Canolfan y Gyfraith a Chrefydd yn goruchwylio ail argraffiad o’r cyhoeddiad ynghylch egwyddorion
24 Awst 2022
Fis Awst eleni lansiwyd ail argraffiad o The Principles of Canon Law Common to the Churches of the Anglican Communion, gwaith a oruchwyliodd Canolfan y Gyfraith a Chrefydd, sy’n rhan o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.
Defnyddir yr egwyddorion mewn ymchwil gyfreithiol, yn natblygiad y gyfraith eglwysig Anglicanaidd, ac mewn materion rhyng-eglwysig. Lansiwyd yr ail argraffiad ar 5 Awst 2022 yng Nghynhadledd Lambeth, sef cyfarfod degawdol yr Esgobion yng Nghaergaint ac roedd esgobion o bob rhan o’r Cymundeb fyd-eang yn bresennol. Llywyddwyd y digwyddiad gan Esgob Lesotho, y Gwir Barchedig Vicentia Kgabe sy'n fyfyriwr ar gwrs Cyfraith Eglwysig LLM yr ysgol.
Bu i esgobion a chyfreithwyr y Cymundeb Anglicanaidd ymgynghori â’r Athro Norman Doe, Cyfarwyddwr Canolfan y Gyfraith a Chrefydd, ynghylch datblygu egwyddorion y gyfraith eglwysig dros gyfnod o ddau ddegawd ac roedd yntau ymhlith y rhai a siaradodd yn y lansiad. Yr Athro Norman Doe, a awgrymodd yr egwyddorion ar gyfer y fersiwn gyntaf, a’u drafftio, ac yna fe’u lansiwyd yng Nghynhadledd Lambeth yn 2008
Mewn rhagair i’r argraffiad newydd hwn, mae Archesgob Caergaint wedi disgrifio’r egwyddorion fel rhai “hollol hanfodol” ac “nid yn unig i gyfreithwyr, ond i bawb sy’n ceisio deall y gwahanol ddylanwadau ar yr ecosystem gymhleth hon, y Cymundeb Anglicanaidd.”
Yn ogystal â’r llywydd a’r myfyriwr, y Gwir Barchedig Vicentia Kgabe, roedd y Parchedig Russell Dewhurst sy’n fyfyriwr doethurol ar hyn o bryd ac yn gymrawd yn y Ganolfan, ac a fu’n cadeirio’r Pwyllgor Adolygu, yn bresennol yn y digwyddiad.
Cyhoeddir The Principles of Canon Law Common to the Churches of the Anglican Communion gan y Cyngor Ymgynghori Anglicanaidd (ACC), ac mae’r argraffiad newydd yn adlewyrchu’r cydweithio ffrwythlon rhwng yr ACC, Cymdeithas y Gyfraith Eglwysig a Chanolfan y Gyfraith a Chrefydd yn Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Caerdydd.