Mae gwyddonwyr yn taflu goleuni newydd ar sut mae SARS-CoV-2 yn osgoi ymateb y system imiwnedd pan fydd yr haint yn cyrraedd y corff yn gyntaf
19 Gorffennaf 2022
Mae astudiaeth newydd dan arweiniad Prifysgol Caerdydd wedi taflu goleuni ar sut mae’r feirws COVID-19 yn “ymyrryd” ag ymateb cychwynnol system imiwnedd y corff er mwyn osgoi cael ei ganfod.
Yn y labordy dangosodd gwyddonwyr sut y gall SARS-CoV-2 osgoi celloedd lladd naturiol (NK) – sef math o gell gwaed gwyn sy’n rhan hanfodol o ymateb cynnar y system imiwnedd – a hynny drwy rwystro nifer o ffyrdd mae'r celloedd hyn yn adnabod y feirws.
Fodd bynnag, canfu’r ymchwilwyr nad yw'r feirws yn gallu osgoi celloedd NK sydd wedi'u hactifadu gan wrthgyrff i adnabod proteinau feirysol yn y gell heintiedig – sy'n golygu y bydd gan eu canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn eLife, oblygiadau pwysig hwyrach ar gyfer y ffordd mae brechlynnau yn cael eu creu.
“Mae ein hymchwil yn awgrymu bod modd gwella’r brechlynnau a’u cryfhau er mwyn sicrhau ein bod yn helpu’r corff i amddiffyn ei hun yn well ac i ymosod ar y feirws,” meddai’r prif awdur Dr Ceri Fielding, Darlithydd yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.
Mae ymateb cynhenid – neu gychwynnol – y system imiwnedd i COVID-19 yn broses hollbwysig ond cymhleth ac mae gan y feirws ystod eang o strategaethau i osgoi cael ei ganfod. Yn ystod ymateb cychwynnol y system imiwnedd, mae celloedd NK yn adnabod targedau feirysol drwy foleciwlau a grëir gan straen sydd ar arwyneb celloedd heintiedig.
Gan eu bod yn rhan o ymateb addasol y system imiwnedd – neu’r ymateb mwy pwerus sy'n para'n hirach – maen nhw wedyn yn adnabod celloedd heintiedig drwy ddefnyddio gwrthgyrff sy’n feirws-benodol. Gelwir y mecanwaith hwn yn cytotocsedd cellog sy’n ddibynnol ar wrthgyrff (ADCC).
Sgriniodd y tîm broteinau sy’n amlygu’u hunain ar arwyneb celloedd heintiedig i ddangos sut mae'r feirws yn osgoi celloedd NK. Mae’n gwneud hyn trwy atal moleciwlau a elwir yn ligandau rhag cyfuno ac yna rwymo eu hunain am dderbynyddion y celloedd NK. Yn sgîl arbrofion pellach, canfuwyd ei bod yn bosibl bod y proteinau feirysol Nsp1 ac Nsp14 yn gyfrifol am yr effaith honno.
Wedyn, dangoson nhw ei bod yn bosibl bod celloedd NK yn cael eu sbarduno gan wrthgyrff sydd wedi'u rhwymo wrth gelloedd heintiedig SARS-CoV-2, drwy fecanwaith ADCC, sy’n nodi pa gell ddylai gael ei dinistrio.
Yn y rhan fwyaf o'r brechlynnau cyfredol, mae’r protein spigyn yn gydran allweddol – ond mae'r astudiaeth hon yn awgrymu y byddai proteinau feirysol eraill yn ysgogi agweddau gwahanol ar ymateb y system imiwnedd.
“Yr hyn y gwnaethon ni ei ddarganfod oedd bod heintio naturiol yn creu’r gwrthgyrff hyn mewn ffordd effeithiol, ond nid yw hynny’n wir yn achos brechu – digwydd hyn oherwydd nad yw targedau’r gwrthgyrff yn y brechlynnau rydyn ni’n eu defnyddio ar hyn o bryd,” meddai’r Athro Richard Stanton, feirolegydd sydd hefyd yn gweithio yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.
“Wrth inni aros am fersiynau newydd o frechlynnau’r coronafeirws, mae ein gwaith yn cynnig ffordd o wella’u heffeithiolrwydd, a hynny drwy ysgogi'r math cywir o wrthgyrff a all ymosod ar y feirws a'i ladd.
“Yn benodol, gellid ychwanegu proteinau feirysol, sy’n ysgogi gwrthgyrff ac sy’n gallu rhoi ADCC ar waith mewn celloedd lladd naturiol, at y fformwleiddiadau cyfredol. Bellach, mae angen rhagor o astudiaethau in vivo i ymchwilio’n llawnach i hyn.”
Ychwanegodd Dr Fielding: "Mae'r brechlynnau presennol yn gweithio'n dda a dylai pobl eu defnyddio, ond mae ein hymchwil yn dangos ffordd o wella'r genhedlaeth nesaf o therapiwteg."
Ariannwyd y gwaith hwn gan gynllun Taclo COVID-19 Sêr Cymru Llywodraeth Cymru a Chonsortiwm Imiwnoleg Coronafeirws y DU (UK-CIC).