Ymchwilydd a phartneriaid yn ennill gwobr genedlaethol am brosiect yn defnyddio dulliau arloesol yn seiliedig ar natur i ymdrin â llifogydd
1 Gorffennaf 2022
Mae Dr Catherine Wilson o'r Ysgol Peirianneg, ynghyd â Chyngor Swydd Amwythig, WSP ac Ymddiriedolaeth Natur Swydd Amwythig wedi ennill y categori 'Astudiaethau ac Ymchwil' yng Ngwobrau nodedig ICE West Midlands 2022.
Dathlodd y tîm eu llwyddiant yng Ngwobrau ICE West Midlands a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf. Mae Gwobrau ICE West Midlands yn cynnig cyfle i ddathlu pob agwedd ar beirianneg sifil ac fe'u cyflwynir i'r prosiectau peirianneg sifil, y bobl a’r ymchwil arloesol gorau ledled Birmingham, y Wlad Ddu, Coventry, Swydd Henffordd, Swydd Amwythig, Solihull, Swydd Stafford, Swydd Warwick, a Swydd Gaerwrangon.
Cyflwynwyd y wobr i'r bartneriaeth am eu hastudiaeth ag iddi effaith sylweddol: Prosiect Rheoli Llifogydd Naturiol (NFM) Slow the Flow (SStF) Swydd Amwythig. Cynhaliwyd y prosiect yn nalgylch Corvedale yn Swydd Amwythig ac roedd yn defnyddio dulliau'n seiliedig ar natur i ymdrin â llifogydd gan gynnwys strwythurau pren yn llif y dŵr a elwir yn rhwystrau sy'n gollwng, i helpu i leihau perygl lifogydd a gwella bioamrywiaeth ynghyd â chefnogi cydweithio a gwaith cymunedol.
Roedd yr ymchwil a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd yn pennu effeithiolrwydd rhwystrau sy'n gollwng o ran codi lefel y dŵr y tu ôl i'r rhwystrau a chynyddu faint o ddŵr a gâi ei storio. Roedd yr ymchwil yn cynnwys defnyddio technoleg, sgiliau a thechnegau arloesol i fesur effaith y datrysiad hwn ar sail natur o ran gwanhau'r llifogydd.
Dechreuodd y prosiect yn 2018, ac roedd yn canolbwyntio ar fonitro effeithiau rhwystrau sy'n gollwng wrth wanhau llifogydd gan ddefnyddio synhwyrydd llif doppler acwstig, mesuryddion glaw bwced tipio, a synwyryddion lefel gwasgedd drwy'r dalgylch cyfan, gan gofnodi a throsglwyddo data pob 15 munud. Defnyddiwyd yr offer monitro i gasglu tystiolaeth feintiol ar berfformiad y rhwystrau pren sy'n gollwng mewn ymateb i wahanol feintiau a nodweddion stormydd gan gynnwys pennu maint codiad dŵr ôl a chynnydd net mewn storio dŵr a gynhyrchid gan y rhwystrau sy'n gollwng.
Dywedodd ICE West Midlands, “Mae'r ymchwil hon yn cynnig llawer o fanteision hirdymor posibl i gymdeithas yn fyd-eang.”
Dywedodd y Cynghorydd Ian Nellins, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Asedau Naturiol a’r Economi Werdd:
“Rydym wrth ein bodd fod Prosiect Rheoli Llifogydd Naturiol Slow the Flow (SStF) Swydd Amwythig wedi ennill ei gategori yng Ngwobr ICE West Midlands.
“Dyma gydweithio ar ei orau. Gan ddefnyddio sgiliau, gwybodaeth a thechnegau'r holl sefydliadau dan sylw, mae ein prosiect yn dangos yn glir bod ein hymchwil yn cael ei chydnabod yn eang o fewn y diwydiant ac y bydd yn cael ei defnyddio am flynyddoedd i ddod o ran rheoli perygl llifogydd a llifogydd naturiol.
“Mae ennill gwobr o'r fath yn cryfhau ymhellach ein penderfyniad i gynyddu ein gallu i wrthsefyll yr argyfwng hinsawdd trwy brosiectau peirianneg sy'n cael eu cydbwyso â buddion amgylcheddol a gweithio gyda'r gymuned."
