Cychwyn ar fy nhaith fel gwneuthurwr ffilmiau dogfen
11 Awst 2022
Dale Williams
Dogfennau Digidol (MA)
2021/2022
Dechreuais i ymddiddori am y tro cyntaf mewn rhaglenni dogfen pan welais i’r bennod am ogofau yn Planet Earth ar BBC2.
Yn yr olygfa gyntaf un, mae parasiwtydd yn disgyn i geg agored ogof danddaearol cyn rhyddhau ei barasiwt ar yr eiliad olaf un, ymddengys. R
oedd yr olygfa agoriadol honno’n fwy cofiadwy imi nag unrhyw beth roeddwn i wedi’i weld mewn ffilm ffuglen, a newidiodd y ffiniau yn fy meddwl o ran yr hyn y gallai rhaglen ddogfen fod.
Dogfennau Digidol (MA)
Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach roeddwn i’n eistedd mewn siop goffi yn aros i gwrdd â Dr Janet Harris, arweinydd y cwrs Dogfen Digidol (MA) ym Mhrifysgol Caerdydd.
Doeddwn i ddim yn siŵr a fyddai fy nghais yn ddigon cryf i ymuno â'r cwrs. Doeddwn i ddim wedi gwneud BA, ond tawelodd Dr Harris fy meddwl gan ddweud y byddai angerdd dros raglenni dogfen a pharodrwydd i weithio'n galed a rhwydweithio yn cario’r dydd. Ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach dechreuais i gyfnod o absenoldeb astudio i wneud fy ffilm traethawd hir.
Sheffield DocFest
Ar ddiwedd Mehefin 2022 roeddwn i’n ddigon ffodus i weithio yn Sheffield DocFest, sef gŵyl ffilmiau dogfen fwyaf a gorau’r byd.
Mae'r Cwrs/Ysgol yn annog myfyrwyr i wneud gwaith academaidd a phrofiad ymarferol, felly roedd dyma’r cyfle perffaith a'r amser gorau gan fod yn rhaid imi wneud rhaglen ddogfen yn ogystal â chwilio am swydd.
Yn Sheffield cefais i fy amgylchynu gan wneuthurwyr ffilmiau, recriwtwyr a chwmnïau cynhyrchu disgleiriaf a gorau'r byd. Hwn oedd fy mhrofiad cyntaf o ŵyl ffilmiau go iawn felly doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl, ond o’r noson gyntaf un cefais fy nghroesawu â breichiau agored.
Cynigion, triniaethau ffilm a threlars
Sylweddolais i’n syth y byddai gweddill yr wythnos yn agoriad llygad ac roedd yn rhaid imi wneud y gorau ohono. Ar ddechrau’r ŵyl yn deg, cefais i fy holi am y cynigion, y triniaethau a’r rhagolwg ar gyfer fy ffilm, a beth roeddwn i’n bwriadu ei wneud ar ôl graddio, ac wedyn pa ffilmiau roeddwn i’n bwriadu eu gweld yn nes ymlaen.
Er gwaethaf gweithio rhwng 10 a 6 bob diwrnod yn ystod yr ŵyl ar brosiect Realiti Estynedig (AR, a aeth ymlaen i ennill Gwobr y Rheithgor!) Roeddwn i'n gallu gweld rhai ffilmiau anhygoel. Roedd Pongo Calling, Singing From The Rooftops, New Pigs on the Block ymhlith y rheini sy’n aros yn y cof. Cwrddais â’r golygyddion, y gwneuthurwyr ffilm a’r cynhyrchwyr ac es i ati i gyfnewid manylion cyswllt â phawb.
Roedd y gwaith ei hun yn cynnwys symud y cwsmeriaid i mewn ac allan o’r ffilmiau’n ddiogel, sicrhau bod y ffilmiau’n cael eu dangos yn unol â'r amserlen, cysylltu â’r cynhyrchwyr a’r artistiaid, a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am sut i ymadael â’r adeilad mewn argyfwng a diogelwch.
Roeddwn i’n gyfrifol am dîm o wirfoddolwyr ac roedd hynny’n llawer o hwyl, a gyda'n gilydd gwnaethon ni sicrhau bod popeth yn gweithio i’r dim yn ystod yr wythnos gyfan.
Rhagolygon a chyfleoedd
Ar y cyfan byddwn i’n rhoi 10/10 o ran fy mhrofiad yn Sheffield DocFest. Rwy wedi gwneud ffrindiau a chysylltiadau na fyddwn i wedi cwrdd â nhw yn unman arall, a gwelais i ffilmiau anhygoel a roddodd gymaint o ysbrydoliaeth a chymhelliant imi wrth imi bellach ystyried fy ffilm traethawd hir. Ar ben hynny, mae’r ŵyl wedi rhoi cyfleoedd imi sydd wedi ymddangos ar adeg ddelfrydol.
Diolch yn fawr, Sheffield DocFest!