Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn cyhoeddi enillwyr gwobrau’r Radd Meistr Gweinyddu Dylunio (MDA) a’r Diploma Ymarfer Proffesiynol (DPP, Rhan 3), 2022
11 Gorffennaf 2022
Mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi cyhoeddi gwobr Cymdeithas y Gyfraith Adeiladu 2022 ar gyfer y radd Meistr mewn Gweinyddu Dylunio (MDA) a gwobr Stanley Cox ar gyfer y Diploma Ymarfer Proffesiynol (DPP, y Rhan 3).
Mae gwobr Stanley Cox, a roddwyd gan Stride Treglown, am y perfformiad cyffredinol gorau yn y DPP, wedi'i dyfarnu i Helen Flynn, Cynorthwy-ydd Pensaernïol mewn Pensaernïaeth Awyr, sydd hefyd wedi derbyn dyfarniad o Ragoriaeth yn y DPP.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Helen:
"Mae'r DPP yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi rhoi'r hyder i mi ymarfer fel Pensaer. Mae gennyf nawr y wybodaeth am faterion cyfreithiol, gweithdrefnol a rheoli sy'n ymwneud ag ymarfer Pensaernïaeth. Mae'n sicr wedi llywio fy ymarfer o ddydd i ddydd yn barod! Roedd y cyfuniad o ddulliau addysgu, gan gynnwys seminarau a gweithdai ar-lein, darlithoedd wyneb yn wyneb, siaradwyr gwadd, a blogiau wythnosol yn gwneud y cwrs yn ddiddorol ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ddatblygiadau cyfredol yn y diwydiant. Roeddwn wrth fy modd fy mod wedi derbyn gwobr Stanley Cox; roedd yn hynod annisgwyl ac yn ffordd wych o orffen y cwrs."
Nod y Diploma Ôl-raddedig mewn Pensaernïaeth: Mae Ymarfer Proffesiynol wedi'i gynllunio i gael ei wneud ochr yn ochr â’ch swydd, a gallwch ei wneud drwy ddysgu cyfunol neu ddysgu o bell yn unig. Mae’r rhaglen yn galluogi myfyrwyr i feithrin dealltwriaeth drylwyr o agweddau cyfreithiol ac economaidd ymarfer pensaernïol a chaffael ym maes adeiladu yn ogystal â meithrin medrau y bydd eu hangen ar bensaer i weithredu’n effeithiol.
Mae gwobr Cymdeithas y Gyfraith Adeiladu am y perfformiad gorau yn y modiwl Contractau Adeiladu (sy'n gyffredin i'r MDA a DPP), wedi'i dyfarnu i Haya Magdy Mohamed, myfyriwr MDA sy'n Bensaer yn Architekten BartonS-ASS yn Freiburg, Baden-Württemberg, yr Almaen. Teitl traethawd Haya oedd: Rheoli Risg: Cymhariaeth o'r JCT CE16 a NEC4 ECC.
Dywedodd Haya:
"Er i mi gael fy addysgu drwy ddysgu o bell, roedd y rhaglen yn rhyngweithiol ac yn hynod ddiddorol. Ro’n i wir yn gwerthfawrogi cael fy addysgu gan arbenigwyr a oedd yn rhannu profiadau gwerthfawr drwy ganolbwyntio ar arferion. Fe wnes i fwynhau’r gwahanol bynciau a gyflwynwyd i mi, a amrywiodd o gaffael prosiectau a rheoli dylunio i gyfraith adeiladu. Mae'r modiwl contractau adeiladu wedi fy ngalluogi i archwilio ystod eang o bynciau diddorol ac mae wedi bod yn fraint derbyn gwobr Cymdeithas y Gyfraith Adeiladu amdano. Yn bwysicaf oll, ro’n i wir yn gwerthfawrogi’r arweiniad a'r gefnogaeth hael a ddarparwyd gan fy Athrawon drwy gydol y rhaglen."
Mae’r MDA wedi’i gynllunio i gael ei wneud tra byddwch mewn cyflogaeth, ac fe’i cynigir ar sail dysgu cytunol neu ddysgu o bell yn unig. Nod y rhaglen yw gwneud yn siŵr bod gan fyfyrwyr yr arbenigedd angenrheidiol i weinyddu a rheoli'r broses ddylunio'n llwyddiannus wrth gaffael adeiladau.
Ar hyn o bryd mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn croesawu ceisiadau ar gyfer y Meistr mewn Gweinyddiaeth Dylunio, a'r Diploma Ôl-raddedig mewn Pensaernïaeth: Ymarfer Proffesiynol, gyda chyfarwyddyd yr Athro Sarah Lupton. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ebostiwch lupton@caerdydd.ac.uk