Dengys ymchwil fod llawer mwy o obaith na chasineb yn y postiadau a anfonwyd at dîm menywod Lloegr yn ystod Pencampwriaeth Ewrop 2022
25 Awst 2022
Roedd mwyafrif helaeth y postiadau yn y cyfryngau cymdeithasol a gyfeiriwyd at chwaraewyr pêl-droed buddugol Lloegr yn ystod pencampwriaeth 2022 yn rhai cadarnhaol, yn ôl dadansoddiad gan Labordy Gwrthgasineb Prifysgol Caerdydd.
Nododd yr astudiaeth o 78,141 o bostiadau ar Twitter, Reddit a 4Chan fwy na 50,000 o bostiadau cadarnhaol - tua un postiad "casineb" o’i gymharu â 125 o bostiadau "gobaith" - ac ystyriwyd 380 yn rhywiaethol neu’n homoffobig. Roedd y gweddill naill ai'n negyddol neu'n niwtral.
Yn ôl awduron yr adroddiad, mae hyn yn isel o'i gymharu ag ymchwil flaenorol ym maes pêl-droed dynion*, a bod cam-drin digidol – a’r ffaith nad oedd platfformau wedi cymryd camau i ddileu’r cynnwys – yn peri pryder o hyd.
“Y llynedd, cafwyd cam-drin hiliol erchyll yn erbyn chwaraewyr unigol ar ôl i dîm dynion Lloegr golli yn erbyn yr Eidal yn rownd derfynol Pencampwriaeth Ewrop 2020 yn dilyn ciciau o’r smotyn,” meddai’r Athro Matthew Williams, Cyfarwyddwr y Labordy Gwrthgasineb sy’n arbenigwr ym maes troseddau casineb.
“Yn ystod Pencampwriaeth Ewrop y menywod, cafwyd llawer llai o bostiadau a gyfeiriwyd at chwaraewyr unigol Lloegr, sy’n annisgwyl efallai, ond mae hyn hwyrach yn adlewyrchu’r gynulleidfa wahanol sydd gan y gêm yn ogystal â safbwyntiau cadarnhaol am lwyddiant y tîm.
“Rydyn ni hefyd yn gwybod y gall rhoi stereoteipiau cadarnhaol ym myd pêl-droed atal rhagfarn rhag cael ei mynegi – roedd ein hadroddiadau blaenorol ar ‘effaith [Mo] Salah’ yn dangos gostyngiad yn nifer y postiadau ar-lein gan gefnogwyr Lerpwl a oedd yn cynnwys iaith casineb yn erbyn Mwslimiaid yn ogystal â gostyngiad yn nifer y troseddau casineb ar strydoedd Glannau Mersi.
“Wedi dweud hynny, roedd natur y 380 o bostiadau a nodwyd gennym yn peri pryder, gan gynnwys sawl ymgais i ddirmygu llwyddiant pêl-droed menywod, dweud wrth chwaraewyr yn rhai o’r postiadau llai sarhaus am ‘fynd yn ôl i’r gegin’ neu ‘baratoi brechdan’ yn ogystal ag awgrymiadau na ddylai menywod fod yn chwarae pêl-droed. Cafwyd hefyd bostiadau hynod o sarhaus a oedd yn gwneud cyfeiriadau rhywiol. Mae’n syndod bod modd darllen y rhan fwyaf o’r postiadau hyn yn fyw ar y platfformau o hyd.”
Datblygodd yr ymchwilwyr algorithmau newydd yn y Labordy Gwrthgasineb i ddadansoddi miloedd o bostiadau yn Saesneg a anfonwyd rhwng 2 Mai a 1 Awst. Mae'r algorithmau’n cael eu hyfforddi i ganfod iaith casineb sy’n digwydd yn naturiol. Wedyn bydd codwyr dynol yn nodi’r rhain er mwyn sicrhau lefel uchel o gywirdeb, manylder a’r gallu i adalw. Yn sgîl hyn, roedd y Labordy Gwrthgasineb yn gallu canfod postiadau gwreig-gasaol a homoffobig mewn amser real ac ar raddfa fawr yn ystod y twrnamaint.
