Cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol Prifysgol Caerdydd sy’n cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad
28 Gorffennaf 2022
Mae myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ymhlith y rheini sy'n cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad eleni.
Bydd Gemau'r Gymanwlad yn dechrau yn Birmingham heddiw (dydd Iau 28 Gorffennaf) a byddan nhw’n parhau tan ddydd Llun 8 Awst. Mae 14 o gyn-fyfyrwyr ac athletwyr sy’n fyfyrwyr ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynrychioli Tîm Cymru, yn ogystal â Thîm Lloegr, Tîm Jersey a Thîm Guernsey.
Dyma a ddywedodd Pennaeth Chwaraeon Prifysgol Caerdydd, Stuart Vanstone: “Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld ein cyn-fyfyrwyr a'n hathletwyr sy’n fyfyrwyr ar hyn o bryd yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad ac rwy’n dymuno pob lwc iddyn nhw. Gwych o beth yw gweld ein myfyrwyr a'n graddedigion yn rhagori yn y disgyblaethau gan mai yma ym Mhrifysgol Caerdydd y taniwyd angerdd cynifer ohonyn nhw yn ogystal a datblygu eu sgiliau.”
Athletwyr Prifysgol Caerdydd
Heather Knight OBE (BSc 2012, Anrh 2018) Criced
Mae capten Lloegr, Heather, yn mynd i Birmingham yn rhan o Dîm Lloegr. Arweiniodd y tîm i lwyddiant yng Nghwpan Criced y Byd yn ystod haf 2017, gan godi’r tlws yng nghartref tîm criced Lloegr yn Lords, a dyfarnwyd OBE iddi am ei gwasanaeth i fyd criced yn dilyn hynny. Yn gynharach eleni, arweiniodd y tîm i rownd derfynol Cwpan y Byd yn Seland Newydd.
Astudiodd Heather Ffisioleg yng Nghaerdydd a chafodd ei galw i ymuno â thîm Lloegr i fynd ar y daith i India yn 2010, hanner ffordd drwy ei hastudiaethau. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd iddi yn 2018 ac mae wedi parhau i gefnogi’r Brifysgol drwy wirfoddoli ei hamser mewn digwyddiadau a rhannu ei phrofiadau.
Lauren Evans (BSc 2021) Athletau, Heptathlon a’r Naid Uchel
Ar ôl ennill ei gradd Troseddeg a Chymdeithaseg, mae Lauren wedi bod yn paratoi i gystadlu yn y gemau gyda chymorth ei hyfforddwr yng Nghlwb Athletau Caerdydd, Fyn Corcoran. Mae Lauren yn athletwraig sydd wedi cystadlu mewn llu o gampau, gan gynnwys 100m y Clwydi, y Naid Uchel a'r Pentathlon.
Yn 2017, cystadlodd Lauren yn 100m y clwydi yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad ac enillodd fedal arian ym Mhencampwriaethau Mabolgampau Cyfun Athletau Lloegr yn y Pentathlon.
Jake Heyward (BSc 2021) Athletau, 1500m
Yn ogystal ag ennill gradd Cyfrifeg a Chyllid, mae Jake wedi bod yn paratoi ar gyfer y gemau hyn gyda chymorth ei hyfforddwr, Mark Rowland a enillodd fedal Olympaidd.
Ar ôl iddo ymddangos am y tro cyntaf yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo yn 22 oed, llwyddodd Heyward i gyrraedd rownd derfynol y gamp hon. Ef hefyd yw pencampwr Iau Ewrop am yr ail dro ac mae’n dal record Cymru am ras y 1500m gan gofnodi amser ysblennydd, sef 3:33.99.
Lloyd Lewis (BA 2019) Rygbi Saith Bob Ochr
Ar ôl ennill gradd Llenyddiaeth Saesneg ar y cyd â'r Cyfryngau a Newyddiaduraeth, mae Lloyd wedi cynrychioli Cymru ar y lefel Dan 18 a Dan 20. Yn ddiweddar, roedd hefyd yn rhan o dîm Cymru a gyrhaeddodd dwrnamaint Saith Bob Ochr Cwpan Rygbi'r Byd a gynhelir yn Ne Affrica ym mis Medi.
Yn ogystal â bod yn adnabyddus am sgorio ceisiadau rif y gwlith, artist rap talentog yw Lloyd ac yn aml bydd yn perfformio yn Gymraeg .
Jon Hopkins (Therapi Galwedigaethol 2019-) Athletau, Ras Ffos a Pherth 3000m
Yn wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr, mae Jon ar hyn o bryd yn astudio i fod yn therapydd galwedigaethol yn ogystal â hyfforddi ar gyfer y gemau gyda'r hyfforddwr Tomaz Plibersek.
Cynrychiolodd ei wlad yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2018, gan gyrraedd y 6ed safle yn y Ras Ffos a Pherth.
Natalie Powell (BSc 2015) Jiwdo
Enillodd Natalie radd Gwyddorau Biofeddygol yn 2015 ac mae wedi cwblhau gradd meistr Hyfforddi Chwaraeon Uwch. Ochr yn ochr â'i hastudiaethau, parhaodd i hyfforddi gyda Darren Warner.
