Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr Llyfr y flwyddyn i gynfyfyrwyr

3 Awst 2022

Un o raddedigion Caerdydd yn ennill gwobr ryngwladol am ei llyfr cyntaf

Cipiodd cynfyfyriwr Llenyddiaeth Saesneg Jessica George (Llenyddiaeth Saesneg, PhD 2014 ac MA 2006) y wobr o £2,000 yng Ngwobrau Rhyngwladol Rubery 2022 am The Word.

Mae'r wobr lyfrau ryngwladol fawreddog yn chwilio am y llyfrau gorau gan awduron indie, awduron hunan-gyhoeddedig a llyfrau a gyhoeddir gan weisg annibynnol.

Yn wreiddiol o Bont-y-pŵl, mae’r awdur Jessica George wrth ei bodd bod ei gwaith wedi taro’r fath gord â’r beirniaid. Dyma a ddywedodd hi:

“Mae'n wych gweld gwobr yn hyrwyddo gweisg bach ac awduron annibynnol y mae ymgeisio am y gwobrau mawr yn rhy ddrud iddynt. Pan astudiais Lenyddiaeth Saesneg yng Nghaerdydd, dangosodd yr awyrgylch calonogol a’r cyfle i astudio ffuglen Gymraeg i mi fod mynd i’r afael â digwyddiadau cyfoes a syniadau mawr yn bosibl i mi fel awdur, a dyna mae The Word yn ceisio ei wneud.”

Wedi’i osod mewn dyfodol dystopaidd hynod o berthnasol, mae The Word yn dilyn grŵp o bobl ifanc sydd wedi’u cysylltu gan bŵer newydd – y gallu i orfodi eraill i ufuddhau iddynt. Pan gânt eu carcharu gan luoedd drwg y llywodraeth, a gorfod profi arbrofion, maent yn cael trafferth deall eu lle yn y byd newydd brawychus hwn. Mae eu gwrthwynebiad i'r gyfundrefn awdurdodaidd yn arwain at ymgais i ddianc a chyfres o ddigwyddiadau sy'n arwain at uchafbwynt cyffrous.

Ar ei ffurf nofela, roedd The Word wedi ennill yn New Welsh Writing Awards 2019, gyda rhaghysbyseb ffilma gynhyrchwyd gan y New Welsh Review.

Rhannu’r stori hon