Arweinydd Cerddorfa’r Brifysgol yn ymddeol
21 Gorffennaf 2022
![Image of Mark Eager with baton in hand](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/2638907/Mark-Eager.png?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Ar ôl 14 mlynedd yn cyfarwyddo Cerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd (CUSO) mae Mark Eager yn ymddeol fel arweinydd.
Ers 2008 mae Mark wedi mowldio’r Gerddorfa i fod ymhlith y mwyaf llwyddiannus o’i bath. Bu’n perfformio’n rheolaidd mewn sawl canolfan bwysig yng Nghymru a chynhyrchwyd 4 CD llwyddiannus. Hefyd cafwyd teithiau rhyngwladol yn Ewrop ac i Tsieina o dan ei gyfarwyddyd medrus.
Oherwydd ei rihyrsio manwl, ei wybodaeth eang o’r repertoire a’i ofal gyda manylion mae’r myfyrwyr wedi gallu perfformio gweithiau mawr a phwysig tebyg i Belshazzar’r Feast gan Walton, Spirit of England gan Elgar, Nawfed Symffoni Beethoven, Chweched Symffoni Tchaikovsky a llawer o symffoniau gan Mahler, a hynny mewn neuaddau fel Neuadd Hoddinott, Neuadd Dewi Sant, Eglwys Gadeiriol Llandaf ac Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Braint fawr i’r Gerddorfa oedd rhoi perfformiadau cyntaf o ddarnau gan Debussy a Jolivet. Digwyddodd hyn fel rhan o ŵyl City of Light: Paris 1900-1950 y Philharmonia yng Nghaerdydd yn 2016. Uchafbwynt cyfraniad y Gerddorfa oedd perfformiad o ddarn a seiliwyd ar amlinelliadau gan Debussy a recordiwyd ar y cryno-ddisg City of Light: New Discoveries a dderbyniodd adolygiad canmoladwy 4 * gan Geoff Brown yn The Times.
Cynhyrchwyd cryno-ddisgiau eraill gan y gerddorfa gan gynnwys Symffoni Rhif 1 gan Michael Csanyi-Wills, a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer y myfyrwyr, a hefyd weithiau gan Liszt a Robert Fokkens. Mark oedd y symbyliad a’r ysbrydoliaeth am lwyddiant y mentrau arloesol hyn.
![Image of Mark Eager conducting](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0010/2638918/Mark-Eager-performance.png?w=575&ar=16:9)
Yn ogystal â mwynhau llwyddiant gartre’, mae’r Gerddorfa wedi cyflawni tair taith dramor. Yn y ddwy gyntaf cafwyd derbyniad gorfoleddus mewn sawl canolfan yn yr Almaen, fel Baden Baden,Wiesbaden Kurhaus a Heidelberg.
Llwyddodd y daith ddiweddaraf i Brifysgol Xiamen yn Tsieina i gryfhau’r berthynas rhwng Caerdydd a Xiamen a phrofwyd yno brofiadau diwylliannol ac artistig bythgofiadwy.
Yr Athro Kenneth Hamilton, Pennaeth yr Ysgol: “Mae dyled fawr gan Ysgol Cerddoriaeth Caerdydd i Mark Eager. Mae ei fywiogrwydd, talent a gweledigaeth wedi bod yn sylfaenol er mwyn sefydlu’n Cerddorfa Symffoni fel un blaengar iawn o’i bath. Ni all llawer o fyfyrwyr edrych yn ôl at gyfres o recordiadau o repertoire prin gan gyfansoddwyr hanesyddol a rhai presennol – llawer ohonynt yn berfformiadau cyntaf - ac a gafodd dderbyniad gwresog; ac yn ogystal y profiad o deithiau tramor llwyddiannus a mentrus. ’Rwyf wedi cydweithio gyda Mark a’r Gerddorfa mewn llawer o gonsiertos i biano ac ’rwyf bob amser wedi edmygu ei rihyrsio gofalus a manwl, ei gerddgarwch amlwg a’i wybodaeth trylwyr o’r sgôr.”