Yn 2014, hi oedd yr athletwraig Jiwdo gyntaf o Gymru i fod yn bencampwraig yng nghamp y 78kg i fenywod yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow. Ar ben hynny, mae wedi cystadlu ddwywaith yn y Gemau Olympaidd ac mae ganddi 31 o fedalau Taith Fyd-eang yr IJF.
Dominic Coy (Peirianneg Sifil ac Amgylcheddol 2020-) Triathlon
Mae Dominic, sy’n dilyn gradd Peirianneg Sifil ac Amgylcheddol ar hyn o bryd, yn ogystal â blwyddyn yn astudio yn Sbaen, hefyd yn hyfforddi i gystadlu yn y triathlon.
Ar ôl cystadlu yn ei driathlon cyntaf ac yntau ond yn wyth mlwydd oed, aeth Coy yn ei flaen i gipio’r 3ydd safle ym Mhencampwriaeth Genedlaethol y Triathlon Sbrint Iau yn 2021. Ar ben hynny, cipiodd y 3ydd safle ym Mhencampwriaethau Triathlon Iau y Byd yn Quartiera yn 2021.
Josh Lewis (BSc 2017, PgDip 2020) Triathlon
Mae Josh, a enillodd PgDip Dylunio Amgylcheddol Adeiladau yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, yn parhau i hyfforddi yng Nghanolfan Perfformio Triathlon Genedlaethol Cymru.
Bydd yn cynrychioli Guernsey a chipiodd y 3ydd safle yn Rownd Derfynol Triathlon Prydain 2021. Yn ddiweddar, gorffennodd yn y 5ed safle yn Hanner Triathlon Ironman Her Cymru.
Rhys Pilley (BA 2021) Beicio
Enillodd Rhys, sy’n cynrychioli Jersey, radd Athroniaeth yn ddiweddar. Yn wreiddiol, roedd yn mwynhau beicio ar y ffordd ers pan oedd yn ifanc ond mae bellach wedi ailhyfforddi i ganolbwyntio ar y trac.
Ar ôl cystadlu yn Ras Gymhwyso Genedlaethol y Dynion yn Derby yn 2019 a gorffen yn yr ail safle, mae Rhys yn gobeithio mai ef fydd cynrychiolydd cyntaf Jersey yn y felodrom ers Lynn Minchinton yn 1994.
Owain Dolan-Gray (Cynllunio Cynaliadwyedd a Pholisi Amgylcheddol 2020-) Hoci
Tra ei fod yn cwblhau ei astudiaethau, mae Owain yn chwarae hoci i Glwb Hoci Caerdydd a’r Met. Mae'n chwaraewr a fydd yn cynnig cryn brofiad i dîm hoci Cymru gan iddo ennill 124 o gapiau dros ei wlad.
Daniel Kyriakides (BSc 2016) Hoci
Cafodd Daniel, a enillodd radd Bioleg y Môr, y cyfle i gynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2014 a 2018. Mae ei yrfa ym myd hoci wedi mynd ag ef mor bell â'r Almaen i chwarae dros Crefelder HTC, tîm yn y Bundesliga.
Rupert Shipperley (BSc 2014), Hoci
Mae Rupert, a enillodd radd Daearyddiaeth Ddynol a Chynllunio, yn chwarae hoci ar hyn o bryd i glwb Hampstead a Westminster yn Uwch-adran Cynghrair Hoci Lloegr y Dynion.
Cafodd y cyfle i gynrychioli Tîm Prydain yng Ngemau Olympaidd Tokyo yn 2020. Mae’n amlwg bod hoci hefyd yn gamp sy'n rhedeg yn y teulu, gan i’w chwaer Zoe hefyd chwarae dros Loegr a Phrydain Fawr.
Izzy Webb (BSc 2020) Hoci
Ar hyn o bryd mae Izzy, a enillodd radd Ffisiotherapi, yn chwarae dros Glwb Hoci Clifton Robinson ym Mryste ac mae wedi ennill 33 cap dros Gymru.
Yn ddiweddar, cymerodd ran yng nghyfres y tair gêm prawf yn erbyn De Affrica a bellach bydd yn troi ei golygon at gêm gyntaf Cymru yn y gemau yn erbyn Canada ddydd Gwener 29 Gorffennaf am 14:00.
Leila Thomas (BSc 2020) Pêl-rwyd
Ar hyn o bryd mae Leila – a enillodd radd Biocemeg – yn chwarae pêl-rwyd i'r Celtic Dragons yn Uwch-gynghrair Vitality. Enillodd fedal efydd yn Uwch-gynghrair Vitality yn 2019 gan ennill medal arian yn nhwrnamaint Pêl-rwyd Ewrop yn 2019.
Cynrychiolodd Gymru yn ôl yn 2018 a bydd hi eisiau dechrau'r gemau'n gryf pan fydd Cymru'n chwarae’n erbyn Jamaica yn ei gêm agoriadol ddydd Gwener 29 Gorffennaf.