Dr Kathryn Taylor yn ennill Gwobr Frederickson am ymchwiliadau i rôl sinc ym mioleg celloedd a thwf canser
7 Medi 2022
I gydnabod ei chyflawniadau a'i chyfraniad at faes gwyddoniaeth fiolegol sinc, mae Dr Kathryn Taylor o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd wedi ennill Gwobr Frederickson y Gymdeithas Ryngwladol Bioleg Sinc (ISZB) 2022.
Er bod gwyddonwyr yn ymwybodol bod sinc yn hanfodol o ran gallu'r gell i ymrannu a lluosogi, arweiniodd Dr Taylor dîm o ymchwilwyr a lwyddodd i ddarganfod y mecanwaith sy'n galluogi sinc i achosi celloedd i ymrannu. Fe wnaethant ddangos bod angen i sinc fynd i mewn i bob cell trwy gludwyr sinc penodol, a bod yn rhaid i’r cludwyr hyn gael eu hactifadu trwy broses o'r enw ffosfforyleiddio, cyn y gall cell ddechrau ymrannu. Roedd hwn yn ganfyddiad allweddol ym maes bioleg celloedd ac ymchwil canser.
Mae ymchwil Dr Taylor i rôl sinc ym mioleg celloedd ac o ran iechyd dynol yn rhychwantu degawdau ac mae hi wedi ymroi ei gwaith ymchwil i sicrhau gwell dealltwriaeth o sut gellir cymhwyso ei darganfyddiadau gwyddonol ynghylch cludwyr sinc i ddatrysiadau therapiwtig i frwydro yn erbyn clefydau dynol, yn enwedig canser.
Ar hyn o bryd mae tîm Dr Taylor ym Mhrifysgol Caerdydd yn ymchwilio i weld a all rhwystro cludwyr sinc penodol atal y sinc rhag mynd i mewn i'r celloedd ac ysgogi’r cellraniad. Gallai hyn atal celloedd canser rhag ymrannu a lluosogi gan olygu y gallai twf a lledaeniad canser gael ei arafu'n sylweddol neu hyd yn oed ei atal. Yn rhan o'r ymchwil hwn, mae tîm Dr Taylor wedi creu gwrthgorff a all atal cellraniad ac ar hyn o bryd mae'n archwilio sut y gallai'r gwrthgorff hwn fod yn adnodd defnyddiol wrth drin canser yn y dyfodol – yn enwedig ar gyfer canserau sy'n gallu gwrthsefyll therapïau canser presennol megis canserau ymosodol negyddol driphlyg y fron.
Er ei fod yn ei gyfnod cynnar, y gobaith yw y bydd ymchwil Dr Taylor yn cael ei dreialu’n glinigol cyn bo hir gan fod i’r ymchwil botensial o ran cynnig opsiynau therapiwtig amgen ar gyfer canserau sydd naill ai'n amhosibl eu trin gyda therapiwteg gyfredol neu sy'n arbennig o ymosodol.
Gan ddatgan bod Dr Taylor yn berson sy’n wir deilwng o wobr Frederickson, dywedodd Christopher Frederickson o'r ISZB , 'Mae'n anrhydedd mawr i bob un ohonom yn ISZB bod Dr Taylor yn derbyn gwobr Frederickson. Mae hi wedi bod yn arloeswr pwysig ym maes cludwyr sinc a'r llwybrau sinc sy'n eu rheoli. Mae ei gwaith yn cyfeirio at y posibiliadau pwysig o ran cyffuriau i leihau canser y fron ymysg clefydau eraill. '
Sefydlwyd y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Bioleg Sinc (ISZB) yn 2007 yn sefydliad dielw rhyngwladol blaenllaw sy'n dwyn ynghyd wyddonwyr o amrywiaeth o feysydd a chanddynt ddiddordeb cyffredin yn agweddau strwythurol, biocemegol, genetig a ffisiolegol maes bioleg sinc.
Mae canfyddiadau ymchwil diweddaraf Dr Taylor i'w gweld yn ‘The importance of targeting signalling mechanisms of the SLC39A family of zinc transporters to inhibit endocrine resistant breast cancer’ Explor Target Antitumor Ther. 2022 Ebrill 26; 3 (2): 224–239. doi:10.37349/etat.2022.00080.