“Mae lleisiau anabl yn cael eu distewi o hyd. Barddoniaeth yw fy ffordd i o godi ymwybyddiaeth am ableddiaeth ac o ysgrifennu yn erbyn hynny”
20 Gorffennaf 2022
Yn sgîl astudio ysgrifennu creadigol, mae Bethany Handley bellach yn fardd sydd wedi cyhoeddi ei gwaith mewn sawl gwlad.
“Rwy bob amser wedi mwynhau bod yn berson creadigol,” meddai. “Mae ysgrifennu creadigol wedi bod yn ffordd imi sianelu'r creadigrwydd hwnnw. Mae’n fraint bod wedi astudio Ysgrifennu Creadigol yng Nghaerdydd, yn enwedig dan oruchwyliaeth Dr Robert Walton a Dr Ailbhe Darcy a oedd wedi fy annog i fod yn greadigol y tu mewn a'r tu allan i fy ngradd.
“Maen nhw wedi fy helpu i ddatblygu’n awdur ac i rymuso fy llais.”
Mae Bethany, sy'n graddio gyda gradd dosbarth cyntaf ym maes Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg ar y cyd ag Ysgrifennu Creadigol, wedi mynd yn ddefnyddiwr cadair olwyn rhan-amser yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'n awyddus i ddefnyddio ei dawn i hyrwyddo cynhwysiant a chydraddoldeb.
“Rwy wedi dysgu llawer am ableddiaeth ers hynny,” meddai. “Mae llawer o bobl heb ymwybyddiaeth o’r realiti ynghylch salwch cronig, a realiti defnyddwyr cadair olwyn rhan-amser. Mae cymaint o stigma o hyd ynglŷn â defnyddio cadair olwyn. Bydda i’n teimlo'n rhwystredig pan fydda i’n gorfod wynebu safbwyntiau anwybodus sy’n dangos ableddiaeth ac mae'r rhwystredigaeth honno'n tanio fy marddoniaeth.
“Dyma fy ffordd i o addysgu'r byd am fy mhrofiad ac o gysylltu â phobl ifanc eraill nad oes ganddyn nhw hwyrach y cyfle na’r adnoddau i siarad am y materion hyn.”
Yn ôl Bethany, mae’r pandemig a chyflwyno dysgu o bell wedi cyflwyno elfen newydd o hyblygrwydd yn ei hastudiaethau.
“Os ydych chi’n fyfyriwr anabl neu’n fyfyriwr â salwch cronig, mae cymryd rhan ym myd addysg uwch yn bendant yn anos. Un o ychydig fanteision COVID yw bod addysg uwch yn mynd yn haws i ragor o bobl gymryd rhan ynddi. Mae graddau gyda'r opsiwn i astudio o bell a'r holl gynnwys yn cael ei recordio a'i lanlwytho wedi bod yn gam anhygoel o safbwynt cynwysoldeb.
“Roedd yn golygu bod gen i amser i ysgrifennu barddoniaeth yn ogystal â gweithio a chwrdd â phobl ar fy nghwrs gradd. Fyddwn i ddim wedi cael yr amser hwnnw i fod yn greadigol fel arall.
“Rwy'n credu ein bod ni'n dysgu sut i fod ychydig yn fwy cynhwysol o ran sut rydyn ni'n gweithio a sut rydyn ni'n dysgu. Mae hynny'n wir yn mynd i helpu'r gymuned anabl. Mae’n rhaid inni sicrhau ein bod yn cynnal dysgu hybrid ar ôl y pandemig fel y gall rhagor o bobl gymryd rhan ym myd addysg. Mae gan bawb yr hawl i gymryd rhan mewn addysg uwch.”
Yn ogystal â chael ei chyhoeddi'n rhyngwladol, gan gynnwys yn Poetry ac ar y Poetry Foundation, mae Bethany yn Aelod Ifanc o Gwmni GALWAD, sef un o ddeuddeg o bobl greadigol ifanc ac amrywiol o Gymru sy'n helpu i ddychmygu dyfodol gwell. Mae hi'n cael y cyfle i ddysgu gan rai o bobl greadigol gorau Cymru o fyd theatr, ffilm a theledu.
Roedd hi'n un o 20 o awduron newydd i gael eu dewis gan Theatr y Sherman i gymryd rhan yn y rhaglen Lleisiau Nas Clywir ar gyfer 2022.
Bu hefyd yn gynhyrchydd-fyfyriwr ar gyfer Caerdydd Creadigol.
Ar hyn o bryd, mae Bethany yn gweithio gyda’i chyd-fyfyrwraig, yr awdures Megan Angharad Hunter i gyflwyno encil ysgrifennu a ariennir gan Lenyddiaeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer awduron b/Byddar ac Anabl rhwng 18 a 25 oed. Eu nod yw hyrwyddo lleisiau pobl anabl ifanc yng Nghymru.
Mae Bethany wedi cael swydd yn syth; mae’n swyddog cyfathrebu i Diverse Cymru, sy'n ceisio helpu i greu cenedl lle mae pawb yn gyfartal a lle mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu.
“Rwy eisiau defnyddio fy mhrofiad byw o anghydraddoldeb i helpu i sicrhau bod Cymru yn well lle i bawb”, meddai.
Enillodd Bethany, sy’n hanu o Sir Fynwy, hefyd y marc cyffredinol gorau o blith yr holl raglenni Cydanrhydedd yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.
Dyma a ddywedodd hi: “Ar ôl popeth sydd wedi digwydd yn ystod y tair blynedd diwethaf, rwy'n falch iawn o’r ffaith fy mod i’n graddio. Mae'n teimlo fel cyflawniad enfawr – bu'n rhaid i bob un ohonon ni ddysgu bod yn llawer mwy gwydn ers y pandemig ac felly mae'r llwyddiant hwn hyd yn oed yn fwy arbennig.”