Mae BDP wedi gorffen Campws Arloesedd Caerdydd
25 Awst 2022
Mae Campws Arloesedd Prifysgol Caerdydd, lle mae dau adeilad newydd ar gyfer ymchwil flaenllaw, bellach yn barod.
Cwblhaodd y cwmni dylunio amlddisgyblaethol BDP y prif gynllun a’r tirlunio terfynol ar gam diweddaraf y prosiect, gan ddarparu ardaloedd allanol o safon at ddibenion ymchwil, rhyngweithio cymdeithasol a myfyrio.
Mae'r campws yn cynnwysadeilad sbarc|spark sy'n gartref i Barc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SBARC) a Cardiff Innovations@sbarc|spark, canolfan greadigol y Brifysgol ar gyfer cwmnïau deillio a busnesau newydd , a'r Ganolfan Ymchwil Drosi, sy’n dod â phartneriaid diwydiannol ac ymchwilwyr ynghyd i gynllunio, datblygu a phrofi cynnyrch a phrosesau glanach a gwyrddach newydd.
Dyma a ddywedodd yr Athro Damian Walford Davies, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, a arweiniodd ar y gwaith o gyflawni sbarc|spark: “Mae BDP bellach wedi gorffen y lleoedd cyhoeddus rhagorol hyn yn yr awyr agored a ddyluniwyd yn ofalus i helpu ein staff, ein gwesteion a’r cyhoedd i feithrin partneriaethau newydd. Drwy wneud hyn, mae’r campws yn gallu mynd ati i fod yn greadigol a chydweithio.”
Dyma a ddywedodd Martin Jones, cyfarwyddwr pensaer tirlunio BDP: "Mae ein hagwedd at y tirlunio a thir y cyhoedd yn adlewyrchu'r wyddoniaeth gyffrous sy'n digwydd yn yr adeiladau blaenllaw hyn ac yn ymestyn yr ysbryd o gydweithio sy’n digwydd yn yr adeilad i'r lleoedd yn yr awyr agored. Rydyn ni wedi ymgorffori coridorau ecolegol i hybu bioamrywiaeth, gardd beillio i gefnogi ymdrechion gwyddonol arloesol a sgwâr cyhoeddus er mwyn cynnal digwyddiadau dan do y tu allan hefyd."
Dyluniwyd cysyniad BDP o dir y cyhoedd, sef y 'system arloesi', i sbarduno syniadau, trafodaethau a chyfnewid gwybodaeth, drwy ddefnyddio’r sgwâr cyhoeddus sydd â lle ar gyfer arddangosfeydd a chyfarfodydd allanol, sef yr asgwrn cefn wedi'i dirlunio'n ganolog sy’n cysylltu'r ddau adeilad, a'r lawnt uwch sydd â lleoedd i eistedd a rhyngweithio.
Adlewyrchir geometreg technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd yn y cynllun a’r dyluniad gan fod palmentydd ar ffurf diliau mêl yn yr ardd beillio @Pharmabees. Prosiect ymchwil ar y cyd yw hwn rhwng gwyddonwyr yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i adnabod y cyffuriau sy’n deillio o blanhigion y gellid eu defnyddio i drin pathogenau mewn ysbytai sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau.
Ychwanegodd Martin: "O safbwynt uwchgynllunio, gwnaeth tîm BDP oresgyn heriau sy'n gysylltiedig â gweithio ar safle mor gyfyng sydd â rheilffordd a ffyrdd prysur o’i amgylch. Bu'n rhaid lleoli’r adeiladau'n ddigon pell i ffwrdd o berimedr y safle i sicrhau na fyddai’r dirgryniadau a’r cerbydau sy’n symud yn effeithio ar y cyfarpar gwyddonol pwerus, megis microsgopau a sganwyr yn yr adeilad."
Bu BDP yn gweithio ar y cyd â'r penseiri Hawkins Brown (sbarc|spark) a HOK (TRH) ar y prosiect. Bouygues UK wnaeth gyflwyno'r cynllun.