Gellid defnyddio system deallusrwydd artiffisial sy'n dynwared yr olwg ddynol i ganfod canser
30 Mehefin 2022
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi creu system deallusrwydd artiffisial (AI) arloesol sy'n gallu rhagweld yn fanwl gywir ble mewn delwedd y bydd rhywun fwyaf tebygol o edrych.
Yn seiliedig ar fecaneg yr ymennydd dynol a'i allu i wahaniaethu rhwng rhannau gwahanol o ddelwedd, dywed yr ymchwilwyr fod y system newydd yn dynwared golwg pobl yn fwy cywir nag unrhyw beth a gafwyd cyn hyn.
Gellid defnyddio'r system newydd ym maes roboteg, cyfathrebu amlgyfrwng, cuddwylio fideos, golygu delweddau awtomataidd a dod o hyd i diwmorau mewn delweddau meddygol.
Bellach, mae'r Grŵp Ymchwil Cyfrifiadura Amlgyfrwng ym Mhrifysgol Caerdydd yn bwriadu profi'r system drwy helpu radiolegwyr i ddod o hyd i anafodau a welir mewn delweddau meddygol, a'r nod cyffredinol yw gwella cyflymder, manwl gywirdeb a sensitifrwydd diagnosteg feddygol.
Cyflwynwyd y system yn y cyfnodolynNeuralcomputing.
Mae gallu canolbwyntio ein sylw yn rhan bwysig o'r system weledol ddynol ac yn sgîl hyn gallwn ddethol a dehongli'r wybodaeth fwyaf perthnasol mewn golygfa benodol.
Mae gwyddonwyr ledled y byd wedi bod yn defnyddio meddalwedd gyfrifiadurol i geisio ail-greu'r gallu hwn i ddewis y rhannau mwyaf amlwg mewn delwedd, ond cymysg fu’r llwyddiant hyd yn hyn.
Yn eu hastudiaeth, defnyddiodd y tîm algorithm cyfrifiadurol dysgu dwfn o’r enw rhwydwaith niwrol troellol sy’n dynwared y we ryng-gysylltiedig o niwronau yn yr ymennydd dynol ac sy’n seiliedig yn benodol ar y cortecs gweledol.
Mae'r math hwn o algorithm yn ddelfrydol i fewnbynnu delweddau a dyrannu pwysigrwydd i wahanol wrthrychau neu agweddau yn y ddelwedd ei hun.
Yn eu hastudiaeth, defnyddiodd y tîm gronfa ddata enfawr o ddelweddau. Roedd llygaid dynol wedi asesu neu wedi gweld pob un o’r delweddau ac wedyn neilltuwyd 'meysydd o ddiddordeb', fel y'u gelwir, gan ddefnyddio meddalwedd olrhain llygaid.
Yna cafodd y delweddau hyn eu bwydo i mewn i'r algorithm a chan ddefnyddio math o AI a elwir yn ddysgu dwfn, dechreuodd y system ddysgu'n araf o'r delweddau nes ei bod yn gallu rhagweld yn fanwl gywir pa rannau o'r ddelwedd a oedd yn cael eu hamlygu fwyaf.
Profwyd y system newydd yn unol â saith system amlygrwydd gweledol o'r radd flaenaf sydd eisoes yn cael eu defnyddio ac y dangoswyd eu bod yn well yn unol â phob metrig.
Dyma a ddywedodd un o gyd-awduron yr astudiaeth Dr Hantao Liu, o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd: "Mae'r astudiaeth hon wedi dangos bod ein system flaenllaw, sy'n defnyddio'r datblygiadau diweddaraf ym maes dysgu peirianyddol, yn well na'r modelau amlygrwydd gweledol sy'n bodoli ar hyn o bryd.
"Hwyrach y bydd y gallu i ragweld yn llwyddiannus ble mae pobl yn edrych mewn delweddau naturiol yn arwain at ddefnyddio’r dechnoleg gan gynnwys canfod targedau'n awtomatig, roboteg, prosesu delweddau a diagnosteg feddygol.
"Mae ein côd ar gael yn rhad ac am ddim fel y gall pawb elwa o'r ymchwil a dod o hyd i ffyrdd newydd o ddefnyddio'r dechnoleg hon i ddatrys problemau a heriau go iawn yn y byd.
"Y cam nesaf inni yw gweithio gyda radiolegwyr i benderfynu sut y gall y modelau hyn eu helpu i ganfod anafodau a welir mewn delweddau meddygol."
Mae'r côd sy'n sail i'r system newydd ar gael yn rhad ac am ddim i'r cyhoedd a gellir ei lawrlwytho yma.