Canfuwyd bod chwaraewyr Lloegr wedi cael 50,422 o bostiadau cadarnhaol yn ystod y cyfnod o 13 wythnos, ac roedd nifer y postiadau a oedd yn cynnwys “gobaith” wedi cyrraedd yr uchafbwynt yn ystod y gemau yn erbyn Norwy, Sbaen a Sweden. Cafwyd y cynnydd mwyaf yn nifer y postiadau cadarnhaol yn ystod y gêm derfynol yn erbyn yr Almaen.
Cafwyd cyfanswm o 380 o bostiadau yn rhai a oedd yn cynnwys iaith casineb rywiaethol, a hynny yn dilyn tuedd debyg a oedd gan y postiadau cadarnhaol dros gyfnod o amser, gan gyrraedd yr uchafbwynt pan gafwyd 93 o bostiadau yn y gêm derfynol. O gymharu â hyn, cafwyd 920 o bostiadau yr awr a nodwyd yn rhai hiliol pan oedd Twitter ar ei anterth ar ôl i Loegr golli’r gêm derfynol yn dilyn ciciau o’r smotyn y llynedd.
Yn ôl dadansoddiad o’r postiadau a oedd yn cynnwys iaith casineb:
- Anfonwyd postiadau atgas at 23 o fenywod yng ngharfan 25 menyw Lloegr;
- Roedd y rhan fwyaf o'r achosion o iaith casineb yn wreig-gasaol (96%) ac roedd 4% o’r rhain yn homoffobig;
- Cafwyd bod llawer o bostiadau yn cael eu hanfon o Lundain, Manceinion, Lerpwl, Sheffield a Birmingham;
- Anfonwyd y rhan fwyaf gan ddefnyddio Twitter (97%), tra bod 3% ar Reddit ac 1% ar 4Chan ac mae'r rhan fwyaf o'r postiadau (94%) yn fyw o hyd;
- Roedd hanner o’r rhain (54%) yn perthyn i gyfrifon Twitter yn y DU ac anfonwyd y rhan fwyaf (91%) o'r postiadau sarhaus gan ddefnyddwyr a oedd yn nodi eu bod yn ddynion;
- Roedd yr iaith casineb ar-lein yn cyrraedd ei huchafbwynt gyda'r hwyr rhwng 7pm a 10pm ac yn gostwng yn sydyn wedi hynny rhwng y gemau pêl-droed.
“Mae mwyafrif helaeth y postiadau rhywiaethol y mae modd eu hystyried yn hynod sarhaus yn fyw o hyd ac mae hyn yn awgrymu nad yw’r ymdrechion i gymedroli’n cael effaith ar ddileu iaith casineb ac y dylai platfformau’r cyfryngau cymdeithasol gymryd camau ychwanegol i ddiogelu defnyddwyr rhag bod yn destun negeseuon sarhaus ar-lein,” meddai’r Athro Williams, sy’n gweithio yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd.
“Mae ymgyrchoedd megis Hope United gan EE, Kick It Out, Show Racism the Red Card a Rainbow Laces yn ymdrechu i godi ymwybyddiaeth ac atal casineb drwy gydol y tymor pêl-droed – ond mae llawer i’w wneud o hyd cyn y bydd cam-drin ar-lein yn diflannu oddi ar y platfformau.
“Mae’n rhaid i lywodraethau a chwmnïau’r cyfryngau cymdeithasol wneud rhagor, ond oni bai bod defnyddwyr y platfformau hyn yn gwneud safiad yn erbyn casineb yn hytrach na gwneud dim, nid yw’n debygol y bydd iaith casineb yn cael ei dileu oddi ar ein platfformau ar-lein.”
Sefydlwyd y Labordy Gwrthgasineb drwy gyllid gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.