Y Gymdeithas Astudiaethau Cymdeithasol-Gyfreithiol yn ethol Athro o Brifysgol Caerdydd yn Gadeirydd newydd
8 Gorffennaf 2022
Mae Athro’r Gyfraith, John Harrington, wedi’i ethol yn Gadeirydd newydd y Gymdeithas Astudiaethau Cymdeithasol-Gyfreithiol (SLSA).
Mae SLSA UK yn elusen gofrestredig â mwy na 1,400 o aelodau. Mae’n ceisio hyrwyddo addysg, ymchwil, addysgu a gwybodaeth ym maes astudiaethau cymdeithasol-gyfreithiol.
Mae'r Athro Harrington wedi bod yn Athro Cyfraith Iechyd Byd-eang yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ers 2014. Ef hefyd yw Cyfarwyddwr Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC, swydd y mae wedi’i dal ers 2019. Mae ei ymchwil cyfredol i iechyd byd-eang a’r genedl-wladwriaeth wedi COVID-19 yn cynnwys prosiectau mewn partneriaeth â Chanolfan Poblogaeth ac Iechyd Affrica, Ysgol y Gyfraith Strathmore yn Nairobi a Phrifysgol Caeredin. Mae’r gwaith ymchwil hwn yn cael ei gefnogi gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, yr Academi Brydeinig a rhaglen Sêr Cymru Llywodraeth Cymru. Mae ei waith yn cyfuno theori gymdeithasol a gwleidyddol â dadansoddiad o athrawiaeth gyfreithiol a gwaith maes empirig. Roedd ei ymchwil i gyfansoddiaeth ac etholiadau yn Nwyrain Affrica yn sail i astudiaeth achos ar gyfer REF 2021.
Wrth sôn am ei benodiad, dywedodd yr Athro Harrington: “Mae fy llwyddiant yn etholiad SLSA yn adeiladu ar gynhadledd flynyddol SLSA y llynedd, a gynhaliwyd ar-lein gan Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Mae hefyd yn cydnabod rôl allweddol Prifysgol Caerdydd ym maes astudiaethau cymdeithasol-gyfreithiol yn rhyngwladol, sy’n gartref i’r cyfnodolyn uchel ei barch ‘Journal of Law and Society’ a Chanolfan y Gyfraith a Chymdeithas, y mae’n ei chefnogi.”
Enwyd yr Athro Harrington yn Gadeirydd yng nghynhadledd flynyddol SLSA eleni, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerefrog. Mae wedi bod yn aelod o fwrdd SLSA ers y pum mlynedd diwethaf, a bydd yn gwasanaethu am dymor o bedair blynedd. Ac yntau’n adeiladu ar gyflawniadau’r Cadeirydd sy’n ymadael, yr Athro Rosie Harding, ac yn gweithio gydag aelodau’r bwrdd o bob rhan o’r DU, ei flaenoriaethau yw 1) cynnal a meithrin y gymuned gymdeithasol-gyfreithiol yn sgîl y pandemig, 2) dathlu llwyddiannau ysgolheigion o bob cefndir a chydweithio â nhw i wneud SLSA a’r academi’n gartref cynhwysol i’w gwaith, 3) adnewyddu ac ymestyn cysylltiadau â chyfoedion a chwaer-gymdeithasau ledled y byd, dysgu gan gydweithwyr yn y de byd-eang a chynnal cysylltiadau â phartneriaid ar gyfandir Ewrop, a 4) cynrychioli aelodau SLSA a'r ddisgyblaeth yn ehangach drwy ymyrryd mewn ffordd wybodus ac amserol â phrosesau polisi sy'n pennu'r amgylchedd academaidd ehangach.