Gwerthoedd a Rhinweddau ar gyfer Byd Heriol
9 Awst 2022
Diwrnod o drafod athronyddol cyhoeddus wrth galon llywodraeth Cymru
Beth yw'r agweddau, y sgiliau a'r gwerthoedd sydd eu hangen i lywio heriau anrhagweladwy ein byd sy'n newid yn gyflym?
Gan edrych ar y themâu pwysig hyn ar gyfer heddiw a'r dyfodol, Mae Values and Virtues for a Challenging World yn llyfr newydd o draethodau a gyhoeddodd Gwasg Prifysgol Caergrawnt ac a olygodd pedwar athronydd o Brifysgol Caerdydd —— Dr Anneli Jefferson, Dr Orestis Palermos, Dr Panos Paris a'r Athro Jonathan Webber.
Bydd awduron y llyfr yn treulio diwrnod ym mis Medi yn archwilio eu syniadau gyda gweithwyr proffesiynol ym maes addysg a pholisi cyhoeddus i ymchwilio i sut y gallwn baratoi ein hunain i ymateb i ddigwyddiadau anrhagweladwy mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo bywydau dynol ffyniannus. Mae'r drafodaeth yn agored i'r cyhoedd.
Esboniodd Pennaeth Athroniaeth Prifysgol Caerdydd, yr Athro Jonathan Webber , y syniad y tu ôl i'r diwrnod:
“Rydyn ni’n byw mewn byd sy’n gynyddol anodd ei ragweld. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf gwelwyd pandemig COVID-19, rhyfel yn Ewrop, a gwres a thanau gwyllt eithafol ledled y byd. Bydd newid yn yr hinsawdd yn dod â mwy o argyfyngau fel y rhain, y bydd eu union natur a'u heffeithiau ond yn hysbys pan fyddant yn digwydd. Ar yr un pryd, mae'r cyfryngau cymdeithasol yn trawsnewid yn llwyr sut rydym yn deall ein hunain ac yn meddwl am ein sefyllfaoedd.
Mae angen i ni baratoi ein hunain i ddelio'n dda â heriau ar raddfa fawr na allwn ragweld eu manylion. Mae angen i ni feddwl am yr agweddau a'r galluoedd sy'n cael eu meithrin yn ein system addysg, wrth ddylunio ein cyfryngau cymdeithasol, ac yn ein sefydliadau a'n mannau cyhoeddus yn fwy cyffredinol. Mae'r gynhadledd hon wedi'i chynllunio i ddechrau’r sgyrsiau hynny. Mae croeso cynnes i bawb ymuno.”
Mae'r digwyddiad yn gydweithrediad rhwng yr adran Athroniaeth yn y brifysgol a'r Sefydliad Athroniaeth Brenhinol, ac mae'n bosibl drwy gyllid Arloesi i Bawb.
Cynhelir Gwerthoedd a Rhinweddau ar gyfer Byd Heriol ddydd Mercher 21 Medi (09:30 i 16:15, Prif Neuadd y Pierhead, Bae Caerdydd). Mae croeso cynnes i gyfranogiad y cyhoedd trwy gofrestru ymlaen llaw.