Ewch i’r prif gynnwys

Yr Ysgol Cerddoriaeth yn y 10 uchaf yn y DU yn ôl Complete University Guide

14 Gorffennaf 2022

Piano being played

Mae'r Ysgol Cerddoriaeth wedi neidio 8 safle yn y Complete University Guide 2023, gan sicrhau lle ymysg 10 ysgol gerddoriaeth orau’r DU.

Yn ogystal â chyrraedd safle rhif 10 yn y maes pwnc hwn yn y DU, mae'r Ysgol Cerddoriaeth yn safle rhif 9 yn y DU am ragolygon graddedigion; mae hyn yn talu sylw i’r rhagolygon cyflogadwyedd rhagorol sydd gan raddedigion yr ysgol.

Mae'r Guide yn rhestru prifysgolion y DU yn genedlaethol ac mewn 70 o feysydd pwnc gwahanol, gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol fesurau gan gynnwys profiad myfyrwyr a pherfformiad academaidd.

Perfformiodd Prifysgol Caerdydd yn dda hefyd, gan gadw ei safle yn Brifysgol orau Cymru.

Daw'r newyddion ar ôl i'r Ysgol Cerddoriaeth gael ei chydnabod gan Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 y Llywodraeth fel un sy'n cynhyrchu ymchwil o ansawdd rhagorol, gyda 90% o'i hamgylchedd ymchwil yn cael ei ystyried yn ffafriol i gynhyrchu ymchwil sy'n arwain y byd neu sy'n rhagorol yn rhyngwladol.

Dyma a ddywedodd yr Athro Kenneth Hamilton, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth: "Mae sicrhau safle ymysg y 10 adran Gerddoriaeth orau yn y DU yn gydnabyddiaeth rydyn ni’n falch o’i derbyn o waith caled staff a myfyrwyr yr ysgol. Mae hyd yn oed yn fwy nodedig o ystyried yr anawsterau y mae'r sector celfyddydau perfformio cyfan wedi'i wynebu dros y blynyddoedd diwethaf. Fe ymdrechwn i wneud hyd yn oed yn well y flwyddyn nesaf!"

Rhannu’r stori hon