Empire unbound
27 Gorffennaf 2022
Golwg newydd ar adeiladu ymerodraethau yng Ngogledd Affrica yn cydbwyso effaith rhwydweithiau trawswladol a chydweithrediad ag uchelwyr Mwslimaidd
Mae'r llyfr diweddaraf gan staff hanes sef Empire Unbound France and the Muslim Mediterranean, 1880-1918 yn archwilio adeiladu cymunedol yng nghyfnod imperialaeth newydd ar ddiwedd y 19eg ganrif.
Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, roedd yn beth cyffredin i ymerodraethau ewropeaidd gael eu darlunio mewn mapiau a chanddynt gôd-lliw ar gyfer eu hargraffu, er mwyn ceisio cyfleu ehangder pŵer ewropeaidd ar draws y byd. Er gwaethaf y ddelwedd gyfarwydd hon o fyd wedi'i rannu'n gilfachau imperialaidd ac iddynt ffiniau pendant, roedd realiti adeiladu ymerodraethau’n aml yn adrodd stori wahanol.
Yma mae'r hanesydd Dr Gavin Murray-Miller yn dadlau na fu ymerodraethau ewropeaidd erioed yn endidau sefydlog ac iddynt ffiniau, fel yr oedd imperialwyr wedi’i ddychmygu.
Wrth archwilio adeiladu ymerodraethau canoldirol mewn cyd-destun cymharol, mae'n dangos bod cyfnod 'imperialaeth newydd' a ddaeth ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi meithrin cysylltiadau a synergeddau rhwng pwerau rhanbarthol a ddylanwadodd ar daflwybrau gwladwriaethau imperialaidd mewn ffyrdd sylfaenol.
Gan symud i ffwrdd oddi wrth ddulliau cenedlaethol confensiynol, mae'n olrhain datblygiad ymerodraeth Ffrainc yng Ngogledd Affrica gan nodi sut roedd adeiladu ymerodraethau’n dibynnu ar rwydweithiau trawswladol a chydweithrediad ag uchelwyr Mwslimaidd ar draws ffiniau, lawn cymaint ag yr oeddent yn dibynnu ar goncwestau milwrol.
Drwy edrych ar y perthnasoedd rhyng-gysylltiedig oedd rhwng ymerodraethau Ffrainc, Prydain, yr Eidal a hefyd yr ymerodraeth Otomanaidd, rhwng y 1880au hyd y Rhyfel Byd Cyntaf, mae Empire Unbound yn cynnig fframwaith gofodol newydd ar gyfer astudiaethau’n ymwneud ag imperialaeth, gan ddangos sut roedd mudo, cyfundrefnau cyfreithiol alldiriogaethol, a rhyngweithio traws-diriogaethol yn atgyfnerthu ond hefyd yn atal bwriadau imperialaidd ar droad y ganrif.
Wedi’i gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Rhydychen, Empire Unbound France and the Muslim Mediterranean, 1880-1918 yw trydedd gyfrol yr hanesydd o Gaerdydd. Mae'n dilyn Revolutionary Europe: Politics, Community and Culture in Transnational Context, 1775-1922 (Bloomsbury, 2020) a The Cult of the Modern: Trans-Mediterranean France and the Construction of French Modernity (Gwasg Prifysgol Nebraska, 2017).
Mae’r Dr Gavin Murray-Miller yn uwch-ddarlithydd ym maes hanes ewrop fodern ac mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y canlynol: Ffrainc fodern, astudiaethau cenedlaetholdeb a dinasyddiaeth, oes y chwyldroadau, mudiadau gwleidyddol radicalaidd, Islam ewropeaidd a materion amlddiwylliannol.