Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ymuno â theulu sbarc|spark
1 Awst 2022
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR), y tîm sydd wedi ymrwymo i ailfywiogi ac ail-lunio de-ddwyrain Cymru, yn symud i ganolfan arloesi sbarc|spark Prifysgol Caerdydd.
Mae cenhadaeth CCR i gysylltu pobl, cyfleoedd a buddsoddiadau â’i gilydd yn rhannu uchelgais sbarc|spark i greu partneriaethau fydd yn arwain at fanteision parhaol i Gymru.
Canolfan bwrpasol lle mae cydweithio arloesol yn digwydd yw sbarc|spark. Mae sbarc|spark, sef canolfan cwmnïau deillio a busnesau newydd y Brifysgol, sydd hefyd yn gartref i Barc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SBARC) a Cardiff Innovations@sbarc|sbark yn darparu’r seilwaith er mwyn i brosiectau cydweithio lwyddo.
Dyma a ddywedodd Kellie Beirne, Prif Weithredwr CCR: "Mae gan CCR a Phrifysgol Caerdydd lawer yn gyffredin, felly roedd symud i sbarc|arob yn gwneud synnwyr perffaith. Mae'r ddau ohonon ni’n dod â buddsoddi rhanbarthol i mewn i ardal de-ddwyrain Cymru. Rydyn ni’n gweithio'n agos ar draws pum maes blaenoriaeth lle mae ymchwil Caerdydd yn arloesi, sef Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, technoleg ariannol, seiberddiogelwch, technoleg greadigol a meddygol, ac ar ben hynny rydyn ni’n hwyluso cyfleoedd ar y cyd i fuddsoddi mewn busnesau. Yn anad dim, rydyn ni’n rhannu'r un ymrwymiad i beri i dde-ddwyrain Cymru fod yn lle gwell i fyw, gweithio a ffynnu."
Agorodd sbarc|spark ar Ddydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth). Yn yr adeilad eisoes mae partneriaid cyhoeddus a phreifat a phartneriaid yn y trydydd sector, ac mae pob un ohonon nhw’n mwynhau perthynas â Phrifysgol Caerdydd sydd o fudd i bawb. Ymhlith y tenantiaid newydd mae Sefydliad Materion Cymru (IWA), yr arbenigwyr busnes sy'n cael eu gyrru gan ddata Bipsync a SimplyDo, ynghyd â Nesta Cymru sef yr asiantaeth arloesi er budd cymdeithasol.
Mae tîm Cronfa Heriau £10m Prifddinas-Ranbarth Caerdydd eisoes wedi ei leoli yn y ganolfan. Gan weithio mewn partneriaeth â'r Brifysgol ac Y Lab - labordy arloesi gwasanaethau cyhoeddus Cymru - mae'r gronfa yn gwahodd cyrff yn y sector cyhoeddus i ddatblygu heriau a chysylltu â sefydliadau sy'n gallu cynnig atebion arloesol.
Dyma a ddywedodd yr Athro Damian Walford Davies, Dirprwy Is-Ganghellor, a fu'n arwain datblygiad sbarc|spark: "Rydyn ni’n falch iawn o groesawu tîm Dinas-Ranbarth Caerdydd i'n Canolfan Arloesi. Dyfodol ar y cyd sydd o’n blaenau, does dim dwywaith. Bydd gosod CCR wrth ymyl 13 o grwpiau a sefydliadau yn SBARC – parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd – yn golygu y bydd yn gallu cyrchu arbenigwyr blaenllaw sy’n meddu ar y sgiliau a'r weledigaeth i ddatrys ystod o broblemau cymhleth y gymdeithas. Bydd Prifysgol Caerdydd hithau yn gallu elwa ar yr ystod o brosiectau datblygu busnesau a sgiliau broceriaeth sydd gan CCR. Yn yr ystyr hwnnw, rydyn ni’n bartneriaid perffaith."
Ymhlith y grwpiau a’r canolfannau sy’n rhan o SBARC y mae CASCADE, y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant; WISERD, Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru; Uned Ymchwil Economi Cymru a Chanolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc.
Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sef yr ymrwymiad arloesol ar y cyd a wnaed yn 2016 gan y deg awdurdod lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i ddatgloi £1.2bn o fuddsoddiad ar y cyd, sydd wrth wraidd CCR.