Tsieinëeg yn agor drysau prifysgol i ddysgwyr ifanc
12 Medi 2022
Bydd tri disgybl o Ysgol Dosbarth Confucius Ysgol Aberconwy yn dechrau astudio Tsieinëeg ym mhrifysgolion gorau'r DU o fis Medi ymlaen.
O dan arweiniad a chefnogaeth Jie Chen, tiwtor Sefydliad Confucius Caerdydd (CCI), mae'r myfyrwyr Blwyddyn 13 yn gobeithio adeiladu ar eu sgiliau mewn Tsieinëeg hyd at lefel gradd ym mhrifysgolion Bangor, Caeredin a Manceinion.
Dechreuodd Erin Hughes ac Eleanor McNab astudio Tsieinëeg yn yr ysgol ym mlwyddyn 8, a dechreuodd Lara Kerr ym mlwyddyn 9. Ar y dechrau roedd Erin yn aelod o'r clwb Tsieinëeg ar ôl ysgol ac aeth iddo ‘dim ond i roi cynnig ar rywbeth newydd". Yna yn 2017, cafodd gyfle i ymuno â thaith i Tsieina drwy CCI, "profiad anhygoel" a sbardunodd ei chariad at bopeth Tsieineaidd.
"Pan glywais i am daith i Tsieina gyda'r ysgol, roeddwn i'n gwybod bod yn rhaid i mi ddechrau cael gwersi fel y byddwn i'n gallu cymryd rhan yn y profiad anhygoel yma. Fe wnes i basio arholiadau mewn Tsieinëeg i ddechreuwyr [Llwybrau Iaith mewn Mandarin (QCF gynt) lefelau 1 a 3] ac yn 2019, roeddwn i'n ddigon ffodus i fynd ar y daith ysgol i Xiamen a Shanghai am bythefnos!" meddai.
Dechreuodd Eleanor ddysgu Tsieinëeg am y tro cyntaf hefyd oherwydd ei bod o’r farn y byddai'n her. Dechreuodd ym mlwyddyn 8 ac yn fuan y gwelodd ei bod yn ei hoffi lawer mwy nag yr oedd hi'n disgwyl y byddai! Dyma a ddywedodd hi: "Dw i wedi mwynhau'r gwersi yn fawr a dwi'n meddwl mod i wedi elwa ar astudio'r iaith mewn dosbarth bach, lle mae Jie bob amser yn hapus i egluro'n dda iawn yr atebion i unrhyw gwestiynau sydd gen i. Rhan fawr o pam dw i wedi mwynhau'r gwersi gymaint yw bod Jie yn amlwg yn frwdfrydig dros addysgu ac yn hapus i helpu."
Mae Lara wedi bod yn “angerddol” am ddiwylliant Tsieina er pan oedd yn ifanc. Roedd hi am fanteisio ar y dosbarthiadau a roddwyd ar gael yn yr ysgol, a phasiodd ddau arholiad Llwybr Iaith galwedigaethol yn ystod ei chyfnod yno. Fodd bynnag, taith Lara i Tsieina drwy Sefydliad Confucius ym mlwyddyn 11 a gadarnhaodd ei chariad tuag at yr iaith a’r diwylliant. " Roeddwn i'n gweld bod Tsieinëeg mor wahanol gyda'r hen gelf a phensaernïaeth" meddai.
Mae'r tri disgybl yn gobeithio parhau i ddatblygu eu sgiliau iaith Tsieinëeg a'u gwybodaeth am y diwylliant wrth iddynt symud ymlaen i'r brifysgol. Mae Lara yn bwriadu mynd i Brifysgol Bangor i ddilyn gradd mewn Ieithyddiaeth a Tsieinëeg, mae Eleanor yn bwriadu astudio Mandarin ar y cyd â Ffiseg yng Nghaeredin, ac mae Erin yn gobeithio astudio Tsieinëeg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Manceinion.
Oherwydd cefnogaeth yr ysgol a CCI, mae Erin ac Eleanor wedi pasio eu harholiadau HSK 1 a HSK 2 mewn Tsieinëeg Mandarin yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Er nad yw cymwysterau HSK yn rhoi pwyntiau UCAS, roedd y ddwy yn teimlo eu bod yn help mawr i'w ceisiadau i’r brifysgol gan eu bod yn dangos eu parodrwydd a’u diddordeb yn yr iaith, ac yn dangos ymdrech i astudio ar gyfer y profion.
Dywedodd Eleanor "Pe na chaem yr opsiwn i gymryd gwersi Mandarin yn yr ysgol, mae’n rhywbeth na fyddwn i erioed wedi ystyried ei wneud, gan y gall dysgu iaith fel Mandarin ymddangos fel tasg frawychus iawn, ond mae'r gwersi yr wyf wedi eu cymryd wedi rhoi'r opsiwn i mi ddechrau Mandarin ar lefel ganolradd yn y brifysgol, cyfle rwy'n ddiolchgar iawn amdano."
Ychwanegodd Erin "Mae'r gwersi Tsieinëeg yn yr ysgol wedi agor drysau i gymaint o gyfleoedd ac wedi dangos beth sy’n angerddol i mi a byddaf yn mynd ymlaen i astudio mewn addysg uwch. Ar ôl y brifysgol fe faswn i wir yn hoffi mynd i Tsiena eto i weithio, efallai hyd yn oed byw yno!"
Dywedodd athrawes Sefydliad Confucius Caerdydd y merched, Jie Chen, “Mae'n anrhydedd mawr cael bod yn athro Tsieinëeg ar gyfer y myfyrwyr hyn sydd nid yn unig yn dalentog, ond hefyd yn weithgar iawn. Ni allent fod wedi cyrraedd eu lefel bresennol o Tsieinëeg pe na baent wedi treulio llawer o amser yn astudio ar ôl y dosbarthiadau.”
Dywedodd athrawes ieithoedd eu hysgol, Nia Williams, "Rwyf y tu hwnt o falch ohonyn nhw a pha mor dda maen nhw wedi bod. Maent wedi ymdopi â phob rhwystr, wedi cofleidio pob cyfle ac wedi dangos penderfyniad a gwaith caled mawr i basio eu harholiadau Tsieinëeg ac i fynd mor bell ag y maen nhw."
Mae Ysgol Aberconwy yn ysgol uwchradd yng Nghonwy, Gogledd Cymru. Mae’r ysgol yn Ystafell Ddosbarth Confucius gyda Sefydliad Confucius Caerdydd ers 2011 gan roi statws arbennig a chyllid iddi ar gyfer addysgu'r iaith a'r diwylliant Tsieinëeg, a thiwtor penodol i’w dysgu.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cyflwyno Tsieinëeg i'ch disgyblion? E-bostiwch ein Rheolwr Ysgolion Cymru Tsieina i drafod eich opsiynau.