Hwyrach y bydd anheddiad amgaeedig o gyfnod Oes yr Efydd yn cynnig y cliwiau cynharaf am wreiddiau Caerdydd
13 Gorffennaf 2022
Mae gwaith cloddio archeolegol mewn parc yn y ddinas wedi datgelu’r hyn a allai fod y tŷ cynharaf i’w ddarganfod yng Nghaerdydd.
Dechreuodd Prosiect Treftadaeth Ailddarganfod Caerau a Threlái (CAER), sef partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE), ysgolion lleol, trigolion a phartneriaid treftadaeth, ar waith cloddio ym Mharc Trelái, hanner milltir o Fryngaer Caerau, sef safle treftadaeth o arwyddocâd cenedlaethol. Cyn hyn, roedd archeolegwyr o Brifysgol Caerdydd ac aelodau o'r gymuned wedi dod o hyd i wreiddiau sy’n dyddio o’r cyfnod Neolithig, Oes yr Haearn a’r cyfnod Rhufeinig a chanoloesol.
Roedd arbenigwyr o’r farn bod yr anheddiad, sy’n dwyn yr enw 'Anheddiad Amgaeedig Trelái', yn creu'r ddolen hwyrach oedd wedi bod ar goll rhwng diwedd yr Oes Haearn a'r cyfnod Rhufeinig cynnar, gan ddangos yr hyn a ddigwyddodd i bobl ar ôl iddyn nhw symud ymlaen o'r Fryngaer.
Ond y gwir amdani yw bod y tŷ crwn, ger Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, yn rhagflaenu’r Fryngaer. Mae pot clai a ddarganfuwyd ar y safle wedi rhoi syniad mwy pendant i'r tîm o'r cyfnod amser y gellir olrhain yr adeilad iddo.
Dyma a ddywedodd Dr Oliver Davis o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd, sydd hefyd yn gyd-gyfarwyddwr Prosiect CAER: “Mae’r hyn rydyn ni wedi’i ddarganfod yn gwbl annisgwyl a hyd yn oed yn fwy cyffrous. Hwyrach y bydd yr anheddiad amgaeedig hwn yn rhoi’r cliwiau cynharaf inni am wreiddiau Caerdydd. Mae'r crochan a ddarganfuwyd wedi'i addurno'n hyfryd ac mewn cyflwr da. Yn anaml iawn y byddwn ni’n dod o hyd i grochenwaith o'r safon yma. Mae hefyd yn anarferol dod o hyd i anheddiad Oes yr Efydd yng Nghymru - dim ond un neu ddau o safleoedd eraill o'r Oes Efydd sydd yn y wlad hon.
“Hwyrach bod y bobl oedd yn byw yma yn aelodau o deulu yr aeth ei ddisgynyddion rhagddyn nhw i adeiladu Bryngaer Caerau.”
Mae bron i 300 o wirfoddolwyr wedi cymryd rhan yn y gwaith cloddio hyd yn hyn, ac mae tua 500 o ymwelwyr wedi dod i'r safle ers iddo agor.
Ychwanegodd ei gyd-gyfarwyddwr Dr David Wyatt: “Daethon ni i chwilio am y ddolen goll rhwng diwedd Oes yr Haearn a’r cyfnod Rhufeinig cynnar. Mae'r hyn y daethon ni o hyd iddo’n rhywbeth llawer mwy rhyfeddol ac yn llawer hŷn.
“Rydyn ni’n credu bellach ei bod yn bosibl i’r tŷ crwn gael ei adeiladu rhwng canol a diwedd Oes yr Efydd, gan fynd yn ôl i gyfnod rhwng 1500 a 1100 CC. Mae'r anheddiad amgaeedig yn bendant yn rhagddyddio'r fryngaer. Roedd pobl yn byw yma cyn adeiladu'r fryngaer.
“Dylai’r gymuned gyfan – yn wirfoddolwyr, yn blant ysgol a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, fod yn falch o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni yma. Dyma ddatblygiad anhygoel sy’n taflu goleuni ar drigolion cynharaf Caerdydd.”
Daeth Tom Hicks, archaeolegydd a astudiodd ar lwybr Archwilio’r Gorffennol Prifysgol Caerdydd a’r gwirfoddolwr Charlie Adams o hyd i’r crochan a’i adfer yn ystod y gwaith cloddio.
Dyma a ddywedodd Tom: “Dyma enghraifft o grochenwaith o Oes yr Efydd sydd mewn cyflwr da iawn ac yn ddarganfyddiad arwyddocaol ar gyfer byd archaeoleg yn yr ardal. Mae’n gyfle gwych inni ddysgu rhagor am fywydau’r bobl oedd yn byw ar y safle tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl.
“Mae’r addurniadau hardd ar y crochan yn dangos bod y bobl hyn eisiau dangos eu creadigrwydd i bobl eraill ac efallai y bydd rhagor o ddadansoddiadau gwyddonol yn gallu dweud wrthon ni i ba ddiben y defnyddid y crochan cyn iddo gyrraedd ffos yr anheddiad amgaeedig a sut neu ble y gwnaed y crochan. ”
Dyma a ddywedodd Martin Hulland, Pennaeth Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd: “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect archaeolegol cyffrous hwn. Roedd ein myfyrwyr wrth eu boddau’n dysgu am yr hanes sydd ond tafliad carreg i ffwrdd o’u hysgol.”
Mae'r gwaith cloddio’n rhan o brosiect y Fryngaer Gudd, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.