Dŵr Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn ffurfio partneriaeth
6 Gorffennaf 2022
Mae Prifysgol Caerdydd a Dŵr Cymru wedi llofnodi partneriaeth strategol ar gyfer cydweithio ac ymchwil yn y dyfodol.
Bydd y cytundeb rhwng prifysgol ymchwil fwyaf Cymru a'r unig gwmni cyfleustodau nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr yn hwyluso mynediad at ymchwil, gwasanaethau ac arbenigedd ar y cyd.
Yn ôl yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Mae'r bartneriaeth nid yn unig yn cryfhau perthynas hirsefydlog sydd o fudd i'r ddwy ochr, ond bydd yn annog rhyngweithio yn y dyfodol i ffynnu drwy symleiddio prosesau a chwalu rhwystrau, gan ddarparu llwyfan ar gyfer mwy o effaith, o ran ymchwil a'r manteision i'r gymdeithas ehangach.”
Wrth gyd-lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, dywedodd Peter Perry, Prif Weithredwr, Dŵr Cymru: "Er bod gennym hanes hir o weithio'n agos gyda Phrifysgol Caerdydd, mae ffurfioli'r bartneriaeth yn ailgadarnhau ein hymrwymiad i berthynas strategol uchelgeisiol sy'n fuddiol i'r ddwy ochr ac sy'n cyd-fynd â'n Gweledigaeth ar gyfer 2050 a'n strategaeth arloesi ehangach. Bydd y cytundeb hwn yn ein helpu ni a Phrifysgol Caerdydd i leihau biwrocratiaeth fewnol a llunio ymchwil o ansawdd hynod uchel a fydd yn ein helpu i fod ar flaen y gad o ran ein diwydiannau.”
Bydd y ddau sefydliad yn penodi noddwr i yrru nodau'r partneriaethau, a bydd gweithgor yn dwyn ynghyd arweinwyr thema ymchwil allweddol, cyfathrebu a datblygu talent.
Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn amlinellu prosiectau pwmp-gysefin sydd â'r potensial i gyflawni canlyniadau uchelgeisiol ar raddfa eang ar draws themâu strategol. Ei nod yw rhoi hwb i nifer y prosiectau ymgynghori a ariennir yn uniongyrchol a chydweithrediadau ymchwil, gan ysgogi cyllid allanol sylweddol drwy noddwyr megis cronfa Her Ofwat, UKRI a Horizon Europe.
Ymhlith y manteision ehangach mae potensial ar gyfer secondiadau, cydweithio a chyfnewid gwybodaeth rhwng y Brifysgol a Dŵr Cymru, rhaglen sgiliau rheoli Prifysgol Caerdydd ar gyfer staff Dŵr Cymru, a mwy o brosiectau, lleoliadau ac interniaethau gyda Dŵr Cymru i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.