Myfyrwyr MArch II yn arddangos eu gweledigaethau ar gyfer dyfodol cynaliadwy i Lofa’r Navigation, Crymlyn
4 Gorffennaf 2022
Yn ddiweddar, yn rhan o’u prosiect blwyddyn olaf, cafodd wyth myfyriwr sy’n astudio am radd Meistr mewn Pensaernïaeth y cyfle i rannu eu gweledigaethau ar gyfer dyfodol cynaliadwy i safle’r lofa hanesyddol, Glofa Navigation Crymlyn yng Ngwent.
Cynhaliwyd arddangosfa gyhoeddus o’r enw: ‘Gorffennol carbon, dyfodol carbon araf: gweledigaethau ar gyfer dyfodol cynaliadwy i Lofa Navigation, Crymlyn’ ddydd Sul 26 Mehefin ym mhwerdy’r pwll glo segur. Cafodd y myfyrwyr gyfle i arddangos eu cynigion pensaernïol sy’n edrych ar sut y gallai’r safle hanesyddol hwn gael ei ailwampio a chwarae rhan ym mrwydr Cymru yn erbyn newid hinsawdd. Er mai syniadau yw’r rhain o waith y myfyrwyr, y gobaith yw y byddant yn ysbrydoli eraill i weld potensial yr adeiladau rhestredig Gradd II*. Bydd diweddariadau ar fentrau cyfredol yn rhan o’r arddangosfa hefyd, gyda chyfraniadau gan Gyfeillion Navigation, Ysgol Busnes Caerdydd, Cenhadaeth Ddinesig Prifysgol Caerdydd Arloesedd i Bawb, Addysg Oedolion Cymru, Academi ARC, Yr Awdurdod Glo a mwy.
Dywedodd myfyrwyr MArch Jordan Grady a Rowan Luckman:
Jordan “Roedd y cyfle i arddangos ein gwaith ar y safle hwn yn brofiad anhygoel. Roedd gallu ymgysylltu â thrigolion Crymlyn a’r cyngor lleol, â strwythurau diwydiannol gorffennol carbon Crymlyn yn gefnlen i’r cyfan, yn help o ran creu cyswllt gweledol a chyd-destunol gwych i’n prosiectau arfaethedig ar gyfer dyfodol carbon isel. “
Rowan “Mae prosiectau myfyrwyr, yn ôl eu natur, bob amser mewn perygl o fod wedi’i hymbellhau oddi wrth fywyd go iawn. Dyna pam mae’r briff bywyd-go-iawn ar gyfer awgrymu dyfodol i’r lofa, ynghyd â’r ymweliadau i’r safle a’r rhyngweithio gyda grŵp cymunedol Cyfeillion y Navigation, wedi bod yn brosiect traethawd hir mor werth chweil, ac yn un ag iddo effaith. Dewisais yr uned ar sail y safle gan ein bod i gyd yn mynd i fod yn gweithio ar y safle hwnnw [yn hytrach na dewis yr uned ar sail y briff], roeddwn i’n amharod ar y dechrau i gael fy nghyfyngu i gynllun oedd yn canolbwyntio ar gadwraeth a charbon isel, dau faes yr oeddwn heb lawer o brofiad ynddynt tan eleni. Fodd bynnag, rwyf wedi wir fwynhau’r heriau a’r cyfleoedd mae’r themâu hyn wedi’u hychwanegu i’r prosiect, ac rwyf wedi gallu dylunio cynllun rwy’n teimlo perchnogaeth drosto, gan ddatblygu hefyd, ddiddordeb personol ym maes cynhyrchu a storio ynni carbon isel a glân. Mae wedi bod yn bleser gweithio gydag adeiladau hanesyddol hardd Navigation, Crymlyn ac rwy’n gyffrous i weld beth fydd gan y dyfodol i’w gynnig iddynt yn y blynyddoedd i ddod.”
Bu'r myfyrwyr yn gweithio'n agos gyda 'Cyfeillion Navigation', grŵp o aelodau a gwirfoddolwyr sy'n ymroddedig i achub yr adeiladau sydd ar safle Glofa'r Navigation. Eu nod yw sicrhau bod y gymuned yn gallu defnyddio’r safle unwaith yn rhagor, trwy adfer yr adeiladau rhestredig Gradd II i’w defnyddio mewn amrywiol ffyrdd.
Y Cadeirydd Vera Jenkins:
“Roedd dydd Sul yn ddiwrnod llawn gwybodaeth ac ysbrydoliaeth. Rydym yn falch iawn bod cyfleuster yr adeiladau a'r ardal o’u cwmpas wedi cael eu gwerthfawrogi. Fel y gwyddoch mae gennym ni fel “Cyfeillion” ethos sy’n hyrwyddo’r gymuned a chyfleoedd ar gyfer addysg.”
Y Trysorydd Bill Davison:
“Roedd yn bleser cynnal y digwyddiad ac rwy’n siŵr bod llawer o ddiddordeb wedi’i ennyn yn yr hyn y gall ein myfyrwyr heddiw ei gyflawni a hefyd ym mhrosiect Navigation.”
Cewch ragor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru ar ein gwefan.