Ewch i’r prif gynnwys

Disgybl o Ddosbarth Confucius yw’r unig ddisgybl o Gymru i gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth DU gyfan

15 Gorffennaf 2022

Cymerodd Isabel Stubbs ran yn y categori 'Dechreuwyr Plws', ac aeth ymlaen i ennill lle ymysg yr wyth olaf.

Ar 1 Mehefin, ymunodd pump o ddisgyblion o Ystafell Ddosbarth Confucius, Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, â Chystadleuaeth Pont i Tsieina 2022 ar gyfer ysgolion y DU.

Cymerodd Isabel Stubbs ran yn y categori 'Dechreuwyr Plws', ac aeth ymlaen i ennill lle ymysg yr wyth olaf. Dyma'r unig ysgol yng Nghymru i gyrraedd rowndiau terfynol y gystadleuaeth.

Dywedodd athrawes Mandarin Isabel, Wei Tang: "Ers ei dosbarth Tsieinëeg cyntaf, dangosodd Isabel ei chariad a'i diddordeb yn yr iaith ac yn niwylliant Tsieina hefyd. Mae hi'n mynd ati i ateb cwestiynau yn y dosbarth ac mae bob amser yn chwilio am wybodaeth sy'n gysylltiedig â diwylliant Tsieineaidd".

"Mae rhieni Isabel yn athrawon EFL [Saesneg fel Iaith Dramor], sydd wedi gwneud iddi edmygu ac anelu at addysgu ers pan oedd hi'n blentyn. Pan ofynnwyd iddi pa wlad yr hoffai addysgu Saesneg ynddi, dywedodd Isabel yn hyderus wrthym [Wei a'r tiwtor cynorthwyol Liheng Jiang] mai Tsieina oedd ei ffefryn. Mae hi'n meddwl bod dysgu iaith yn golygu 'dysgu am ddiwylliant', ac mae hi'n gobeithio y gall pobl Tsieineaidd ddysgu am ddiwylliant Prydain drwy astudio Saesneg a charu Prydain gymaint ag y mae hi'n caru Tsieina."

Gyda chefnogaeth tiwtoriaid a gwirfoddolwyr o Sefydliad Confucius Caerdydd, cymerodd pedwar myfyriwr blwyddyn naw ran hefyd yng nghategori Timau'r gystadleuaeth. Yn un o'r 63 o ysgolion a gymerodd ran yn y gystadleuaeth eleni, nhw hefyd oedd y myfyrwyr cyntaf o Ysgol Gyfun Cwm Rhymni i gymryd rhan yn y gystadleuaeth Pont i Tsieina.

Mae Pont i Tsieina yn gystadleuaeth a drefnir gan y Ganolfan Addysg a Chydweithredu Iaith (CLEC) y DU, ac a gefnogir gan y Cyngor Prydeinig.

Mae Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn ysgol uwchradd yng Nghaerffili a'r Coed Duon, ac mae wedi bod yn  Ystafell Ddosbarth Confucius ers 2015.

Rhannu’r stori hon