“Hoffwn longyfarch ein tîm Priffyrdd, WSP, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Amwythig a Phrifysgol Caerdydd ar y prosiect arloesol hwn.”
Ychwanegodd Dr Catherine Wilson, Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil Hydro-amgylcheddol ym Mhrifysgol Caerdydd:
"Bydd y wybodaeth ymarferol am adeiladu a chynllunio rhwystrau sy'n gollwng a ddysgwyd oddi wrth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Amwythig yn y prosiect hwn, ynghyd â'r dystiolaeth feintiol o effaith y rhwystrau sy'n gollwng yn Corvedale ar wanhau llifogydd, yn llywio'r gwaith o gynllunio dulliau o ymdrin â llifogydd ar sail natur ledled y DU yn y dyfodol."
"Mae'r prosiect yn enghraifft ragorol o gydweithio rhwng diwydiant, corff anllywodraethol ac academaidd, ac yn wir, y defnydd o rwystrau sy'n gollwng i gynyddu storio dŵr ac arafu hynt llifogydd mewn dalgylch afon. Gan weithio gyda'n gilydd a gyda byd natur, llwyddon ni i wneud cymaint mwy."
Ychwanegodd Luke Neal, Dirprwy Reolwr Tîm Tir a Dŵr Ymddiriedolaeth Natur Swydd Amwythig:
"Mae Ymddiriedolaeth Natur Swydd Amwythig wrth ei bodd bod ein gwaith partneriaeth wedi gallu cael ei ddefnyddio i gynhyrchu ymchwil o safon mor uchel. Mae’r math hwn o ddata'n cryfhau gallu sefydliadau fel ni i roi Rheoli Llifogydd Naturiol ar waith yn effeithiol yn y lle iawn ar y raddfa gywir i amddiffyn cymunedau a gwella gwytnwch ein tirweddau.”
Roedd categorïau Gwobrau ICE West Midlands 2022 yn cynnwys y prosiect mawr, canolig a bach gorau, yn ogystal ag anrhydeddau am wobrau cyfathrebu, arloesi, treftadaeth, cyflawniad tîm ac ystod o wobrau i bobl.
Ystyrir pob math o brosiectau o bob maint - o gynlluniau lleol i waith seilwaith traws-sirol gwerth miliynau o bunnoedd.
Cyhoeddwyd yr enillwyr yn Seremoni Wobrwyo ICE West Midlands, a gynhaliwyd ddydd Iau, 5 Mai 2022, yng Ngwesty MacDonald Burlington yn Birmingham. Yn y categori Astudiaethau ac Ymchwil, rhoddwyd Canmoliaeth Uchel i Dechnoleg Cwantwm, Mapio ac Integreiddio Mapiau ar gyfer Asedau Claddedig (QT-MIBA), a gyflwynwyd gan Brifysgol Birmingham, yn cydweithio gyda Northumbria Water ac RSK Environment.
Wrth wneud sylw am hyn, dywedodd Cyfarwyddwr Rhanbarthol ICE West Midlands, Jo Barnett:
"Llongyfarchiadau i'n henillydd ac i'r prosiectau a gafodd ganmoliaeth uchel yn y wobr Astudiaethau ac Ymchwil eleni. Mae potensial gan y ddau brosiect i wneud gwahaniaeth go iawn i gymdeithas ac i'r rheini sy'n gweithio ym maes peirianneg sifil.
“Mae ein gwobrau blynyddol yn chwarae rhan bwysig nid yn unig i ddangos pwysigrwydd ein peirianwyr sifil, nad yw pobl yn sylwi ar eu gwaith caled a'u hymroddiad yn aml, ond hefyd i ddathlu’r effaith gadarnhaol y mae peirianneg sifil yn ei chael ar fywydau pob dydd.”
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn cysylltwch â John Bellis, Rheolwr Cynllunio a Risg Llifogydd: john.bellis@shropshire.gov.uk neu Dr Catherine Wilson: wilsonca@caerdydd.ac.uk
Ariannwyd y prosiect gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.