Myfyrwraig meddygol o Brifysgol Caerdydd yn cael ei dewis ar gyfer ysgoloriaeth nodedig
16 Awst 2022
Mae myfyrwraig feddygol o Brifysgol Caerdydd wedi cael ei dewis ar gyfer ysgoloriaeth nodedig a sefydlwyd i ddatblygu a meithrin arweinwyr gofal iechyd y dyfodol.
Bydd Chantal Corbin, myfyrwraig feddygol y bedwaredd flwyddyn a Chadeirydd Academaidd Cymdeithas Feddygol y Brifysgol, yn ymuno â rhaglen Ysgolor yr Academi Arweinyddiaeth Gofal Iechyd (HLA) ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23.
Dywedodd y fyfyrwraig ryngwladol o Barbados ei bod hi'n teimlo'n “falch iawn” o gael ei dewis yn dilyn proses ddethol drylwyr.
“Rwy’n awyddus i ddeall beth mae’n ei olygu i fod yn arweinydd yng nghyd-destun gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn y dyfodol, wrth weithio gyda grŵp amrywiol o unigolion sy’n herio ac yn annog ei gilydd i gyflawni eu potensial,” meddai Chantal.
Yn ei rôl yn Gadeirydd Academaidd, mae Chantal yn goruchwylio pwyllgor o gynrychiolwyr o gyrsiau sy'n eirioli dros newid ar ran y corff myfyrwyr ehangach. Yn unol â’i diddordebau mewn meddygaeth cyn-ysbyty a gofal ar unwaith, mae’n gyd-arweinydd dysgu corfforol ar bwyllgor Myfyrwyr yn Achub Bywydau, menter arloesol sydd â’r nod o roi sgiliau CPR i fyfyrwyr prifysgol.
Wedi'i sefydlu yn 2016, mae ysgoloriaeth HLA yn cydnabod myfyrwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol sydd â gallu diamheuol o arwain ac yn rhoi cyfle iddynt fynd â'u sgiliau arwain i'r lefel nesaf. Yn rhan o'u rôl, bydd hi’n datblygu prosiect cymunedol yn ystod y rhaglen blwyddyn o hyd.
Dywedodd Johann Malawana, Cyfarwyddwr yr HLA: “Ar ôl proses ymgeisio drylwyr a chystadleuol, mae’n bleser gennym groesawu Chantal Corbin i’n carfan HLA 2022-2023.
“Mae’r pandemig wedi atgyfnerthu’r angen am arweinwyr sy’n ysbrydoli, yn gwrando ac yn gofalu. Ar adeg o her fawr fyd-eang, mae’n bwysig bod y genhedlaeth nesaf o arweinwyr gofal iechyd yn cael eu hysgogi, eu hysbrydoli a’u paratoi er mwyn gofalu am y poblogaethau y maent yn eu gwasanaethu yn y ffordd orau.”