Plismona a Datganoli: ‘Achos Arbennig’ Cymru
28 Gorffennaf 2022
Mae dyfodiad datganoli wedi trawsnewid plismona yng Nghymru, yn ôl erthygl academaidd a gyd-ysgrifennwyd gan Dr Rob Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.
Mae'r erthygl, a ysgrifennwyd gan Dr Jones, Dr Michael Harrison o Brifysgol Abertawe a'r Athro Trevor Jones o Brifysgol Caerdydd, yn manylu ar yr effaith y mae datganoli wedi’i chael ar blismona yng Nghymru, a hynny am y tro cyntaf.
A hithau wedi’i chyhoeddi yn ‘Policing: A Journal of Policy and Practice’, mae’r erthygl yn dadlau bod datganoli gwleidyddol wedi trawsnewid plismona yng Nghymru, er nad yw pwerau plismona wedi’u datganoli i Gymru (yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon).
Mae'r berthynas rhwng heddluoedd Cymru a chyrff datganoledig y sector cyhoeddus wedi hen ymsefydlu erbyn hyn, ac mae nodau polisi llywodraeth ddatganoledig Cymru bellach wedi dod yn rhan annatod o sut mae gwasanaethau plismona yng Nghymru’n cael eu gweithredu a’u darparu. Mae'r erthygl yn tynnu sylw at enghreifftiau o’r pethau sy’n wahanol yng Nghymru, gan gynnwys yr arian ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru’n ei wario ar bolisi Swyddogion Cymorth Cymunedol a’r gwahaniaeth mewn rheoliadau COVID-19.
Mae'r erthygl yn nodi bod trafodaethau ynghylch datganoli cyfrifoldeb dros blismona i Lywodraeth Cymru, yn sefydliadol ac yn ddeddfwriaethol, yn parhau i ddatblygu, sy’n atgyfnerthu’r safbwynt bod datganoli wedi creu 'achos arbennig' yng Nghymru.
Mae Dr Jones yn parhau i ddatblygu ei ymchwil yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru drwy gyhoeddi erthyglau a chasglu data, ac mae'n arwain gwaith y Ganolfan ar gyfiawnder troseddol.