Ewch i’r prif gynnwys

Gweithwyr proffesiynol blaenllaw ym maes y cyfryngau a chyfathrebu yn ymuno â Phrifysgol Caerdydd yn gymrodyr gwadd

1 Gorffennaf 2022

Rod Cartwright and Alex Aiken
Rod Cartwright and Alex Aiken

Mae’r gweithwyr proffesiynol ym maes y cyfryngau a chyfathrebu strategol Alex Aiken a Rod Cartwright wedi'u penodi'n gymrodyr gwadd y Ganolfan Newyddiaduraeth a Chyfathrebu Cyhoeddus, sef canolfan ragoriaeth Prifysgol Caerdydd ar gyfer ymarfer yn y cyfryngau.

Bydd Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaeth Cyfathrebu'r Llywodraeth, Alex Aiken, a’r arbenigwr o fri rhyngwladol ym maes cyfathrebu, Rod Cartwright, yn ymuno â'r Brifysgol yn gymrodyr am y tair blynedd nesaf i gefnogi'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC) wrth iddi baratoi i lansio ei gweledigaeth strategol newydd, JOMEC2025.

Bydd y ddau gymrawd yn cyfrannu eu harbenigedd ym maes cyfathrebu a yrrir gan ddata, deall ymddygiad a mynd i'r afael â chamwybodaeth er mwyn helpu i lywio'r genhedlaeth nesaf o newyddiadurwyr a chyfathrebwyr yn yr Ysgol.

Dywedodd Mr Aiken, cyn Bennaeth Proffesiynau Gwasanaeth Cyfathrebu Llywodraeth y DU (GCS) sy’n ffocysu ar waith ym maes diogelwch a chyfathrebu rhyngwladol ar hyn o bryd, ei fod yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda myfyrwyr: "Yr hyn rwy’n wirioneddol hoff ohono ynghylch y Ganolfan Newyddiaduraeth a Chyfathrebu Cyhoeddus yw egni, uchelgais ac amrywiaeth y myfyrwyr ac ymrwymiad y staff addysgu.

"Rwy'n falch iawn o fod yn gymrawd gwadd Prifysgol Caerdydd ac rwy'n edrych ymlaen at gefnogi myfyrwyr a dangos sut y gall cyfathrebu digidol modern sy'n cael ei yrru gan ddata helpu o ran arfogi pobl â gwybodaeth, gan eu galluogi i wneud y dewisiadau cywir a gwrthweithio newyddion ffug a chamwybodaeth."

Dywedodd Mr Cartwright, sydd ar hyn o bryd yn Gadeirydd Panel Cynghori'r Ysgol ar gyfer Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol a Chyfathrebu Byd-eang (MA), ei fod yn hynod falch o allu helpu i lunio dyfodol addysg gyfathrebu.

"Mae Prifysgol Caerdydd wedi sefyll allan erioed o ran canfod a meithrin rhai o'r bobl ddisgleiriaf a gorau yn y diwydiant cysylltiadau cyhoeddus rhyngwladol. Felly, mae'n fraint cael bod yn gymrawd gwadd i'r Ganolfan Newyddiaduraeth a Chyfathrebu Cyhoeddus am y tair blynedd nesaf ac yn anrhydedd gwirioneddol cael gwahoddiad i gadeirio Panel Cynghorwyr Arbenigol y Ganolfan."

Wrth groesawu'r penodiadau, dywedodd Pennaeth yr Ysgol Matt Walsh: "Rwy'n falch iawn o groesawu Alex a Rod yn gymrodyr gwadd yr Ysgol. Mae hwn yn foment allweddol ar gyfer datblygu addysgu ac ymchwil cyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd eu cyfoeth o brofiad a'u dealltwriaeth strategol yn chwarae rhan hanfodol yn y blynyddoedd i ddod."

Mae'r Ganolfan Newyddiaduraeth a Chyfathrebu Cyhoeddus yn hyrwyddo cydweithio rhwng staff ymarfer ac academyddion o fri, ymchwilwyr o'r radd flaenaf a rhwydwaith helaeth o bartneriaid ym maes diwydiant y sector cyfryngau a chyfathrebu.

Fe'i cefnogir gan gynfyfyrwyr ac ymarferwyr ledled y byd sy'n cyfrannu at raglenni hyfforddiant yr Ysgol ym maes cyfryngau sy'n arwain y diwydiant; maent yn gwneud hyn drwy gynghori ar ddatblygu'r cwricwlwm, cyflwyno darlithoedd gwadd yn eu meysydd arbenigol a mentora myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau a'u datblygiad gyrfa cynnar.

Rhannu’r stori hon

Astudiwch gyda ni, ni yw canolfan ymchwil uchaf Cymru - mewn unrhyw faes pwnc.