Ewch i’r prif gynnwys

Llysgennad Tsieina yn y DU yn ymweld â Phrifysgol Caerdydd

12 Gorffennaf 2022

Mae Llysgennad Tsieina yn y DU wedi ymweld â Phrifysgol Caerdydd i wella cysylltiadau a thrafod cydweithio agosach.

Cyfarfu Zheng Zeguang â'r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan a'r Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Rudolf Allemann ar 7 Gorffennaf.

Mae Mr Zeguang wedi bod yn Llysgennad i'r DU ers mis Mehefin 2021. Mae’n un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ar ôl astudio yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn yr 1980au.

Dyma a ddywedodd yr Athro Allemann: "Mae gan Brifysgol Caerdydd gysylltiadau hirdymor â Tsieina. Mae miloedd o fyfyrwyr yn dewis astudio ystod eang o bynciau gyda ni bob blwyddyn ac mae gennym bartneriaethau academaidd cryf â llawer o brifysgolion yno, gan gynnwys â Phrifysgol Normal Beijing, Prifysgol Technoleg Dalian, Prifysgol Peking a Phrifysgol Xiamen.

"Mae'r Llysgennad yn cefnogi’r cydweithio sy’n digwydd ym maes addysg ac ymchwil rhwng y DU a Tsieina, ac rwy'n hyderus y bydd ei ymweliad yn ein helpu i gryfhau ein cysylltiadau a'n cyfnewidiadau academaidd er budd y ddwy wlad."

Yn ôl datganiad gan Lysgenhadaeth Tsieina, dywedodd Mr Zeguang bod Caerdydd yn "brifysgol ymchwil o'r radd flaenaf yn y DU" a chanmolodd ei "ddiwylliant campws agored ac amrywiol".

Dywedodd fod Tsieina “yn gwerthfawrogi ymrwymiad cadarn Prifysgol Caerdydd i hyrwyddo cyfnewidiadau a chydweithrediad addysgol rhwng Tsieina a’r DU”. Roedd hefyd yn gwerthfawrogi’r “sylw a gofal” roddodd y Brifysgol i fyfyrwyr o Tsieina yn ystod y pandemig.

Rhannu’r stori hon

Mae gennym gysylltiadau ffurfiol â thros 35 o wledydd a phartneriaethau strategol gyda Phrifysgol Xiamen ac Unicamp.