Celebrating Indian Dathlu Crefyddau Indiaidd gyda sefydliad ymchwil hindŵaidd newydd with new hindu research institute
4 Gorffennaf 2022
Athro o Gaerdydd yn mynd i ddigwyddiad agoriadol rhyngwladol canolfan newydd yn y DU sy'n canolbwyntio ar ysgrythurau ar Hindŵaeth yn iaith hynafol Indiaidd Sansgrit
Agorwyd Sefydliad Ymchwil BAPS Swaminarayan ar gyfer y DU ac Ewrop ar 29 Mai yn BAPS Shri Swaminarayan Mandir yn Llundain - neu’r Neasden Temple fel mae’n cael ei adnabod.
Mae Bochasanwasi Shri Akshar Purushottam Swaminarayan Sanstha - sy'n cael ei adnabod fel BAPS - yn sefydliad Hindŵaidd cymdeithasol-ysbrydol gyda'i wreiddiau yn y Vedas.
Roedd Mahamahopadhyay Bhadreshdas Swami o India a'r Athro James Hegarty o Brifysgol Caerdydd ymhlith y gwesteion o’r byd academaidd.
Mae'r digwyddiad yn nodi dechrau rhaglen o brosiectau ymchwil cymunedol, gyda chyfarwyddyd gan yr Athro nodedig mewn Sansgrit a Chrefyddau Indiaidd.
Agorwyd y digwyddiad gan blant BAPS Swaminarayan Sanstha o bob cwr o'r DU yn perfformio caneuon defosiynol, ac yna bu’r plant yn canu gweddïau heddwch Vedic ac yn adrodd adnodau Sansgrit.
Drwy gyswllt fideo o India, agorodd Ei Sancteiddrwydd Mahant Swami Maharaj y Sefydliad trwy oleuo lamp, sy'n symbol o ledaenu goleuni gwybodaeth ledled y byd, gan annog gwylwyr o bob cwr o’r byd i ddilyn ei esiampl.
Roedd y digwyddiad yn rhan o'r dathliadau i nodi canmlwyddiant ers geni Ei Sancteiddrwydd Pramukh Swami Maharaj.
Wrth annerch y gynulleidfa, dywedodd Mahant Swami Maharaj
“Roedd Yogiji Maharaj wedi rhagweld sefydliad o'r fath ac roedd yn teimlo’n angerddol dros weld pobl ifanc yn dysgu ac yn siarad Sansgrit. Mae'r Sefydliad Ymchwil wedi cyflawni'r weledigaeth hon. Boed i fyfyrwyr ragori yn eu hastudiaethau a chydweithio i wasanaethu’r gymdeithas, gan ehangu cylch undod ar draws y byd.”
Yn narlith gyntaf y sefydliad nododd yr ysgolhaig a’r awdur Mahamahopadhyay Bhadreshdas Swami negeseuon o harmoni byd-eang, gwasanaethau cyhoeddus a rhagoriaeth academaidd.
Wrth ymuno â'r dathliad, dyfynnodd yr Athro Hegarty bennill Sansgrit o'r Satsang Diksha, sy’n gweddïo dros undod, ac i gyfeillgarwch, tosturi, goddefgarwch a chariad ffynnu ymhlith holl bobl y byd.
Wrth annerch y gynulleidfa, ychwanegodd:
“Buan iawn y bydd y ganolfan ymchwil newydd yn ffynnu yma yn y DU, Ewrop - ac yn fyd-eang - o dan arweiniad sicr a medrus y swamis sydd wedi ymgynnull yma heddiw. Gall ymchwil ac addysgu sy’n seiliedig ar ymchwil, os ydynt yn seiliedig ar feistrolaeth wirioneddol a thosturiol, wneud gwahaniaeth yn y byd. Bydd y sefydliad ymchwil newydd yr ydym yn ei agor heddiw yn dangos hynny.”
Mae diddordeb cynyddol gan aelodau iau ac uwch y gymuned i ddysgu Sansgrit a chael dealltwriaeth ddyfnach o ysgrythurau eu ffydd wedi bod yn sylfaen i’r sefydliad newydd yn y DU.
Trwy ddysgu Sansgrit, llenyddiaeth Vedic clasurol a chredoau Hindŵaidd, gwerthoedd ac arferion mewn arddull Gurukul traddodiadol yn drylwyr, nod y sefydliad yw meithrin harmoni cymdeithasol, deialog rhyng-ffydd, ymgysylltu â'r cyhoedd a’r byd academaidd ochr yn ochr â chyfleoedd ar gyfer y lefel uchaf o addysg sy’n seiliedig ar werth, ymchwil arloesol a mynegiant creadigol.
Mae’r Athro James Hegarty yn Athro Sansgrit a Chrefyddau Indiaidd ac yn Bennaeth yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Maeei brosiectau ymchwil mawr yn cynnwys Hanes Achyddiaeth, Achyddiaeth Hanes: Hanes Teulu a Chreu Naratif y Gorffennol Arwyddocaol yn Ne Asia Gynnar a Hanes Straeon yn Ne Asia: Cymeriadau a Genre yn y Traddodiadau Hindŵaidd, Bwdhaidd a Jain.