Mynd i’r afael â phwysau costau byw yng Nghymru
2 Awst 2022
Mae adroddiad ar bwysau costau byw, sy'n cael ei gyhoeddi gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, yn cynnwys argymhellion gan Dr Deborah Hann o Ysgol Busnes Caerdydd.
Mae hyn yn cynnwys argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru achredu pob sefydliad yn y sector cyhoeddus yng Nghymru fel cyflogwr cyflog byw, a darparu hyn yn benodol ar gyfer gweithwyr mewn awdurdodau lleol a byrddau iechyd yng Nghymru.
Mae'r pwyllgor hefyd wedi mabwysiadu argymhelliad Dr Hann y dylai Llywodraeth Cymru ystyried pa wersi y gellir eu dysgu o gynlluniau rheoleiddio gwirfoddol i gyflogwyr y sector preifat a sut y gallai gefnogi’r gwaith o efelychu manteision y dull hwn mewn rhannau eraill o Gymru.
Yn ei swydd fel cyd-gadeirydd Citizens Cymru Wales, rhoddodd Dr Hann dystiolaeth i'r pwyllgor ar amryw o bynciau, gan gynnwys y grwpiau o bobl sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan y cynnydd mewn costau byw, cyflog byw gwirioneddol a'r farchnad lafur.
Cafodd tystiolaeth Dr Hann, yn enwedig ar fanteision y cyflog byw gwirioneddol, ei llywio gan ei hymchwil ar y cyd â chydweithwyr o'r Ysgol Busnes, Dr David Nash a'r Athro Edmund Heery.
Ar y cyflog byw gwirioneddol, dywedodd Dr Hann: "Dyma'r unig lefel cyflog sy'n cael ei gyfrifo i ystyried costau byw. Mae 40c yr awr yn uwch na'r cyflog byw cenedlaethol, nad yw’n gyflog byw yn dechnegol."
Dywedodd Dr Hann y gallai'r bwlch rhwng y cyflog byw cenedlaethol a'r cyflog byw gwirioneddol i weithiwr incwm isel fod yn £700-£800 y flwyddyn ac "mae'r bwlch hwnnw yn adlewyrchu diffyg gallu i fodloni costau sylfaenol yn unig".
Tynnodd Dr Hann sylw at lwyddiant achredu sefydliadau addysg uwch fel cyflogwyr cyflog byw, gyda thâl dros 2,000 o bobl yn cynyddu i 'gyflog costau byw', ac awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr, lle mae 1,000 o weithwyr wedi'u codi uwchlaw'r bwlch hwnnw. Dywedodd y byddai cynnydd tebyg ar draws awdurdodau lleol yn hawdd i'w gyflwyno a chyflogau bywyd tua 14-15,000 o bobl yng Nghymru i lefel a fyddai'n eu helpu i fynd i'r afael â’r problemau o ran costau byw.
Ysgrifennodd Paul Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn y rhagair: "Mae’r cynnydd mewn costau byw yn cael ei deimlo ledled Cymru ac mae’n effeithio ar bron bob rhan o fywyd cyhoeddus a phreifat. Gan nad yw cyflogau ac incwm sefydlog yn ymestyn mor bell ag yr oedd, mae pobl yn ei chael hi’n anodd dal dau ben llinyn ynghyd ac yn aml yn gorfod gwneud dewisiadau anodd.”
"Yr argymhelliad yw'r cam cyntaf yn unig fodd bynnag. Rwy'n edrych ymlaen at awdurdodau lleol a byrddau iechyd ledled Cymru yn cael eu hachredu fel cyflogwyr cyflog byw, wrth iddynt gamu i'r adwy a chodi cyflogau miloedd o weithwyr o Ynys Môn i Ben-y-bont ac Aberyswyth i Lanfair-ym-Muallt."