Ddegawd ar ôl tân Ali Enterprises, mae diffyg arswydus o ran allanfeydd tân, yn ôl gweithwyr dillad Pacistan
12 Awst 2022
Mae ymchwil newydd gan yr Ymgyrch Dillad Glân a WISERD ym Mhrifysgol Caerdydd yn dangos bod angen dybryd i ehangu’r Cytundeb Rhyngwladol ym Mhacistan, cytundeb diogelwch sy’n gyfreithiol rwymol er mwyn diogelu gweithwyr.
Mae 2022 yn nodi 10 mlynedd ers y tân erchyll Ali Enterprises a laddodd dros 250 o weithwyr dillad ym Mhacistan ond prin fod hawliau gweithwyr yn y diwydiant dillad a thecstilau wedi symud ymlaen. Nid oes cytundeb diogelwch o hyd sy’n dal cyflogwyr a brandiau rhyngwladol yn gyfrifol am weithredu protocolau a gweithdrefnau diogelwch sylfaenol. Felly, mae gweithwyr yn dioddef yr un amodau bron a arweiniodd at y tân trychinebus hwn – y mwyaf angheuol erioed yn y diwydiant dillad byd-eang. Mae tystiolaeth o hyn mewn data a gasglwyd gan draciwr digwyddiadau sydd wedi cofnodi dros ddwsin o ddigwyddiadau a arweiniodd at farwolaethau ac anafiadau mewn ffatrïoedd dillad ym Mhacistan dros y 18 mis diwethaf.
Ym Mhacistan, amcangyfrifir bod 2.2 miliwn o weithwyr yn cynhyrchu dillad, mae 1.8 miliwn yn gwneud tecstilau, ac mae 200,000 yn cael eu cyflogi yn y diwydiant esgidiau a lledr, yn cyflenwi brandiau byd-eang mawr fel Levi’s, H&M, ac Ikea. Er mwyn deall pa newidiadau y mae angen eu gwneud i ddiogelu gweithwyr, cynhaliodd yr Ymgyrch Dillad Glân arolwg cyffredinol o bron i 600 o weithwyr yn ymdrin â materion yn amrywio o aflonyddu yn y gweithle, iechyd a diogelwch yn y gweithle, a lles gweithwyr.
Y pwysicaf o’r materion oedd y diffygion yn rhai o’r darpariaethau mwyaf sylfaenol ar gyfer diogelwch ffatrïoedd wrth gynhyrchu dillad ym Mhacistan, hyd yn oed y darpariaethau hynny sy’n orfodol yn ôl y gyfraith. Dywedodd 85% o’r gweithwyr na fyddai unrhyw fynediad i risiau allanfa priodol petai tân yn digwydd. Dywedodd un o bob pump o’r gweithwyr nad oedd eu gweithle’n cynnal driliau tân ac nad oeddent yn ymwybodol o lwybrau dianc ac allanfeydd brys. Yn ogystal, canfu’r arolwg nad oedd archwiliadau ffatri annibynnol yn cael eu cynnal ym Mhacistan, felly er bod gweithwyr yn dweud bod larymau tân a rhai mecanweithiau diogelwch yn bodoli, ni fu unrhyw arolygiadau rheolaidd er mwyn sicrhau bod systemau a chyfarpar yn gweithredu’n ddiogel.
Mae’n destun pryder, mewn ffatrïoedd lle mae menywod yw’r rhan fwyaf o’r gweithwyr, mai dim ond tri chwarter y gweithwyr a ddywedodd fod ganddynt fynediad i lwybrau dianc dirwystr.
