Astudiaeth yn nodi mwtaniad SARS-CoV-2 sy'n 'dianc' o gelloedd T marwol a gynhyrchir gan haint a brechiad
5 Awst 2022
Mae gwyddonwyr y DU wedi tynnu sylw at fwtaniad ym mhrotein sbigyn (Spike protein) SARS-CoV-2 sy'n caniatáu i'r firws osgoi celloedd imiwnedd pwysig a achosir gan haint a brechlynnau.
Daeth y mwtaniad sbigyn P272L gyntaf i'r amlwg yn ystod ail don y DU o COVID-19, a ddechreuodd ym mis Medi 2020, ac sydd wedi'i leoli'n benodol i'r rhan o'r protein sbigyn sydd fel arfer yn cael ei hadnabod gan gelloedd T lleiddiol. Mae'r protein spigyn SARS hefyd yn sail ar gyfer brechlynnau cyfredol.
Mae’r “mwtaniad dianc” wedi’i ganfod mewn mwy na 100 o linachau feirysol hyd yma, gan gynnwys y rhai a ddosberthir fel “amrywiadau sy’n peri pryder”. Fe’i gwelwyd mewn straen yn y DU ac Ewrop, ac yn Awstralia ac UDA rhwng Medi 2020 a Mawrth 2022.
Pan fydd mwtaniad yn dod i'r amlwg yn annibynnol sawl gwaith, mae hyn yn codi pryderon bod y firws yn esblygu am reswm fel dihangfa imiwnedd.
Nawr, mae astudiaeth newydd a arweiniodd Prifysgol Caerdydd ac a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Cell, wedi dangos bod y mwtaniad sbigyn P272L wedi osgoi cael ei ganfod gan gelloedd T lleiddiol mewn grŵp o weithwyr gofal iechyd o dde Cymru a gafodd eu heintio â SARS-CoV-2 ar ddechrau'r pandemig. Fe wnaeth y mwtaniad hefyd osgoi pob cell T a ddaeth i'r amlwg yn erbyn y rhan hon o'r firws mewn rhoddwyr a oedd wedi'u brechu.
Dywed yr ymchwilwyr fod monitro “dihangfa feirysol” yn bwysig - ac os bydd mwtaniadau fel P272L yn dechrau dominyddu yna efallai y bydd angen newid brechlynnau yn y dyfodol i gynnwys gwahanol broteinau feirysol.
Dywedodd yr awdur arweiniol, yr Athro Andrew Sewell, o Ysgol Feddygaeth a Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau Prifysgol Caerdydd: “Fe wnaethon ni astudio dros 175 o wahanol fathau o gelloedd T lleiddiol a allai ganfod y rhan o’r firws sy’n cynnwys y mwtaniad P272L a chawsom ein synnu o weld bod yr un mwtaniad hwn wedi arwain at ddihangfa yn yr holl roddwyr a astudiwyd.
“Mae mwtaniadau dihangfa dianc tebyg wedi’u gweld mewn feirysau ffliw. Amcangyfrifwyd bod y feirws a achosodd bandemig ffliw Hong Kong yn 1968 wedi profi mwtaniadau i allu osgoi cael ei adnabod gan fath o gell-T leiddiol unwaith bob tair blynedd.”
Yn yr astudiaeth hon, dihangodd P272L o fwy na 175 o dderbynyddion celloedd T - yn y cleifion COVID a'r rhai a gafodd eu brechu.
Ers i astudiaeth Caerdydd gael ei chwblhau, mae'r mwtaniad wedi'i arsylwi yn yr amrywiad Omicron gwreiddiol (BA.1) yn Lloegr. Cafodd yr amrywiad hwn ei drechu gan amrywiadau Omicron eraill (BA.5 yn fwyaf diweddar) sy'n fwy trosglwyddadwy, ond mae'r ymchwilwyr yn rhagweld y gall y mwtant sy’n dianc rhag celloedd-T lleiddiol ddod i'r amlwg a chael ei drosglwyddo yn BA.5 ac unrhyw amrywiadau dilynol.
Dywedodd yr Athro Tom Connor, arbenigwr mewn genomeg SARS-CoV-2 o Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau ac Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd: “Mae’r mwtaniad P272L wedi dod i'r amlwg mewn llawer o wahanol linachau SARS-CoV-2 ers dechrau’r pandemig. Mae esblygiad annibynnol yr un mwtaniad mewn llinachau feirysol lluosog yn enghraifft o homoplasi, a all fod yn awgrymu mwtaniad a allai roi mantais ddetholus.
“Rwy’n rhagweld efallai y byddwn yn gweld mwy o achosion o’r amrywiad P272L dros amser, wrth i’r feirws barhau â’i esblygiad i fod yn bathogen dynol. Mae ein gwaith yn pwysleisio faint mae’n rhaid i ni ei ddysgu o hyd am SARS-CoV-2, a phwysigrwydd monitro celloedd T dianc yn y dyfodol.”
Dywedodd Dr Lucy Jones, arweinydd ymchwil clinigol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a gasglodd samplau’r astudiaeth: “Roedd ein hastudiaeth yn edrych ar y math mwyaf cyffredin o gell T marwol yn adnabod protein sbigyn y feirws. Os daw'r mwtaniad P272L i fod yn flaenllaw ymhen amser, efallai y byddai'n fanteisiol rhoi hwb i'r brechlyn gyda'r dilyniant newydd hwn neu ymestyn y brechiad i gynnwys proteinau feirysol eraill.
“Mae brechlynnau presennol yn gweithio’n dda a dylai pobl ddal i gael nhw, ond mae ein hymchwil yn awgrymu y gallai fod angen newid brechlynnau wrth i ni ddysgu mwy am y firws.”
Roedd yr astudiaeth yn cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Rhydychen a chonsortiwm COVID-19 Genomics UK.