Gwyddonwyr yn taflu goleuni newydd ar anghydraddoldeb dŵr cartref
8 Awst 2022
Mae canfyddiadau newydd Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd yn ceisio deall dynameg bwysig anghydraddoldeb o fewn datblygiad cynaliadwy.
Gall dynameg anghydraddoldeb o fewn datblygu cynaliadwy roi gwybod i randdeiliaid sut y gall sefyllfaoedd godi a chaniatáu iddynt gymryd camau priodol i liniaru unrhyw faterion y maent yn eu creu. Mewn ymdrech i'w deall ar lefel ddyfnach, bu tîm dan arweiniad Dr Feng Mao o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd, Prifysgol Caerdydd, yn astudio anghydraddoldeb yng nghyd-destun diogelwch dŵr cartref. Mae hwn yn faes cynyddol hanfodol i'w ddeall wrth i ddŵr ffres fynd yn fwyfwy prin wrth i ffactorau fel sychder ddechrau cael effeithiau eang ar gyflenwadau dŵr ffres.
I ddechrau mynd i'r afael â hyn, edrychodd Dr Mao a'i dîm ar Gromlin Kuznets. Ers degawdau, mae newidiadau incwm ac anghydraddoldeb economaidd wedi'u disgrifio gan gysyniad o'r enw Cromlin Kuznets, sy'n awgrymu, ar ôl cynnydd cychwynnol mewn anghydraddoldeb rhwng y bobl, yr hyn sy'n dilyn yw dirywiad mewn anghydraddoldebau o'r fath.
Ym mhapur y tîm, a gyhoeddwyd yn Nature Communications, maent wedi nodi y gellir defnyddio'r un berthynas hon i ddeall yr anghydraddoldeb mewn diogelwch dŵr cartref sy'n gyffredin yn y byd. Trwy ddadansoddi data arolygon cartrefi o 7,603 o aelwydydd ar draws wyth ar hugain o safleoedd mewn dwy ar hugain o wledydd incwm isel a chanolig, darganfu Dr Mao a'i dîm fod anghydraddoldeb diogelwch dŵr cartref yn dilyn cromlin tebyg i Kuznets, sy'n awgrymu wrth i ddiogelwch dŵr dyfu, bod anghydraddoldeb diogelwch dŵr yn cynyddu'n gyntaf yna'n gostwng.
Yr hyn sy'n ddiddorol am hyn yw nad oes gan anghydraddoldeb diogelwch dŵr berthynas o'r fath â newidynnau economaidd-gymdeithasol. Mae'n awgrymu bod ffactorau nad ydynt yn economaidd, megis lefelau datblygu cynaliadwy, weithiau'n fwy pwerus na ffactorau economaidd wrth nodi neu newid dosbarthiad adnoddau a gwasanaethau. Wedi'i adeiladu ar y darganfyddiad hwn, maent yn cynnig cysyniad y Cromin Kuznets Datblygiad i ddisgrifio dynameg anllinellol anghydraddoldeb yn y cyd-destun datblygu cynaliadwy.
Fodd bynnag, nid yw'r astudiaeth yn awgrymu bod cynnydd mewn anghydraddoldeb yn anochel, ac nid yw'n awgrymu y byddai'r problemau anghydraddoldeb yn diflannu'n ddiymdrech wrth i gymdeithas barhau i wella diogelwch dŵr. Yn hytrach, mae'r astudiaeth yn darparu tystiolaeth i lunwyr polisi ac yn eu hannog i ystyried heriau anghydraddoldeb yn llawn ar y ffordd i wireddu cynaliadwyedd (e.e., gan sicrhau nad yw ymyriadau dŵr yn gwaethygu anghydraddoldebau sydd wedi ymwreiddio ymhellach ac osgoi anghyfartaleddau o ran mynediad a defnydd wrth ehangu rhwydweithiau cyflenwi dŵr). Mae cysyniad Cromin Kuznets Datblygiad yn cynnig elfen newydd i lunwyr polisi ddylunio arferion a llwybrau datblygu cynaliadwy yn well.
Bydd astudiaethau dilynol yn ymchwilio ymhellach i hyn ac yn ceisio datgelu'r mecanweithiau achosol sy'n sail i'r patrwm newydd. Trwy brofi'r berthynas anllinellol hypothetaidd gan ddefnyddio mwy o achosion gan gynnwys a thu hwnt i ddiogelwch dŵr y cartref, defnyddio arsylwadau dros amser, a cheisio cynnwys safleoedd o wledydd incwm uchel i ddeall gwahanol ddulliau datblygu.