Cydnabod darlithydd rhagorol
5 Awst 2022
Dyfarnwyd gwobr genedlaethol i ddarlithydd o Brifysgol Caerdydd am ei effaith eithriadol ar ganlyniadau myfyrwyr a'r proffesiwn addysgu.
Mae Advance HE wedi dyfarnu Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol i Dr Nigel Francis o Ysgol y Biowyddorau.
Mae 55 o unigolion o sector addysg uwch y DU yn derbyn y gymrodoriaeth yn flynyddol, ac mae bri a chydnabyddiaeth yn perthyn iddi yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Mae Dr Francis ar flaen y gad ym maes addysg ac asesu digidol yn yr Ysgol. Gan ddefnyddio offer ar-lein i wneud dosbarthiadau bywiog a rhyngweithiol, yn ogystal ag efelychiadau ar-lein, mae Dr Francis yn helpu i baratoi myfyrwyr ar gyfer gweithgareddau yn y labordy, a hynny er mwyn iddyn nhw fanteisio i’r eithaf ar eu profiadau.
"Ar ddechrau cyfnod clo COVID-19, arweiniodd y gwaith o ddatblygu cymuned #DrylabsRealScience, sef rhwydwaith cenedlaethol sy’n datblygu ffyrdd o gyflwyno profiadau dilys yn y labordy i fyfyrwyr drwy addysgu ar-lein.
Roedd y dull hwn yn cefnogi profiad dysgu myfyrwyr Caerdydd, ac mae'r gymuned yn parhau o hyd ar ffurf #RealLabsRealScience, ac mae hyn yn sbarduno ffyrdd o gynnwys myfyrwyr wrth gynnal gweithgareddau dysgu dilys.
Ag yntau’n Uwch-gymrawd yn yr AAU, mae wedi bod yn eiriolwr o bwys dros gwricwla cynhwysol ac yn gymorth enfawr i fyfyrwyr ag anableddau. Ef hefyd yw Arweinydd Cynllun Gradd y BSc Gwyddorau Biofeddygol, ac mae'n trefnu'r Profiadau Ymchwil wythnos o hyd ar gyfer Blwyddyn 2.
Wrth drafod ei wobr, dyma a ddywedodd Dr Francis: “Rwy'n hynod falch o dderbyn y gymrodoriaeth ac yn ddiolchgar iawn am y cymorth a'r arweiniad a gefais gan fy nghydweithwyr yn y gorffennol a'r presennol i ddatblygu fy sgiliau addysgu. Rwy'n ffodus fy mod wedi cael cefnogaeth llawer o bobl eithriadol sydd wedi rhoi’r cyfle imi roi cynnig ar bethau newydd i wella fy sgiliau addysgu a dysgu.
“Rwy'n ffodus fy mod i wedi gallu gweithio ochr yn ochr â chynifer o fyfyrwyr brwdfrydig a dyfeisgar sydd wedi cyfrannu at helpu i lunio eu haddysg ac wedi fy herio i fod yn well yn gyson.
“Rwy'n gobeithio y bydd y Gymrodoriaeth yn helpu imi allu dangos peth o'r gwaith addysgu anhygoel sy'n digwydd yn Ysgol y Biowyddorau. Ar lefel bersonol, bydd derbyn y gymrodoriaeth yn golygu y galla i barhau i wella fy sgiliau addysgu a chefnogi pobl eraill.”
Dyma a ddywedodd Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr: "Hoffwn longyfarch Dr Nigel Francis ar gymrodoriaeth haeddiannol. Mae'n hynod ymroddedig i'n myfyrwyr ac rwy'n hyderus y bydd yn gallu defnyddio'r gymrodoriaeth i gynrychioli Prifysgol Caerdydd wrth iddi barhau i gyfoethogi addysg yn genedlaethol ac yn rhyngwladol."
Bydd Dr Francis yn ymuno â chymuned genedlaethol o fwy na 800 o weithwyr proffesiynol o'r un anian sy'n angerddol am ragoriaeth addysgu, a bydd yn cael y cyfle i gydweithio ar draws ffiniau a disgyblaethau yma yn y DU a ledled y byd.