Mae canlyniadau’r arolwg yn dangos bod angen dybryd i’r Cytundeb Rhyngwladol ar gyfer Iechyd a Diogelwch yn y Diwydiant Tecstilau a Dillad ehangu i Bakistan. Byddai’r Cytundeb yn sicrhau arolygiadau ffatri annibynnol rheolaidd gan beirianwyr cymwysedig. Hefyd, byddai’n ofynnol i gyflogwyr gydymffurfio â chynlluniau gweithredu i gywiro’r sefyllfa, a hynny cyn pen cyfnod penodol o amser er mwyn datrys y peryglon diogelwch a nodwyd. Yn ogystal, byddai’r Cytundeb yn darparu mecanwaith cwynion lle gall gweithwyr ddal rheolwyr ffatri’n gyfrifol am weithredu gweithdrefnau diogelwch, heb ofni y byddai dial arnyn nhw. Bydd cynnwys undebau lleol a sefydliadau hawliau gweithwyr lleol eraill wrth gynllunio, rheoli a gweithredu’r broses o ehangu’r Cytundeb i Bakistan yn hollbwysig.
Ni all y rhai sy’n rhedeg y gadwyn gyflenwi fyd-eang anwybyddu’r amodau hyn mwyach.
Yn ôl Ineke Zeldenrust o’r Ymgyrch Dillad Glân: “Y brandiau sy’n cael nwyddau o’r ffatrïoedd hyn ac sy’n elwa ohonyn nhw sy’n gyfrifol am sicrhau bod gweithwyr ffatri ym Mhacistan yn ddiogel pan fyddan nhw’n mynd i’r gwaith. Mae gan frandiau’r pŵer i arwain y ffordd a gwneud newidiadau a allai wella bywydau miliynau o weithwyr drwy roi iddyn nhw yr hyn y dylen ni i gyd fod â hawl i’w ddisgwyl – gweithle diogel ac iach a’r hawl i fod yn rhan o’r broses o gyflawni hyn.”
Yn ôl Nasir Mansoor, Ysgrifennydd Cyffredinol Ffederasiwn Yr Undebau Llafur Cenedlaethol ym Mhacistan: “Mae gweithwyr ac undebau lleol yn mynnu cytundeb diogelwch rhwymol ers blynyddoedd. Byddai gweithredu’r Cytundeb Rhyngwladol ym Mhacistan nid yn unig yn sicrhau diogelwch gweithwyr ond hefyd yn sicrhau bod gan weithwyr le i negodi’n uniongyrchol â brandiau a pherchnogion ffatri. Mae ar weithwyr ym Mhacistan angen dybryd am gytundeb diogelwch rhwymol, nid yn unig i ddatrys materion diogelwch mewn ffatrïoedd ond hefyd i roi diogelwch i weithwyr drwy ddatrys y cyfraddau isel o weithwyr sy’n cofrestru.”
Yn ôl Khalid Mahmood, Cyfarwyddwr y Sefydliad Addysg Lafur ym Mhacistan: “Er bod y cyfreithiau iechyd a diogelwch yn nhaleithiau Sindh a Punjab wedi’u cryfhau yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, heb weithredu’r cyfreithiau hyn yn briodol a heb arolygiadau llafur effeithiol, mae’n amhosibl sicrhau diogelwch gweithwyr”.
Yn ôl Zehra Khan, Ysgrifennydd Cyffredinol Ffederasiwn Gweithwyr Menywod yn y Cartref ym Mhacistan: “Mae’n amlwg bod diogelwch gweithwyr yn fater sy’n gysylltiedig â rhywedd, gyda menywod yn gwneud yn gyson waeth na’u cymheiriaid gwrywaidd yn y diwydiant dillad. Byddai gweithredu’r Cytundeb o fudd enfawr i ddiogelwch menywod yn y gweithle a byddai’n rhoi mecanwaith i ni sicrhau bod ein cwynion yn cael eu clywed a’u hateb yn briodol.”
Yn ôl yr Jean Jenkins, Athro Cysylltiadau Cyflogaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd a cyd-gyfarwyddwr WISERD wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd: “Rydyn ni wrth ein boddau o weld yr adroddiad pwysig hwn yn cael ei gyhoeddi gan yr Ymgyrch Dillad Glân a’u partneriaid ym Mhacistan. Ar hyn o bryd, a’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn rhoi’r gorau i iechyd a diogelwch fel rhywbeth sy’n hanfodol i’w agenda ‘gwaith gweddus’, mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at yr angen dybryd i weithwyr a’u cynrychiolwyr gael eu clywed yn eu brwydr i greu gweithleoedd mwy diogel yn y sector dillad rhyngwladol.”