Tymor cyntaf llwyddiannus ar gyfer cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus newydd
11 Gorffennaf 2022
![a Black man wearing headphones sits at a laptop making notes](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0007/2635297/istockphoto-1150384596-170667a.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae cyfres ddarlithoedd cyhoeddus newydd Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc wedi cael derbyniad da yn ei thymor cyntaf.
Mae'r ganolfan ymchwil ryngddisgyblaethol, sy'n canolbwyntio ar ddeall a gwella iechyd meddwl pobl ifanc, wedi cynnal y pedair darlith rithwir gyntaf yn y gyfres fisol, sy'n cynnwys amrywiaeth o arbenigwyr sy'n gweithio yn y DU a ledled y byd.
Mae'r pynciau a drafodwyd hyd yn hyn yn y gyfres wedi cynnwys adnoddau cymorth i rieni a theuluoedd mewn argyfyngau, effaith straen, dysgu atgyfnerthu ac iselder, gweithredu ymyriadau iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc mewn cyd-destunau adnoddau isel ac iechyd meddwl plant a fabwysiadwyd o ofal.
Trefnir y gyfres gan Dr Lucy Riglin a Dr Yulia Shenderovich, sy'n cyd-arwain ffrydiau ymchwil ac arferion gwyddoniaeth agored Canolfan Wolfson.
Dywedodd Dr Lucy Riglin: "Rydym wedi bod yn falch iawn o'r ymateb cychwynnol i Ddarlithoedd Canolfan Wolfson. Dros y pedwar mis diwethaf, mae amrywiaeth wych o siaradwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau wedi ymuno â ni ar-lein, gan gynnwys arbenigwyr o Brifysgolion Rhydychen a Sussex, Coleg Prifysgol Llundain ac yma ym Mhrifysgol Caerdydd.
"Diolch yn arbennig i'r Athro Lucie Cluver, yr Athro Glyn Lewis, Dr Daniel Michelson a'r Athro Katherine Shelton am eu sgyrsiau a dechrau'r gyfres mor dda."
Ychwanegodd Dr Yulia Shenderovich: "Mae cynnal y darlithoedd ar-lein wedi galluogi'r gyfres i gyrraedd cynulleidfa ryngwladol yn barod gyda dros 400 o bobl yn cofrestru ar gyfer y gyfres hyd yn hyn. Dilynwyd pob sgwrs gan sesiwn holi ac ateb ddiddorol ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi mynychu i gefnogi'r gyfres hyd yn hyn.
"Mae'r holl sgyrsiau wedi'u recordio hefyd felly byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i ddal i fyny ar sianel YouTube Canolfan Wolfson nawr."
Daeth Dr Riglin i'r casgliad: "Mae wedi bod yn dymor cyntaf gwych i Ddarlithoedd Canolfan Wolfson ac rydym yn edrych ymlaen at weld y gyfres yn datblygu dros y flwyddyn i ddod.
"Cynhelir y sgwrs nesaf ddydd Mercher 12 Hydref am 14.00 (GMT) a byddwn yn rhannu'r manylion yn fuan."
Mae pedair Darlith gyntaf Canolfan Wolfson ar gael i'w gweld ar-lein:
- Parenting in Emergencies: evidence and innovation to support children and their caregivers
(Yr Athro Lucie Cluver, Prifysgol Rhydychen)
https://youtu.be/XNuxNl9J5S0 - Vulnerability to stressors, reinforcement learning and depression
(Yr Athro Glyn Lewis, Coleg Prifysgol Llundain)
https://youtu.be/BOrDAG7Y-Qo - Developing and implementing adolescent mental health interventions in low-resource contexts
(Dr Daniel Michelson, Prifysgol Sussex)
https://youtu.be/fjoNRhBRQ2c - The mental health and neuropsychological profile of children adopted from care (Yr Athro Katherine Shelton, Prifysgol Caerdydd)
https://youtu.be/WL4TCuTCCn0