyfr newydd yn dyfnhau’r drafodaeth ynghylch annibyniaeth i Gymru
15 Medi 2022
Mae llyfr newydd gan un o newyddiadurwyr mwyaf blaenllaw Cymru’n rhoi llawer iawn o sylw i ymchwil o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.
Independent Nation: Should Wales Leave the UK? (Biteback) gan Will Hayward yw’r crynodeb niwtral cyntaf o bwys o’r syniad o annibyniaeth i Gymru – achos gwleidyddol sydd wedi ysgwyd seiliau gwleidyddiaeth Cymru yn ystod blynyddoedd diwethaf.
Mae'r llyfr yn ystyried cwestiynau cymhleth ynghylch hunaniaeth genedlaethol ac yn asesu statws cyfansoddiadol Cymru, ond mae hefyd yn ymchwilio i fecanweithiau manwl arian cyfred, cyllidebau a ffiniau.
Er bod ystod o academyddion o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd wedi cymryd rhan mewn cyfweliadau wrth i’r llyfr gael ei ysgrifennu, ynghyd â llawer o unigolion eraill o fywyd cyhoeddus Cymru, chwaraeodd adroddiad ‘Dyfodol Cyllidol Cymru’y Ganolfan rôl arbennig o bwysig.
Dywedodd Will Hayward:
“Roedd Canolfan Llywodraethiant Cymru’n allweddol i’m hymchwil ar gyfer fy llyfr Independent Nation: Should Wales Leave the UK?, yn enwedig yr adroddiad ‘Dyfodol Cyllidol Cymru’.
“Nid dadansoddiad craff a manwl yn unig ydoedd. Fe'i hysgrifennwyd mewn ffordd hawdd ei deall.
“Siaradodd academyddion o Ganolfan Llywodraethiant Cymru nid yn unig â dealltwriaeth ond hefyd â diddordeb angerddol yn eu pwnc. Cyfunodd Guto Ifan yn arbennig drylwyredd academaidd ag elfen bersonol sy'n cael yr effaith ar bobl y tu ôl i'r niferoedd.
“Yn newyddiadurwr ac yn awdur, mae ‘Dyfodol Cyllidol Cymru’ a Chanolfan Llywodraethiant Cymru’n ddefnyddiol iawn i mi o ran arbenigedd."
Mae tîm Dadansoddi Cyllid Cymru wrthi’n gweithio ar ddiweddariad yn y dyfodol i’r ymchwil sydd wedi’i chynnwys yn adroddiad 2020, a’r gobaith yw y bydd yn gwella dealltwriaeth o’r sefyllfa ariannol y gallai Cymru annibynnol ei hetifeddu o’i haelodaeth o’r DG.